Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 283KB) Gweld
fel HTML 71KB) |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-714 Cynnwys Gorsaf ar Gyfer Mynachdy a Thal-y-bont fel Rhan o Unrhyw Gynnig ar Gyfer Metro Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y
deisebydd ar ymateb y Llywodraeth cyn penderfynu sut i fwrw ymlaen â'r ddeiseb. |
|
P-05-716 Cludiant am Ddim ar y Trenau i Ddisgyblion Ysgol gyda Threnau Arriva Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
Arriva Trains Wales i'w gwneud yn ymwybodol o'r ddeiseb a gofyn am eu barn ar y
materion a nodwyd, gan gynnwys pryder y deisebydd ynghylch diogelwch ar y
platfform yng ngorsaf Treorci. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-691 Bargen Deg ar gyfer Ralïo mewn Coedwigoedd yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Janet Finch-Saunders y buddiant perthnasol canlynol o dan Reol
Sefydlog 17.24A:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a Cyfoeth Naturiol Cymru
a chytunodd i longyfarch y deisebwyr ar ganlyniad llwyddiannus eu hymgyrch a
chau'r ddeiseb. |
|
P-04-687 Adolygiad o Bysgota Cregyn Bylchog ym Mae Ceredigion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a chytunodd i
ofyn am farn y deisebydd ar y datganiad cyn penderfynu sut i fwrw ymlaen â'r
ddeiseb. |
|
P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i roi copi i'r
deisebydd o'r canllawiau diweddaraf ar ddefnyddio trefniadau oriau nas warentir
a gofyn am ei barn ar hyn. |
|
P-676 Creu Pencampwr yr Iaith Gymraeg mewn Cymunedau yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at
Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ofyn am ei farn ar gydnabyddiaeth y Prif
Weinidog o'r potensial i gynghorau cymuned a thref ystyried penodi pencampwr y
Gymraeg. |
|
P-05-694 Amseroedd Ysgol Awr yn Hwyrach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am farn y
deisebydd cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach. |
|
P-04-674 Dyfed, Dim Diolch Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i longyfarch y
deisebwyr ar ganlyniad llwyddiannus eu hymgyrch a chau'r ddeiseb. |
|
P-04-681 Caniatáu i’r Cyhoedd Recordio Cyfarfodydd Llywodraeth Leol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a yw'n bwriadu datblygu y ddarpariaeth a
gynlluniwyd yn flaenorol i'w gwneud yn orfodol i Awdurdodau Lleol ddarlledu
cyfarfodydd ac, os felly, sut. |
|
P-04-539 Achub Cyfnewidfa Glo Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am
ganlyniad y Ceisiadau sydd gyda Cadw ar hyn o bryd a chynllun cadwraeth y
datblygwr, a barn y deisebydd ar ôl hynny, cyn penderfynu a ddylid cymryd
unrhyw gamau pellach. |
|
P-04-664 Datblygwch Fferm Tynton yn Ganolfan Ymwelwyr a Gwybodaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb ac, o ystyried barn y
deisebydd bod y cyfle i gyflawni nod y ddeiseb wedi'i golli, cytunwyd i gau'r
ddeiseb gan ddiolch i'r deisebydd am gymryd rhan yn y broses ddeisebu. |
|
P-05-698 Ailenwi Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn Maes Awyr Rhyngwladol y Dywysoges Diana Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb,
gan fod Maes Awyr Caerdydd wedi datgan yn glir mai eu cyngor i Lywodraeth Cymru
yw cadw enw Maes Awyr Caerdydd. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 5. Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
Adolygiad o'r System ddeisebau Cymru y Cynulliad Cenedlaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor argymhellion Adolygiad System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol
Cymru. |