Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-815 Rheoli'r Diwydiant Dofednod Dwys sy'n Ehangu'n Gyflym yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at  y canlynol:

 

·         Adnoddau Naturiol Cymru i ofyn am eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb; ac 

·         Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am ragor o wybodaeth am y ffordd y caiff datblygiadau dofednod llai eu hystyried, neu'r ffordd y gellid ystyried y mater hwn, ac a ellir grymuso Cyfoeth Naturiol Cymru i edrych ar effeithiau cronnol cael sawl datblygiad o'r fath mewn ardal benodol.

 

2.2

P-05-816 Dywedwch 'NA' i saethu ffesantod ar dir cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at:

o   Adnoddau Naturiol Cymru i ofyn am eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb a'r sylwadau manwl a wnaed gan y deisebwyr, ac i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y broses o ddadansoddi ymatebion i'r ymgynghoriad a'r amserlenni tebygol ar gyfer penderfynu ar bolisi ar y mater hwn yn y dyfodol;

o   Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am ymateb i'r pryderon a fynegwyd ynghylch digonolrwydd y Cod Ymarfer er Lles Adar Hela a'r camau a gymerir i fonitro'r cod hwn; ac i

·         drafod gofyn am amser yn y Cyfarfod Llawn i gynnal dadl ar y mater hwn unwaith y bydd ymatebion i'r cwestiynau hyn wedi dod i law.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-399 Arferion Lladd Anifeiliaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-04-433, Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai, gan gytuno i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i nodi bod y Pwyllgor yn gefnogol o'r alwad i deledu cylch cyfyng fod yn orfodol mewn lladd-dai a gofyn iddi ailystyried safbwynt Llywodraeth Cymru.

 

3.2

P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-04-399, Arferion Lladd Anifeiliaid, gan gytuno i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i nodi bod y Pwyllgor yn gefnogol o'r alwad i deledu cylch cyfyng fod yn orfodol mewn lladd-dai a gofyn iddi ailystyried safbwynt Llywodraeth Cymru.

 

 

3.3

P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i drafod gwahodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi tystiolaeth lafar ar y ddeiseb yn y dyfodol yn ystod trafodaeth ar flaenraglen waith y Pwyllgor.

 

3.4

P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad – dylid adolygu TAN 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, a chytunodd i drafod y posibilrwydd o wahodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi tystiolaeth lafar ar y ddeiseb yn y dyfodol yn ystod trafodaeth ar flaenraglen waith y Pwyllgor.

 

3.5

P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am waith gan Lywodraeth Cymru i drafod yr opsiynau ar gyfer symud ymlaen â gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, a'r amserlenni posibl dan sylw, yn dilyn ei hymateb i'r ddadl ar y ddeiseb.

 

3.6

P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i aros am ragor o wybodaeth am benderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch cyhoeddi gwybodaeth yn deillio o'r arolwg o gyflwr ysgolion, a chyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ar reoli asbestos mewn ysgolion.

 

3.7

P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am:

 

·         ei hymateb i'r cynigion a wnaed gan y deisebwyr;

·         ei barn ar y posibilrwydd y gallai'r consortia addysg rhanbarthol gymryd rhan yn y trefniadau ar gyfer darparu athrawon cyflenwi yn eu hardaloedd; a'r

·         wybodaeth ddiweddaraf am:

    • waith y Gweithgor Cyflenwi; a'r
    • adolygiad o'r contract presennol ar gyfer dewis ddarparwr yr athrawon cyflenwi.

 

3.8

P-05-807 Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am:

 

  • ei hymateb i'r awgrym gan y deisebydd y dylai cofrestrau presenoldeb gynnwys gofod i nodi absenoldebau o ganlyniad i gyflyrrau iechyd cronig; a'r
  • wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ynghylch yr adolygiad o ganllawiau presenoldeb.

 

3.9

P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan yr Adran Drafnidiaeth ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu eto at yr Adran Drafnidiaeth i ailadrodd eu bod yn gofyn am ymateb penodol i'r cwestiwn a ddylai gwregysau diogelwch fod yn angenrheidiol ar fysiau cyhoeddus ac a ddylai gwiriadau DBS fod yn ofynnol ar gyfer gyrwyr bysiau cyhoeddus, er bod y Pwyllgor yn deall nad yw'r materion hyn wedi'u datganoli.

 

 

3.10

P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol i Gleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Maelor Wrecsam

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i:

 

·         aros am farn y deisebydd ar y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; ac

·         ysgrifennu at Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru i ofyn a ydynt ymwybodol o bryderon ynghylch amseroedd aros yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Wrecsam Maelor, ac a ydynt wedi gwneud unrhyw waith ar y mater hwn.

 

 

3.11

P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd a Dr Sue Whitcombe, a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am fwriad Llywodraeth Cymru a CAFCASS Cymru mewn perthynas ag:

    • adolygu llwybrau mewn perthynas â dieithrio plentyn oddi wrth riant yng ngoleuni'r gwaith sy'n cael ei wneud gan CAFCASS yn Lloegr; a
    • datblygu'r hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr ar y rheng flaen ynghylch nodi ymddygiadau sy'n gallu arwain at ddieithrio ac ymdrin â'r ymddygiadau hyn yn briodol; a'r
  • Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ofyn a ydynt wedi trafod ymchwilio i'r mater hwn.

 

3.12

P-05-754 Diffyg cymorth i blant ag anableddau mewn argyfwng

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i aros am ganlyniad ei chyfarfod â Bwrdd Iechyd Cwm Taf cyn trafod y ddeiseb eto.

 

4.

Papurau i’w nodi

4.1

P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur.

 

4.2

P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur.

 

4.3

Senedd@Delyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 6 a 7 ar yr agenda heddiw:

Cofnodion:

Oherwydd cyfyngiadau amser ni chynigiwyd y Cynnig.

 

6.

Trafod llythyr drafft ynghylch P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu – adnabyddiaeth a chefnogaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunodd y Pwyllgor i drafod y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y tu allan i'r cyfarfod. 

 

7.

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunodd y Pwyllgor i drafod ei flaenraglen waith y tu allan i'r cyfarfod.

 

(10.00 - 10.30)

8.

Sesiwn dystiolaeth – P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Nathan Lee Davies, Deisebydd

 

Adam Samuels, Cefnogwr

 

Angie Evans, Cefnogwr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Deisebydd, Angie Evans ac Adam Samuels.