Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 561KB) Gweld fel HTML (221KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Roedd Angela Burns yn dirprwyo ar ran Janet Finch-Saunders.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-745 Mwy o ddarpariaeth ar gyfer chwaraeon moduro oddi ar y ffordd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ganlyniad cyfarfod y deisebydd â swyddogion Llywodraeth Cymru cyn ystyried sut i symud y ddeiseb yn ei blaen.

 

2.2

P-05-746 Cludiant ysgol am ddim i bob plentyn yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am sylwadau'r deisebydd i ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith cyn ystyried sut i symud y ddeiseb yn ei blaen.

 

2.3

P-05-747 Profi am TB mewn gwartheg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am sylwadau'r deisebydd i ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig cyn ystyried sut i symud y ddeiseb yn ei blaen.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried bod y deisebydd yn fodlon ar yr ymrwymiadau a wnaed o ran darparu gwasanaethau, cytunodd i gau'r ddeiseb.  Roedd yr Aelodau hefyd am longyfarch y deisebwyr am ganlyniad llwyddiannus eu deiseb.

 

3.2

P-05-697 45,000 o Resymau Pam bod ar Gymru Angen Strategaeth ar Ddementia

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried bod prif nod y ddeiseb yn cael ei diwallu bellach, cytunodd i gau'r ddeiseb.  Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau am ddiolch i'r deisebwyr am eu hymgysylltiad â'r broses ddeisebu.

 

3.3

P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol ar gyfer Cleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam / Ysbyty Maelor Wrecsam

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd i ymateb i'r ohebiaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr cyn ystyried sut fyddai orau i symud y ddeiseb yn ei blaen.

 

3.4

P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn a gymerwyd unrhyw gamau pellach o ran y mater hwn er mwyn ymateb i'r wybodaeth a gafwyd gan awdurdodau lleol, ers yr ohebiaeth ddiwethaf rhwng y Pwyllgor a'i rhagflaenydd ym mis Chwefror 2016.

 

3.13

P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae ei chwaer yn fyddar iawn, ac mae ef wedi bod yn ymwneud â'r deisebwyr ond nid yw wedi ymwneud â'r ddeiseb benodol hon.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r deisebwyr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i roi tystiolaeth yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

 

3.6

P-05-727 Arian i dalu ffi cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg ar ran Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau’r ddeiseb gan fod pwnc gwreiddiol y ddeiseb fel y'i cyflwynwyd, sef lefel sybsidiaredd 2017/18, wedi cael ei sortio.

 

3.7

P-05-701 Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffyrdd ar Hyd Cefnffordd yr A487 Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, I Gynnwys Lle i Fynd Heibio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gysylltu â'r deisebydd i ofyn a oes ganddo unrhyw sylwadau apellach ynghylch y wybopdaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

3.8

P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch canlyniad trafodaethau'r deisebwyr â swyddogion Llywodraeth Cymru.

 

 

 

 

3.9

P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         aros am ymateb gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn nodi a ydynt yn bwriadu cynnal unrhyw waith pellach ar y mater hwn, cyn penderfynu sut i symud y ddeiseb yn ei blaen; a

·         gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant pryd y mae'n bwriadu gwneud datganiad ar y mater.

 

4.

Sesiwn dystiolaeth - P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt

09:20 – 10:00

Panel 1 - Gweithredwyr Gwasanaethau Rheilffyrdd

  • Rheilffordd y Great Western - Joe Graham, Cyfarwyddwr Sicrwydd Busnes.
  • Trenau Arriva Cymru - Barry Lloyd, Pennaeth Profiad y Cwsmer a Geraint Morgan, Rheolwr Materion Cymunedol.
  • Network Rail - Margaret Hickish MBE, Rheolwr Mynediad a Chynhwysiant.

 

10:05 – 10:45

Panel 2 - Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau a Chynrychiolwyr y Diwydiant

  • Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru - John Pockett, Cyfarwyddwr.

 

  • First Cymru - Justin Davis, Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

  • Bws Caerdydd - Cynthia Ogbonna, Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y tystion gwestiynau gan y Pwyllgor.