Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Statudol Cyhoeddus i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion eraill

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig er mwyn rhannu'r sylwadau a wnaed yn ddiweddar gan y deisebydd, ac er mwyn gofyn am gael gwybod pan fydd cwmpas ac amserlen ar gyfer datblygu cynigion diwygio yn cael eu cwblhau y flwyddyn nesaf.

 

2.2

P-05-720 Deiseb Cyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn i Osod Band Eang Ffibr Opteg yn y Pentref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd cyn penderfynu a ddylid cymryd camau gweithredu pellach.

 

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-436 Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i longyfarch y deisebydd ar ganlyniad llwyddiannus ei ymgyrch ac i gau'r ddeiseb.

 

3.2

P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon rannu copi o ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon pan fydd wedi dod i law, ac i ofyn am ragor o sylwadau gan y deisebydd bryd hynny.

 

3.3

P-04-659 Talwch Gostau Teithio Llawn Myfyrwyr Nyrsio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan nad yw'r deisebydd wedi ymateb i nifer o geisiadau am sylwadau ganddo ar yr ohebiaeth sydd wedi dod i law yn ystod y chwe mis diwethaf.

 

3.4

P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • Cael tystiolaeth ychwanegol gan Diabetes UK Cymru;
  • aros am unrhyw ymateb y mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn ei gael gan Rwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc a; a
  • defnyddio'r rhain fel sail ar gyfer llythyr arall at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.

 

 

3.5

P-04-556 Na i gau Cyffordd 41

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y datganiad a wnaed yn ddiweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith a chytunodd i longyfarch y deisebwyr ar ganlyniad llwyddiannus eu hymgyrch ac i gau'r ddeiseb.

 

 

3.6

P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ganlyniadau'r archwiliad yn ogystal ag ymateb y deisebydd cyn trafod y ddeiseb ymhellach.

 

3.7

P-04-670 Ffilm am Owain Glyndŵr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan nad yw'r deisebydd wedi ymateb i nifer o geisiadau am sylwadau ganddo ar yr ohebiaeth sydd wedi dod i law yn ystod y chwe mis diwethaf.

 

3.8

Deiseb P-04-688 Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb. Yn sgil y gwaith sy'n mynd rhagddo ar y mater hwn, a'r sylw sy'n cael ei roi iddo gan Bwyllgor arall, penderfynodd y Pwyllgor y dylid cadw golwg ar y mater. 

 

3.9

P-05-709 Cylchffordd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i roi gwybod iddo am sylwadau'r deisebydd ac i ofyn am wybodaeth ynghylch y datblygiadau diweddaraf.

 

3.10

P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am  wybodaeth ynghylch Bil Cymru cyn ail-drafod y mater â Llywodraeth Cymru.

 

3.11

P-05-705 Annog Pwyllgorau Cynllunio i Sicrhau bod Penderfyniadau Cynllunio yn Rhoi Sylw Dyledus i’r Effaith ar Grwpiau Cymunedol a Sefydliadau Gwirfoddol Lleol, neu i’r Posibilrwydd y bydd y Grwpiau a'r Sefydliadau hyn yn cau.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         aros am sylwadau'r deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig; ac

·         ysgrifennu at Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ofyn am sylwadau’r sefydliad  ar bwysigrwydd y materion a godwyd yn y ddeiseb.

 

3.12

P-04-673 Galw ar bob Plaid Wleidyddol Gymreig i Gynnig Popeth yn Ddwyieithog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan nad yw'r deisebydd wedi ymateb i nifer o geisiadau am sylwadau ganddo ar yr ohebiaeth sydd wedi dod i law yn ystod y chwe mis diwethaf.

 

3.13

P-04-679 Dileu'r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i roi rhagor o amser i’r deisebydd roi sylwadau ar yr ohebiaeth a gafwyd gan y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau ar y pryd.

 

3.14

P-04-675 Talwch Gost y Dreth Ystafell Wely yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan nad yw'r deisebydd wedi ymateb i nifer o geisiadau am sylwadau ganddo ar yr ohebiaeth sydd wedi dod i law yn ystod y chwe mis diwethaf.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Item 5.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

5.

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.