Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

(9.30) Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, a

Rhun ap Iorwerth AC a Neil McEvoy AC i'r Pwyllgor Deisebau.

Anfonodd Mike Hedges AC ei ymddiheuriadau ac roedd David Rees AC yn bresennol fel dirprwy.

 

 

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-781 Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd David Rees y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n cefnogi'r ddeiseb gan ei bod yn effeithio'n uniongyrchol ar ei etholaeth.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at  y canlynol:

  • y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn cyn gynted â phosibl; a'r
  • Weinyddiaeth Gyfiawnder i'w hysbysu am y ddeiseb ac y bydd y Pwyllgor yn gofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn.

 

 

2.2

P-05-782 Adeiladu Ffordd Osgoi Cas-gwent i Gael Gwared ar y Tagfeydd oddi ar yr M48 i'r A48

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ynghylch ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith cyn penderfynu ar gamau pellach i'w cymryd ynghylch y ddeiseb.

 

2.3

P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru cyn penderfynu ar gamau pellach i'w cymryd ynghylch y ddeiseb.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, byrddau iechyd lleol a chyrff proffesiynol, a chytunodd i wahodd Ysgrifennydd y Cabinet i gyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol i roi rhagor o dystiolaeth cyn llunio adroddiad ar y ddeiseb.

 

 

3.2

P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y diffyg ymateb gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ohebiaeth y Pwyllgor, a chytunodd i ysgrifennu llythyr pellach at CLlLC yn mynegi ei siom a gofyn am ymateb brys i'r llythyr dyddiedig 3 Awst.

Yn dilyn y cyfarfod, daeth ymateb i law gan CLlLC.

 

 

3.3

P-05-760 Atal TGAU Cymraeg Gorfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ymrwymiad digamsyniol a fynegwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet i astudiaeth orfodol o'r Gymraeg ar lefel TGAU, a'i hatebion i'r pryderon a fynegwyd gan y deisebydd.

 

3.4

P-04-688 Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith a chytunodd i aros am farn y deisebydd ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf cyn ystyried cau'r ddeiseb, yng ngoleuni'r wybodaeth a ddaeth i law a chyllid pellach a ymrwymwyd gan Lywodraeth Cymru yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2018-19.

 

 

3.5

P-05-738 Deiseb Gyhoeddus ar gyfer Ffordd Osgoi i Ddinas Powys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor gohebiaeth gan Gyngor Bro Morgannwg, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Bro Morgannwg i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf pan fydd Cabinet y Cyngor wedi trafod canlyniadau'r adroddiad Cam 2 WelTAG.

 

 

3.6

P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y diffyg ymateb gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ohebiaeth y Pwyllgor, a chytunodd i ysgrifennu llythyr pellach at CLlLC yn mynegi ei siom a gofyn am ymateb brys i'r llythyr dyddiedig 24 Gorffennaf.

 

 

3.7

P-05-758 Cerflun i Anrhydeddu Billy Boston

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ofyn i'r deisebydd roi diweddariad pellach i'r Pwyllgor am y prosiect maes o law.

 

3.8

P-05-776 Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Rhun ap Iorwerth y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae mewn cysylltiad â'r prif ddeisebydd ynghylch y mater.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd i rannu gwybodaeth am y digwyddiad diweddar yn y Senedd a'r atebion a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, a gofyn a yw'n gwybod am unrhyw sefydliadau neu unigolion addas a allai gyflwyno cynigion pendant.

 

 

3.9

P-05-742 Peidiwch â Gadael i Forsythia Gau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac Ymddiriedolaeth Ddatblygu 3G i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu gwasanaethau nawr ac yn y dyfodol i bobl ifanc yng Nghanolfan Ieuenctid Forsythia.

 

3.10

P-05-715 Gwahardd Cynhyrchu, Gwerthu a Defnyddio Maglau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y mater wedi bod yn destun sylw manwl yn ddiweddar gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y pwyllgor hwnnw.

 

 

3.11

P-05-773 Peidiwch â Llenwi Safleoedd Tirlenwi!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Caerdydd i rannu sylwadau'r deisebydd ynghylch y bagiau ailgylchu a ddefnyddir yng Nghaerdydd, a'i chynnig y dylid gosod sticeri ar finiau du i godi ymwybyddiaeth y bydd gwastraff ynddynt yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.

 

 

4.1

P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn Ddeddf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, Neil Hemington a Joanne Smith.

 

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ymchwilio ymhellach i sylwadau a briodolir i’r arolygydd cynllunio yn ystod gwrandawiad apêl ynghylch cais cloddio glo brig ym Mryn Farteg, ac ysgrifennu at y Pwyllgor.

4.2

P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, Neil Hemington a Joanne Smith.

 

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ymchwilio ymhellach i sylwadau a briodolir i’r arolygydd cynllunio yn ystod gwrandawiad apêl ynghylch cais cloddio glo brig ym Mryn Farteg, ac ysgrifennu at y Pwyllgor.