Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.  Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-798 Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

aros am farn y deisebydd ar yr ymateb gan Arweinydd y Tŷ cyn ystyried camau pellach ar y ddeiseb.

 

2.2

P-05-799: Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

gwahodd y deisebydd a Dr Elin Jones i sesiwn dystiolaeth lafar ar y ddeiseb cyn ystyried y posibilrwydd o gynnal dadl arall.

 

2.3

P-05-800 Apêl Brys am Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru i ofalu am iechyd a lles cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu, sy’n sâl neu sy’n ddigartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

aros am farn y deisebydd ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus cyn ystyried camau pellach ar y ddeiseb.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gadw llygad ar y sefyllfa tra bod yr adolygiad o anhwylderau bwyta yn mynd rhagddo hyd nes tymor yr hydref 2018 a disgwyl am wybodaeth bellach am gynnydd cyn ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ai peidio.

 

3.2

P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gadw llygad ar y sefyllfa tra bod yr adolygiad o anhwylderau bwyta yn mynd rhagddo hyd nes tymor yr hydref 2018 a disgwyl am wybodaeth bellach am gynnydd cyn ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ai peidio.

 

 

3.3

P-05-754 Diffyg cymorth i blant ag anableddau mewn argyfwng

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Cwm Taf i ofyn am ei ymateb i'r ddeiseb ac am wybodaeth am:

 

  • yr adnoddau a ddyrennir i wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS), gan gynnwys cymorth argyfwng; ac
  • y mynediad sydd gan blant ag anableddau i gymorth argyfwng CAMHS.

 

 

3.4

P-05-761 Mynnu cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Autism Spectrum Connections Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at:

  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ragor o wybodaeth am y broses o wneud penderfyniadau ynghylch datblygu a chyflwyno'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig cenedlaethol a pham na chafwyd proses dendro; a
  • Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Caerdydd a'r Fro i ofyn am fanylion y broses a ddilynwyd wrth gyflwyno'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn lleol, a sut mae'r Gwasanaeth yn gweithio gydag Autism Spectrum Connections Cymru.

 

 

3.5

P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i anfon sylwadau'r deisebydd ymlaen at y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant a gofyn am:

  • ei ymateb i'r pryderon a godwyd ynghylch gallu rhai awdurdodau lleol i ddarparu'n ddigonol y cymorth sydd ei angen ar bobl ag anableddau er mwyn byw'n annibynnol; a
  • manylion y gwaith monitro sy'n cael ei wneud wrth i awdurdodau lleol weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

 

3.6

P-05-753 Cryfhau'r Fframwaith Deddfwriaethol a Rheoleiddiol Ynghylch Cyfleusterau Prosesu Pren Gwastraff

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru am ragor o fanylion am y prosesau a ddilynir pan fydd gweithredwyr yn torri eu hamodau trwydded, yn unol â chais y deisebydd; ac

·         ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am wybodaeth am gynlluniau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, fel y cyfeirir atynt gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

3.7

P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n aelod o Gyngor Caerdydd ac aeth i gyfarfod diweddar y Cyngor lle trafodwyd y mater. 

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am y wybodaeth a ganlyn cyn cytuno ar unrhyw gamau pellach:

    • diweddariad gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi gwybod a fydd gwaith samplu ychwanegol yn cael ei gynnal ar ddyfnder ar y deunydd sydd i'w garthu;
    • canlyniadau'r dadansoddiad dos ymbelydredd a wnaed gan Cefas ar y samplau a gymerwyd yn 2009;
    • manylion unrhyw astudiaethau pellach mewn perthynas ag Aber Afon Hafren; a
    • dadansoddiad pellach gan y deisebwyr.

 

3.8

P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad - dylid adolygu TAN 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i anfon sylwadau manwl gan y deisebydd  at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni i'w hystyried, gan ofyn am ymateb yn benodol i'r awgrymiadau a wnaed gan y deisebydd am ffyrdd amgen posibl o gyfrifo cyflenwad tir.

 

 

3.9

P-05-740 Deiseb i Warchod Ein Stryd Fawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb ac, yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y byddai'n rhoi cynllun rhyddhad ardrethi parhaol ar waith ar gyfer busnesau bach o 1 Ebrill 2018, cytunwyd i roi cyfle pellach i'r deisebydd roi sylwadau gerbron y cyfarfod nesaf ar 27 Chwefror ac i gau'r ddeiseb hon os na cheir ymateb.

 

 

(09.45)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 5 a 7 ar yr agenda heddiw

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.45)

5.

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y flaenraglen waith a chytunodd ar amserlen ar gyfer sesiynau tystiolaeth yn y dyfodol.

 

Mewn perthynas â P-05-751, Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant, cytunodd y Pwyllgor i wahodd CAFCASS Cymru a'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant i roi tystiolaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol, ac i geisio tystiolaeth ysgrifenedig ynglŷn â'r ddeiseb gan nifer o sefydliadau eraill.

 

 

(10.00)

6.

Sesiwn Dystiolaeth – P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Chris Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Yr Is-adran Ansawdd Gofal Iechyd

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chris Jones, Llywodraeth Cymru.

 

7.

Trafod y sesiwn dystiolaeth flaenorol

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ynghylch P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc a chytunodd i lunio adroddiad ar y ddeiseb.