Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod PDF (211KB) Gweld fel HTML (59KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

Roedd Adam Price yn bresennol yn lle Neil McEvoy.

 

Roedd Janet Finch-Saunders wedi anfon ei hymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-704 Dod ag Arholiadau mis Ionawr yn ôl ar gyfer Myfyrwyr Safon Uwch/Uwch Gyfrannol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb y deisebydd cyn trafod y ddeiseb ymhellach.

 

2.2

P-05-707 Rhaid i Hyfforddiant Athrawon Gynnwys Hyfforddiant Statudol ar Awtistiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn a yw'r Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud ag awtistiaeth mewn hyfforddiant athrawon drwy'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg sydd i ddod, a'r amserlen arfaethedig ar gyfer hyn.

 

 

2.3

P-05-709 Cylchffordd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at yr Archwilydd Cyffredinol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gofyn iddynt roi ystyriaeth lawn i'r ddeiseb wrth ystyried prosiect Cylchffordd Cymru.

 

2.4

P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i wahodd y deisebwyr i roi tystiolaeth bellach i'r Pwyllgor.

 

2.5

P-05-711 Sicrhau bod Anghenion Pobl Anabl am Addasiadau i Dai yn cael eu Diwallu’n Ddigonol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i gael barn:

 

·         y deisebwyr ar y fframwaith newydd ar gyfer addasiadau yn y cartref sy'n cael ei weithredu ar hyn o bryd; a

·         Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac Anabledd Cymru ar y materion a godwyd yn y ddeiseb a gweithredu'r fframwaith newydd.

 

 

 

2.6

P-05-712 Byddai Adran Llywodraeth Cymru o fewn Ewrop yn sicrhau llais clir, strategol ac atebol i Gymru mewn trafodaethau parhaus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i basio'r ddeiseb a sylwadau ychwanegol y deisebydd at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a gofyn iddo ystyried codi'r materion yn y ddeiseb wrth graffu ar waith Prif Weinidog Cymru ar y goblygiadau i Gymru o'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

 

2.7

P-05-713 The Wildlife Warriors

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb y deisebwyr cyn trafod y ddeiseb ymhellach. 

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunwyd i aros am ymateb y deisebydd cyn trafod y ddeiseb ymhellach. 

 

 

3.2

P-04-457 Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.3.

 

3.3

P-04-474 Cefnogaeth i Wasanaethau Caplaniaeth y GIG

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-04-457 Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol, a chytunwyd i gau'r ddwy ddeiseb o gofio ystyriaeth fanwl y Pwyllgor blaenorol o'r materion a'r datganiad clir o farn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.

 

 

3.4

P-05-693 Rhowch y Brechlyn Llid yr Ymennydd B i Bob Plentyn yng Nghymru am ddim

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Meningitis Now a Sefydliad Ymchwil Llid yr Ymennydd i ofyn am eu barn ar ymestyn y rhaglen frechu bresennol.

 

3.5

P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a, gan fod ymchwil i economeg y diwydiant cartrefi mewn parciau bellach wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, cytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ofyn am sylwadau'r Llywodraeth ar yr argymhellion mewn perthynas â gallu perchnogion safleoedd i godi tâl comisiwn ar werthu cartrefi mewn parciau.

 

3.6

P-05-702 Gofynion presenoldeb y Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

 

  • gau'r ddeiseb, o ystyried boddhad y deisebydd; ac
  • anfon sylwadau ychwanegol y deisebydd at y Llywodraeth a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr er mwyn llywio eu gwaith ar y mater hwn.

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Item 5.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

5.

Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor argymhellion Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.