Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus' Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Tai a Llywodraeth Leol i: ·
ofyn am ei
barn yn benodol mewn perthynas â rhinweddau ac ymarferoldeb galwad y ddeiseb am
wahardd neu foratoriwm ar y defnydd o bensaernïaeth elyniaethus yng Nghymru; ·
gofyn iddi
ystyried cyflwyno nodyn cyngor technegol ynghylch y defnydd o bensaernïaeth
elyniaethus; a ·
gofyn iddi
pa fesurau rheoli ym maes cynllunio y gellid eu gweithredu er mwyn darparu
goruchwyliaeth agosach ar gread pensaernïaeth elyniaethus yn ôl-weithredol. |
|
P-05-865 Dylid gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus, i ddiogelu hawliau figaniaid ac er budd ein hiechyd, yr amgylchedd ac anifeiliaid. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg i ofyn pa asesiad neu
waith ymchwil sydd wedi ei wneud mewn perthynas â digonolrwydd yr opsiynau sydd
ar gael ar fwydlenni ysbytai ac ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd i bobl sy'n
dilyn deiet fegan. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a
chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil y cadarnhad a gafwyd bod polisi Llywodraeth
Cymru wedi ei ddiwygio gan olygu y bydd Gweinidogion yn cael eu hysbysu ynghylch,
ac yn ystyried ailystyried, bob cais cynllunio yn y dyfodol ar gyfer
datblygiadau olew a nwy anghonfensiynol, lle nad yw awdurdodau cynllunio lleol
wedi penderfynu eu gwrthod. |
|
P-05-788 Cael gwared ar agwedd orfodol Bagloriaeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i: ·
aros tan
cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch statws
Bagloriaeth Cymru a'i anfon at y deisebydd iddo wneud sylwadau; ac ·
ysgrifennu
eto at CBAC i ofyn am ymateb ar y mater hwn ac i fynegi siom na chafwyd ymateb
i'r ohebiaeth flaenorol. |
|
P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i
wahodd y Gweinidog Addysg i ddod i un o gyfarfodydd y Pwyllgor i roi rhagor o
dystiolaeth ynghylch y mater. |
|
P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i: ·
ysgrifennu
at y deisebwyr ac eraill i roi gwybod iddynt mai'r cam gweithredu priodol yw
iddynt godi eu pryderon yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog Addysg a gofyn iddi
ystyried a oes cyfiawnhad iddi ymyrryd yn yr achos hwn, fel yr amlinellir yn ei
llythyr; a ·
ysgrifennu
at y Gweinidog Addysg yn gofyn iddi am ymateb i'r cynnig y dylid cael ffordd
uniongyrchol i lywodraethwyr ysgolion apelio penderfyniadau a wneir o dan y Cod
Trefniadaeth Ysgolion, a gofyn iddi ddarparu manylion ynghylch unrhyw
ystyriaeth a roddwyd i'r broses apeliadau yn ystod yr adolygiad o'r Cod. |
|
P-05-812 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog ymddiriedolaethau i weithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y deisebydd a chytunwyd ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch datblygu
gwasanaethau therapi seicolegol, gan gynnwys y cyllid a roddwyd i fyrddau
iechyd, ers ei lythyr blaenorol ym mis Mehefin 2018. |
|
P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i aros tan y cyhoeddiad a ddisgwylir
ynghylch cyllid i gefnogi'r Rhaglen Gwella Bywydau a chanlyniad yr ymgynghoriad
a gynhelir gan yr Adran Iechyd yn Lloegr, cyn ystyried pa gamau pellach i'w
cymryd mewn perthynas â'r ddeiseb. |
|
P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am ymateb
i'r wybodaeth a'r awgrymiadau a gynigiwyd gan Gyngor Sir Benfro, i ofyn am y
wybodaeth ddiweddaraf ynghylch asesiadau pellach a wnaed mewn perthynas â
dyluniad y ffordd a diogelwch y cyffordd, a gofyn am gopi o'r adolygiad 36 mis
RSA. |
|
P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru i ofyn am ei barn ynghylch y
materion a godwyd yn y ddeiseb a gofyn am unrhyw sylwadau sydd ganddi ynghylch
priodoldeb a diogelwch plant sy'n defnyddio bysiau cyhoeddus i deithio i ac o'r
ysgol. |
|
P-05-833 Gwella gwasanaethau rheilffordd i Gas-gwent Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach ac, yn sgil gwybodaeth a gafwyd gan Weinidog yr
Economi a Thrafnidiaeth, cytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail ei bod yn ymddangos
mai ychydig iawn yn fwy y gellid ei gyflawni ar yr adeg yma. |
|
P-05-818 Cyflwyno Cofrestr o Lobïwyr yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Safonau i ofyn:
|
|
P-05-813 Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (maglau dal sawl math o frân) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a
Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn tynnu sylw at y wybodaeth a dderbyniwyd gan
ystod o randdeiliaid, a gofyn am ymatebion i'r pryderon a godwyd ynghylch
defnyddio a rheoleiddio baglau Larsen yn ogystal â gwybodaeth bellach am unrhyw
gamau sy'n cael eu cymryd neu eu hystyried yn y maes hon. |
|
Sesiwn dystiolaeth – P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol Julie Morgan AC, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol at y Cadeirydd Gareth Griffiths, Pennaeth Talu am Ofal, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
a Gareth Griffiths. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitem 6 |
|
Trafod Sesiynau Tystiolaeth Blaenorol Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ofyn mewn chwe mis am y wybodaeth
ddiweddaraf ynghylch y broses bontio a chanlyniadau'r adolygiadau a gynhaliwyd
gan weithwyr cymdeithasol annibynnol. |