Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o drafodion y
cyfarfod (PDF 165KB). Gweld fel HTML(177KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
||
Deisebau newydd |
||
P-04-688 Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, o gofio bod y Pwyllgor
Menter a Busnes ar y pryd wedi cyfarfod i drafod y materion a oedd yn ymwneud â
TATA Steel ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad, cytunodd i ofyn i Bwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau a yw’n bwriadu ystyried y mater ymhellach, ac os
felly, a fyddai’n cynnwys y materion a godwyd gan y ddeiseb fel rhan o’r
ystyriaeth honno. |
||
P-05-698 Ailenwi Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn Maes Awyr Rhyngwladol y Dywysoges Diana Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
Faes Awyr Caerdydd, yn gofyn am eu barn ar y cynnig penodol, ac ynghylch a yw
wedi ystyried yr egwyddor o enwi’r maes awyr ar ôl person blaenllaw o Gymru. |
||
P-05-699 Cronfa Driniaeth i Gymru - rhaid dod â’r Loteri Cod Post ynghylch Iechyd i ben Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, o gofio y gallai
cyhoeddi cronfa driniaeth newydd fynd i’r afael â’r materion a godwyd gan y
ddeiseb, cytunodd i ofyn am farn y deisebydd cyn penderfynu a ddylid cymryd
unrhyw gamau pellach. |
||
P-05-700 Ariannu Cyllid Myfyrwyr ar gyfer Cyrsiau Ôl-raddedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, o gofio y bydd y cynllun
benthyciadau i fyfyrwyr ôl-raddedig ar waith ar gyfer y flwyddyn academaidd
2017-18, cytunodd i gau’r ddeiseb. |
||
P-05-701 Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffordd ar Hyd Cefnffordd yr A487 Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, i Gynnwys Mannau Pasio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: ·
Yn gofyn am amserlen fwy penodol ar gyfer yr adolygiad y mae ei swyddogion
yn ei gynnal ar hyn o bryd, ac yn gofyn bod y Pwyllgor yn cael gwybod cyn
gynted ag y mae canlyniadau’r adolygiad ar gael; ac ·
Gan ddwyn i’w sylw sylwadau penodol y deisebydd sy’n gofyn am astudiaeth o
ddarpariaeth lonydd goddiweddyd diogel, ac yn gofyn a fyddai modd iddynt gael
eu hystyried fel rhan o’r adolygiad. |
||
P-05-702 Gofynion presenoldeb y Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn
barn y deisebydd am yr ymateb cadarnhaol yn gyffredinol gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg. |
||
P-05-703 Cynnig i ohirio’r Cyfyngiadau ar Bysgota yn Afonydd Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i’w chau ac wrth
wneud hynny, anfon sylwadau’r deisebydd at Gyfoeth Naturiol Cymru cyn
ymgynghoriad arfaethedig y corff hwnnw ar fesurau rheoli stoc eogiaid sydd i
gael ei gynnal ar ddiwedd 2016 / dechrau 2017. |
||
P-05-706 Sicrhau bod ein Cynghorau yn cael eu Hadfywio drwy Gyflwyno Tymor Sefydlog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, o gofio bod y cynnig
wedi’i ystyried a’i wrthod gan Lywodraeth Cymru, cytunodd i gau’r ddeiseb. |
||
P-05-708 Gwneud Iechyd Meddwl yn Rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf ac, o ystyried yr
ymateb cadarnhaol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, cytunodd i gau’r
ddeiseb. |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-04-683 Coed mewn Trefi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu
at: ·
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn os bydd
canllawiau yn cael eu llunio ar y manteision y gall coed eu cynnig mewn trefi a
dinasoedd ac ar wella brigdwf; ·
Cyfoeth Naturiol Cymru i ofyn pa gefnogaeth y mae’n ei ddarparu ar gyfer
plannu coed stryd unigol mewn trefi a dinasoedd. |
||
P-05-691 Bargen Deg ar gyfer Ralïo mewn Coedwigoedd yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Amgylchedd a Materion Gwledig a sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i
ofyn i’r deisebydd a Chyfoeth Naturiol Cymru p’un a ydynt wedi llwyddo i ddod i
gytundeb, ac ystyried camau pellach yng ngoleuni’r ymateb. |
||
P-05-654 Gwrthwynebu’r Cynigion Presennol o ran Dynodi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gyfer Llamhidyddion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Janet Finch-Saunders y
buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae hi’n hyrwyddwr y llamhidydd
harbwr. Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Amgylchedd a Materion Gwledig, ac o ystyried y wybodaeth a ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet cytunwyd y dylid cau’r
ddeiseb. |
||
P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Amgylchedd a Materion Gwledig ac, yng ngoleuni ymateb Ysgrifennydd y Cabinet ac
mai ychydig yn fwy y gallai’r Pwyllgor ei wneud i symud y mater ymlaen,
cytunodd i gau’r ddeiseb. |
||
P-04-516 Gwneud Gwyddor Gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o Addysg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac, yn
unol â phenderfyniad y Pwyllgor blaenorol, cytunodd i gau’r ddeiseb. |
||
P-04-637 Diogelu Dyfodol Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru ac, o gofio
nad oedd dim pellach y gallent ei wneud i symud y mater ymlaen, cytunwyd i
gau’r ddeiseb. |
||
P-04-677 Mynediad Cyfartal i’r Iaith Gymraeg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan
Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a sylwadau pellach gan y deisebydd, a
chytunodd i gau’r ddeiseb. Wrth wneud
hynny, cytunodd hefyd i ofyn i’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
ystyried y ddeiseb yn ystod ei waith craffu arfaethedig ar waith Comisiynydd y
Gymraeg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. |
||
P-05-694 Amseroedd Ysgol Awr yn Hwyrach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn: ·
a fydd hi’n ystyried rhoi canllawiau i awdurdodau lleol, fel yr awgrymwyd
gan y deisebydd; ac ·
a yw hwn yn faes lle y mae angen rhagor o waith ymchwil, ac a fyddai
Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymchwil o’r fath. |
||
P-05-695 Cyflwyno Addysg Iechyd Meddwl Orfodol mewn Ysgolion Uwchradd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr ag eitem agenda 2.9
(P-05-708 i Wneud Iechyd Meddwl yn Rhan o’r Cwricwlwm) a chytunodd i gau’r
ddeiseb. |
||
P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Simon Mann, Pennaeth Adran Dosimetreg
Ymbelydredd y Ganolfan Peryglon Ymbelydredd, Cemegolion a Pheryglon Amgylcheddol
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i gau’r ddeiseb. |
||
P-05-693 Rhowch y Brechlyn Llid yr Ymennydd B i Bob Plentyn yng Nghymru am ddim Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd cyn penderfynu a
ddylid gofyn am ddadl ar y mater yn y Cyfarfod Llawn. |
||
P-05-697 45,000 o Resymau Pam bod ar Gymru Angen Strategaeth ar Ddementia Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr, a oedd wedi’u
gwahodd i fod yn rhan o grŵp gorchwyl a gorffen a oedd i gael ei sefydlu i
ddatblygu strategaeth dementia, i ofyn iddynt annog y rhai sydd wedi llofnodi’r
ddeiseb i roi eu barn ar y strategaeth pan gaiff ymgynghoriad ei chynnal arni. |
||
P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd ac, fel y
gofynnwyd gan y deisebwyr, cytunodd i gadw’r ddeiseb ar agor ac i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet a’r deisebwyr eto yn ddiweddarach yn yr hydref i gael
adroddiad ar gynnydd. |
||
P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi
a’r Seilwaith a chytunodd i ysgrifennu ato, yn mynegi siom ynghylch yr oedi
wrth symud ymlaen â’r archwiliad diogelwch ffyrdd cam 4, ac yn gofyn iddo am
amserlen fwy pendant. |
||
P-05-689 Gwelliannau i’r Ddarpariaeth Reilffyrdd yng Nghydweli Sir Gaerfyrddin Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a’r Seilwaith ac, o ystyried y wybodaeth ddefnyddiol a gafwyd yn yr
ymateb, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb. |
||
P-04-686 Dylid Gosod System Goleuadau Traffig yng Nghylchfan Cross Hands Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r
Seilwaith a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd cyn penderfynu sut i weithredu
ar y ddeiseb. |
||
P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan - Y Fenni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi
a’r Seilwaith ynghyd â sylwadau gan Nick Ramsay AC a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet i gael eglurhad ynghylch: ·
Cynlluniau i godi rhwystr sŵn ochr yn ochr â rhan o’r A40; ·
A yw’n dal yn fwriad gan Lywodraeth Cymru i roi wyneb newydd ar yr adran
hon o’r A40, fel y nodwyd yn y Cynllun Gweithredu ar Sŵn 2013-2018. |
||
P-04-672 Dod â defnydd o’r Gymraeg i ben Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd, a chan iddynt deimlo na
allent wneud rhagor i fynd â’r ddeiseb yn ei blaen, cytunwyd i gau’r ddeiseb. |
||
(10:15 - 10:45) |
P-04-668 Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari (CA125) Deisebydd – Margaret Hutcheson Dogfennau ategol:
Cofnodion: Atebodd y deisebydd gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. Nododd y Cadeirydd y trefnwyd i’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau
Cymdeithasol fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 27 Medi, a chytunodd
y Pwyllgor i ysgrifennu ati i ofyn am ragor o wybodaeth am y gost a
amcangyfrifir ar gyfer cyflwyno sgrinio ar gyfer canser yr ofari yng Nghymru
gan ddefnyddio prawf gwaed CA125. |