Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.  Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi ymgyrchu ar y mater.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at  y canlynol:

 

  • CNC i ofyn am:
    • eu hymateb i gynnig y deisebwyr y dylai'r risg bresennol o lifogydd gael ei ailgyfrifo ar ôl cwblhau gwaith Cam 1 a 2;
    • manylion pellach am fethodoleg yr arfarniad opsiynau a gynhaliwyd yn ystod dylunio'r cynllun a chanlyniadau'r arfarniad hwnnw;
    • diweddariad ar y canlyniadau sy'n deillio o drafodaethau diweddar gyda'r gymuned leol; a
    • sut mae cynlluniau yn cael eu blaenoriaethu ar sail Cymru gyfan, yn enwedig gan ystyried barn y gymuned leol.

 

  • Cyngor Caerdydd i ofyn am eu barn ar yr awgrym y gallai dull arall ymwneud â chodi a gostwng uchder lefel y dŵr yn Llyn Parc y Rhath i reoli perygl llifogydd i lawr yr afon.

 

 

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i:

 

·         ystyried sylwadau, a dderbyniwyd gan y deisebydd ar ôl i'r papurau gael eu cyhoeddi, mewn cyfarfod yn y dyfodol; ac

·         ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i fynegi eu barn y dylid cyhoeddi canlyniadau arolwg cyflwr yr ysgol.

 

 

3.2

P-05-733 Dim gweithredu pellach ar Barthau Perygl Nitradau (NVZ) yng Nghymru o gwbl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd ac, o gofio cefnogaeth y deisebydd ar gyfer dull Ysgrifennydd y Cabinet, cytunodd i gau'r ddeiseb.  Wrth wneud hynny, roeddent yn dymuno diolch i'r deisebydd am ddod â'r ddeiseb ymlaen a'i chyfraniad at eu hystyriaeth o'r mater.

 

3.3

P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd cyn ystyried camau pellach ar y ddeiseb.

 

3.4

P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn:

o   am ragor o wybodaeth am y graddfeydd amser disgwyliedig o ran y dull datblygu ar gyfer y fethodoleg asesu stoc ac a fydd hynny'n cael ei roi allan i dendr ar wahân;

o   gofyn iddi ymateb i bryderon gan y gymuned leol am y diffyg arwyddion amlwg a chlir sy'n ymwneud â chau'r pysgodfeydd, ac a ellir mynd i'r afael â hyn.

 

 

3.5

P-05-740 Deiseb i Warchod Ein Stryd Fawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb o ystyried y camau diweddar ar y mater hwn a diffyg ymateb diweddar gan y deisebydd

 

 

3.6

P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU i ofyn a ydynt wedi cynnal adolygiad i ddarparu gwregysau diogelwch ar bob bws sy'n cludo plant a'r angen i bob gyrrwr bws gael ei wirio gan DBS.

 

 

3.7

P-05-768 Galwad i ddychwelyd darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y Cyngor Iechyd Cymuned i ofyn am ei farn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb; a
  • cheisio rhagor o wybodaeth i wirio'r datganiad a wnaed gan y bwrdd iechyd bod nifer y marw-enedigaethau ar draws ei ardal ers 2015 "yn cymharu'n ffafriol ag unedau Mamolaeth eraill â niferoedd genedigaethau tebyg."

 

 

3.8

P-05-800 Apêl Brys am Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru i ofalu am iechyd a lles cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu, sy’n sâl neu sy’n ddigartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

  • Ystyriodd y Pwyllgor sylwadau gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i ofyn:
    • am ddiweddariad yn dilyn y cyfarfodydd a gynlluniwyd ar gyfer mis Chwefror;
    • am ragor o fanylion am Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog; ac

o   a fydd cyfle i'r deisebydd ac eraill gyfrannu at drafodaethau ar y pwnc hwn.

 

4.

Sesiwn dystiolaeth - P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch

·         Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

·         Liz Davies - Uwch Swyddog Meddygol

·         Ainsley Bladon - Arweinydd Strategaeth Iechyd Meddwl

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Liz Davies ac Ainsley Bladon, Llywodraeth Cymru.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

6.

Trafod Sesiynau Tystiolaeth Blaenorol

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r dystiolaeth a dderbyniwyd ar P-05-736 i Wneud Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn fwy Hygyrch a chytunodd i geisio ymateb y deisebydd yn dilyn y sesiwn dystiolaeth, cyn cytuno ar ba gamau pellach i'w cymryd ar y ddeiseb.