Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 251KB) Gweld fel HTML (86KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-754 Diffyg Cymorth i Blant ag Anableddau Mewn Argyfwng

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i rannu profiadau'r deisebydd a gofyn:

  • a yw'n arferol ledled Cymru i blant ag anawsterau dysgu beidio â gallu cael mynediad at dimau gofal argyfwng gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed; ac
  • a oes unrhyw gynlluniau i ehangu mynediad at y gwasanaethau hyn.

 

 

2.2

P-05-758 Cerflun i Anrhydeddu Billy Boston

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr i rannu'r wybodaeth a gafwyd am opsiynau posibl ar gyfer ariannu cerflun ac yn gofyn iddynt roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am unrhyw gynnydd maes o law.

 

2.3

P-05-759 Ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn adeg y Pasg 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried cyllido Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi'r gwaith o ailagor y Ffordd Goedwig i gerbydau ac i dynnu sylw at bryderon y deisebydd ynghylch yr amserlen ar gyfer yr astudiaeth arfaethedig.

 

 

2.4

P-05-760 Atal TGAU Cymraeg Gorfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ac ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg cyn penderfynu ar y camau priodol i'w cymryd.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.14

P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn beth fydd goblygiadau datganoli pwerau pellach dros olew a nwy ar y tir i bolisi Llywodraeth Cymru.

 

3.2

P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn y cwestiynau penodol a ganlyn a gynigiwyd gan y deisebwyr:

 

o   a fydd yr adolygiadau arfaethedig yn cynnwys gwerthusiad o'r posibilrwydd o gyflwyno System Dychwelyd Ernes ac asesiad o'r ddeddfwriaeth sydd ei hangen; ac

o   a fydd rhanddeiliaid yn gallu ymgysylltu â Llywodraeth Cymru mewn modd ystyrlon wrth iddi werthuso'r dystiolaeth o'r adolygiadau hyn cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol.

 

Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ystyried cynnal ymchwiliad i'r cynnig yn y ddeiseb unwaith i ymateb Ysgrifennydd y Cabinet ddod i law.

 

 

3.3

P-04-442 Sicrhau cymorth da i blant anabl a'u teuluoedd sy'n agos i'w cartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers iddi gael ei chyflwyno ac oherwydd nid yw'n bosibl nodi sut i ddwyn y ddeiseb ymlaen yn absenoldeb cyswllt gan y deisebydd.

 

 

3.4

P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd, a chytunodd i wahodd y deisebwyr a Diabetes UK Cymru i roi tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor ar y ddeiseb a'r wybodaeth a gafwyd hyd yn hyn.

 

 

3.5

P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol i Gleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Maelor Wrecsam

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ofyn a yw amseroedd aros mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys wedi parhau i wella yn Ysbyty Maelor Wrecsam a pha gamau sy'n cael eu cymryd yn genedlaethol i wella amseroedd aros mewn achosion brys.

 

 

3.6

P-05-701 Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffordd ar hyd Cefnffordd Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth yr A487, i Gynnwys Mannau Pasio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad y trafodaethau rhwng swyddogion a Chyngor Ceredigion ynghylch mesurau pellach posibl i wella'r A487.

 

 

3.7

P-05-714 Cynnwys Gorsaf ar Gyfer Mynachdy a Thal-y-bont fel Rhan o Unrhyw Gynnig ar Gyfer Metro Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i:

 

·         ofyn am fanylion y drafodaeth ar orsaf newydd yng Ngabalfa fel rhan o'r Asesiad Cymal 1 o Flaenoriaethu Gorsafoedd Rheilffordd Newydd; a

·         gofyn a fydd ystyriaeth ar wahân yn cael ei rhoi i gysylltiadau posibl â Metro De Cymru yn yr ardal a gwmpesir gan y ddeiseb.

 

 

3.8

P-05-738 Deiseb Gyhoeddus ar gyfer Ffordd Osgoi i Ddinas Powys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Bro Morgannwg i ofyn barn y cyngor ar destun y ddeiseb a gofyn am ragor o wybodaeth am yr adolygiad o seilwaith trafnidiaeth yn y Fro.

 

 

3.9

P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater hwn, a phenderfyniad Llywodraeth Cymru, cyn ystyried a oes angen cymryd camau ychwanegol ynghylch y ddeiseb.