Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil McEvoy.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-833 Gwella gwasanaethau rheilffordd i Gas-gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am ragor o fanylion am gynlluniau ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â gorsaf Cas-gwent, a pham na ellir cyflawni'r cynnydd arfaethedig yng ngwasanaethau Masnachfraint Cymru a'r Gororau o aros yng Nghas-gwent tan fis Rhagfyr 2022.

 

 

2.2

P-05-834 Dylai Pob Ysgol Fod yn Ysgol Cyfrwng Cymraeg ac Addysgu Hanes Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb. Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor am gael rhagor o wybodaeth hefyd gan y deisebydd am y datganiad a wnaed yn y ddeiseb bod hanes Cymru wedi'i ysgrifennu yn Gymraeg.

 

 

 

2.3

P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i:

·         grwpio'r ddeiseb hon gyda deiseb P-05-775 Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis, a'u hystyried gyda'i gilydd yn y dyfodol; ac

·         aros i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar gynigion i ddiwygio trwyddedu cerbydau hurio preifat a thacsis yng Nghymru gael ei gyhoeddi, cyn ystyried camau pellach ar y ddeiseb.

 

2.4

P-05-836 Adroddiadau ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhyweddau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan Arweinydd y Tŷ cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.

 

2.5

P-05-837 Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i

ysgrifennu at y deisebwyr:

  • i esbonio mai ychydig iawn o graffu ymarferol y gall y Pwyllgor ei wneud ar yr agwedd gorsaf bŵer niwclear Wylfa Newydd, gan mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y datblygiad hwn; a
  • gofyn a hoffent gynnig unrhyw sylwadau ychwanegol ar y prif bwyntiau a godwyd yn y ddeiseb sy'n ymwneud â sut y gellid gwella neu gynyddu'r gefnogaeth a'r buddsoddiad mewn technolegau adnewyddadwy a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.

 

 

2.26

P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chadw llygad ar y ddeiseb yng ngoleuni'r gwaith craffu cynhwysfawr a roddwyd i'r mater hwn gan yr ymchwiliad cyhoeddus ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal dadl lawn ar y mater hwn cyn gwneud penderfyniad.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-775 Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:

 

·         grwpio'r ddeiseb hon gyda deiseb P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru a'u hystyried gyda'i gilydd yn y dyfodol; ac

·         aros i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar gynigion i ddiwygio trwyddedu cerbydau hurio preifat a thacsis yng Nghymru gael ei gyhoeddi, cyn ystyried camau pellach ar y ddeiseb.

 

3.2

P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Mind Cymru a'r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn nifer o gwestiynau yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddaeth i law, gan gynnwys:

    • disgwyliadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag argaeledd gwasanaethau argyfwng ledled Cymru sydd ar gael bob awr o bob dydd;
    • data ar ba mor hir y mae cleifion yn aros am fynediad at therapïau seicolegol ar hyn o bryd; a
    • pryd y caiff adroddiad ar gynnydd o dan y cynllun cyflawni: Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, ei gyhoeddi.

 

3.3

P-05-791 Diddymu contractau parcio preifat yn ysbytai Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith y gellir parcio am ddim ym mhob ysbyty GIG yng Nghymru ers 1 Hydref 2018.

 

 

3.4

P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r deisebydd, a chytunodd i:

  • ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei ymateb i'r cynnig a wnaed gan yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig i Lywodraeth Cymru weithredu trefniant dros dro i alluogi cleifion yng Nghymru i gael gafael ar Orkambi, a'r defnydd posibl o Gofrestr CF y DU;
  • ysgrifennu at Vertex Pharmaceuticals i ofyn iddynt roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am ganlyniad unrhyw gyfarfod â Grŵp Strategaeth Meddygaeth Cymru Gyfan; ac
  • archwilio ffynonellau cyngor neu arbenigedd pellach a allai gefnogi'r Pwyllgor i ystyried y ddeiseb hon ymhellach.

 

 

3.5

P-05-812 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog ymddiriedolaethau i weithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan fyrddau iechyd lleol a'r deisebydd a chytunodd i:

  • fynd ar drywydd ymateb nad oedd wedi ei gael gan un bwrdd iechyd; a
  • gofyn i Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad am ddadansoddiad o'r ymatebion a ddaeth i law a chymhariaeth â chynnwys canllawiau NICE.

 

 

3.6

P-05-799 Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i:

 

  • ofyn am restr o'r ysgolion arloesi sy'n gweithio'n benodol ar elfen hanes y cwricwlwm newydd, er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith sy'n cael ei wneud; a
  • gofyn am ei barn ar sut y gallai'r cwricwlwm newydd sicrhau cydbwysedd priodol rhwng rhoi disgresiwn i ysgolion ac athrawon ar gynnwys gwersi, a sicrhau bod disgyblion yng Nghymru yn cael eu haddysgu am hanes cenedlaethol a lleol.  

 

 

 

 

3.7

P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r deisebydd a chytunodd i drefnu i gymryd tystiolaeth lafar gan y grŵp ymgyrchu a Cyfoeth Naturiol Cymru ar y mater hwn.

 

 

 

3.8

P-05-790 Mynd i'r afael â chysgu ar y stryd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni boddhad y deisebydd gyda'r argymhellion sy'n deillio o ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i gysgu allan.

 

 

3.9

P-05-758 Cerflun i Anrhydeddu Billy Boston

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith na dderbyniwyd unrhyw ddiweddariad gan y deisebwyr am 12 mis, a'r tebygolrwydd nad oes llawer o waith craffu ymarferol y gall y Pwyllgor ei wneud i'r mater hwn. Wrth wneud hynny, dymunodd y Pwyllgor lwc i'r deisebwyr gyda'r prosiect hwn.

 

 

3.10

P-05-742 Peidiwch â gadael i Forsythia gau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith nad yw'n ymddangos yn bosibl bellach i symud y ddeiseb hon ymlaen oherwydd y diffyg cysylltiad gan y deisebwyr ac effaith diwedd cyllid Cymunedau'n Gyntaf.

 

 

(9.45 - 10.45)

4.

Sesiwn Dystiolaeth P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd.

·         Simon Green – Bridgend Coalition for Disabled People

 

·         Helen Fincham - Bridgend Coalition for Disabled People

 

·         Rhian Davies – Disability Wales

 

·         Anita Davies – RNIB

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Simon Green, Helen Fincham, Rhian Davies ac Anita Davies.

 

 

(10.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 6

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

6.

Trafodaeth am Sesiwn Dystiolaeth Flaenorol - P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd.

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunodd i ysgrifennu at:

·         Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip i roi gwybodaeth am y materion a glywyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth a gofyn a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno cynllun o'r fath. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i fynegi pryderon ynghylch y dystiolaeth a gafwyd nad yw'r darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 wedi cael fawr o effaith ar wella hygyrchedd adeiladau ar gyfer pobl ag anableddau; a'r

·         Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i fynegi pryderon ynghylch y dystiolaeth a gafwyd mai ychydig iawn o effaith o ran gwella hygyrchedd adeiladau y mae'r darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 wedi ei chael ar gyfer pobl ag anableddau, ac nad yw gofynion y Ddeddf yn cael eu gorfodi'n briodol.