Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.  Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Roedd wedi llofnodi'r ddeiseb i gefnogi'r mater.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • gwahodd y deisebydd i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf a fydd ar gael; ac
  • aros am ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru i gwestiynau manwl a holwyd mewn llythyr gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

 

Wedi i'r camau hyn gael eu cwblhau, cytunodd y Pwyllgor y bydd yn ystyried eto a ddylid ceisio amser ar gyfer dadl ynghylch y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn.

 

2.2

P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad – dylid adolygu TAN 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ynghylch ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig cyn penderfynu ar unrhyw gamau pellach i'w cymryd.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan y Llywydd yn rhinwedd ei rôl fel Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad a chytunodd i aros am ymateb gan y deisebydd i'r wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd cyn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach.

 

 

3.2

P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gysylltu eto ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am fanylion yr amserlenni y mae'n eu bwriadu ar gyfer cynnal yr adolygiad o Fframwaith Anhwylderau Bwyta Llywodraeth Cymru.

 

 

3.3

P-05-761 Mynnu cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Autism Spectrum Connections Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Autism Spectrum Connections Cymru, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol i ofyn am fanylion y prosesau a ddilynwyd adeg dyfarnu cyllid ar gyfer y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, ac a roddwyd cyfleoedd i sefydliadau'r trydydd sector wneud cais.

 

 

3.4

P-05-763 Diweddaru’r cyngor a roddir ynghylch strôc – B.E.F.A.S.T. – a helpu i achub bywydau a bywoliaethau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gymdeithas Strôc, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn a yw'n credu y gallai Llywodraeth Cymru neu'r Grŵp Gweithredu Strôc gymryd unrhyw gamau ychwanegol i sicrhau bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn ymwybodol o symptomau ychwanegol strôc, fel problemau gyda golwg a chydbwysedd; ac wrth wneud hynny

·         cau'r ddeiseb, o ystyried y cyngor a gafwyd gan y Gymdeithas Strôc a barn y Grŵp Gweithredu Strôc mai prin yw'r dystiolaeth i gefnogi newid y negeseuon cyfredol ynghylch symptomau strôc, a rhoi diolchiadau'r Pwyllgor i'r deisebydd am gyfrannu at drafodaeth ddefnyddiol ar y mater hwn.

 

 

3.5

P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ac, o ystyried natur fanwl y wybodaeth a ddarparwyd, cytunodd i roi mwy o amser i'r deisebwyr baratoi sylwadau cyn ystyried unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.

 

 

3.6

P-05-716 Cludiant am ddim ar drenau i ddisgyblion ysgol gyda Threnau Arriva Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a chytunodd i aros am farn y deisebydd am yr ohebiaeth ddiweddaraf, ynghyd ag ymateb i wybodaeth y gofynnwyd amdani'n flaenorol gan Trenau Arriva Cymru, cyn ystyried unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.

 

 

3.7

P-05-770 Ailagor Gorsaf Drenau Crymlyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chytunodd aros am farn y deisebydd am hyn cyn ystyried unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.

 

 

3.8

P-05-774 Ewch Heibio’n Llydan ac yn Araf (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan Gymdeithas Ceffylau Prydain ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:

 

  • Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am amlinelliad o'r gweithgareddau y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd â nhw i gyflawni'r camau gweithredu perthnasol yn y Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd; a'r
  • Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i ofyn a yw'r heddluoedd yng Nghymru wedi gwneud unrhyw waith i wella diogelwch ceffylau a marchogion sy'n defnyddio'r ffyrdd, gan gynnwys hyrwyddo ymgyrchoedd i atal pobl rhag mynd heibio'n agos.

 

 

3.9

P-05-775 Cau'r bwlch gweithredu tacsis yn drawsffiniol ac is-gontractio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i aros nes bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi crynodeb o'i hymgynghoriad cyhoeddus diweddar ynghylch diwygiadau posibl i drwyddedu tacsis, a ddisgwylir cyn diwedd 2017, cyn ystyried camau pellach ynghylch y ddeiseb.

 

 

3.10

P-05-778 Amddiffyn y Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu eto at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am gadarnhad na fydd y bysgodfa'n cael ei hailagor nes bod canlyniadau'r asesiad stoc yn cael eu hystyried.

 

3.11

P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan CLlLC, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at Gymdeithas Brydeinig Athrawon Pobl Fyddar (BATOD) Cymru i ofyn am ei barn am y materion a gododd yn y ddeiseb, yn enwedig addysgu iaith arwyddion Prydain mewn ysgolion, ac addysgu drwy'r iaith honno; a
  • dwyn ynghyd amlinelliad o'r dystiolaeth a ddaeth i law fel y gall yr Aelodau benderfynu a ddylid llunio adroddiad ar ystyriaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb.

 

 

(09.50)

4.

Sesiwn dystiolaeth ar gyfer P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch

Laura Williams, Deisebydd

 

Alun Thomas, Prif Weithredwr - Hafal

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y deisebydd, Laura Williams, ac Alun Thomas, Prif Weithredwr Hafal.

 

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.

 

6.

Trafodaeth o sesiynau tystiolaeth blaenorol

6.1

P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn y sesiwn gynharach a chytunodd i wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

6.2

P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn Ddeddf

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y sesiynau tystiolaeth a gynhaliwyd ar 3 Hydref a 7 Tachwedd mewn perthynas â'r ddeiseb hon a P-04-575 Galw i mewn pob cais cynllunio ar gyfer cloddio glo brig, a chytunodd i lunio adroddiad ar ystyriaeth y Pwyllgor o'r ddwy ddeiseb.

 

 

6.3

P-04-575 Galw i mewn bob cais cynllunio ar gyfer cloddio glo brig

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y sesiynau tystiolaeth a gynhaliwyd ar 3 Hydref a 7 Tachwedd mewn perthynas â'r ddeiseb hon a P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn Ddeddf, a chytunodd i lunio adroddiad ar ystyriaeth y Pwyllgor o'r ddwy ddeiseb.

 

 

7.

Trafod crynodeb - P-04-564 Adfer gwlâu i gleifion, gwasanaeth mân anafiadau ac uned pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y crynodeb drafft a diwygiadau pellach, a chytunodd i'w cyhoeddi wedi iddynt gael eu cwblhau.