Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.  Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         cynnal ymchwiliad byr, trefnu sesiynau tystiolaeth llafar yn hwyrach yn nhymor y gwanwyn; ac

·         yn y cyfamser, gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig bellach gan randdeiliaid perthnasol ar y materion a nodir yn y ddeiseb.

 

2.2

P-05-807 Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         aros am safbwyntiau'r deisebydd ar yr ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg;

·         ystyried camau pellach, gan gynnwys ysgrifennu at Estyn, ar ôl cael safbwyntiau'r deisebydd.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-399 Arferion Lladd Anifeiliaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn i Lywodraeth Cymru ystyried y mater hwn ymhellach yn sgil cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ei bod yn bwriadu gwneud teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn orfodol yn Lloegr, ac ymrwymiad Llywodraeth yr Alban i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater.

 

3.2

P-04-433: Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-399 Arferion Lladd Anifeiliaid a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn i Lywodraeth Cymru ystyried y mater hwn ymhellach yn sgil cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ei bod yn bwriadu gwneud teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn orfodol yn Lloegr, ac ymrwymiad Llywodraeth yr Alban i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater.

 

 

3.3

P-05-759 Ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn adeg y Pasg 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i barhau i edrych ar y datblygiadau a gofyn am ddiweddariad gan y deisebwyr a Chyfoeth Naturiol Cymru mewn chwe mis.

 

3.4

P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn:

·         pan fydd y contract asesu stoc yn cael ei roi i dendr, dylai'r cylch gwaith gynnwys mathau, dwysedd ac iechyd corfforol cyllyll môr yn ogystal ag asesiad o'r effeithiau amgylcheddol posibl gorbysgota ar welyau cregyn bylchog;

·         codi arwyddion mwy amlwg a chadarn yn sgil pryderon a fynegwyd nad yw'n ymddangos bod yr arwyddion presennol yn addas at y diben.

 

3.5

P-05-779: Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod ymatebion gan bum awdurdod lleol a nododd yn flaenorol nad oeddent yn sganio carcasau anifeiliaid anwes fel mater o drefn, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebwyr.  Yn sgil cyfeiriad diweddar at awdurdod lleol arall mewn perthynas â'r mater hwn, cytunodd Aelodau i ofyn am eglurhad pellach ynghylch pa awdurdodau lleol nad ydynt yn sganio carcasau anifeiliaid anwes gyda'r bwriad o bosibl i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i awgrymu ei bod hi'n cyhoeddi canllawiau pellach ar y mater.

 

 

 

3.6

P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru a'r deisebydd a chytunwyd i:

 

·         ysgrifennu at Cefas i ofyn am eu hymateb i bryderon dros y fethodoleg brofi a godwyd gan y deisebwyr;

·         llunio adroddiad crynodeb o'r dystiolaeth a ddaeth i law wrth i'r Pwyllgor drafod y ddeiseb; a

·         gofyn am amser am ddadl yn y Cyfarfod Llawn yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad.

 

3.7

P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad - dylid adolygu TAN 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

·         ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i:

o   rannu pryderon y deisebydd ynghylch effaith cymhwyso TAN 1 ar Gynlluniau Datblygu Lleol, yng nghyd-destun yr ymgynghoriad presennol ar Bolisi Cynllunio Drafft Cymru;

o   gofyn am ragor o wybodaeth am waith ymchwil i'r materion gyda'r penderfyniad i gyflenwi tir tai y cyfeiriwyd ato yn ei llythyr ar 6 Mawrth; 

·         trefnu sesiynau tystiolaeth lafar ar y ddeiseb ar gyfer hwyrach yn nhymor yr haf.

 

3.8

P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio a chytunodd i aros am gyhoeddiad yn dilyn adroddiad gan ddadansoddwyr annibynnol ar y wybodaeth ariannol a rannwyd gan berchnogion safleoedd cyn trafod p'un a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb.

 

3.9

P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ofyn am ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet unwaith y bydd wedi ystyried yr ymatebion i'r arolwg ar gyflwr ysgolion a'r ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid allweddol ar y Canllawiau i Reoli Asbestos mewn Ysgolion.

 

3.10

P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi cael llythyr ynghylch absenoldeb heb awdurdod o'r ysgol.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn, a chytunwyd i aros am gopi o'r gwerthusiad o hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer peidio â mynychu ysgolion yn rheolaidd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac am ddiweddariad pellach ar yr adolygiad ehangach o'r polisi presenoldeb, fel y cytunwyd yn flaenorol.

 

3.11

P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon ochr yn ochr â P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol, a chytunodd i aros am gopi o'r gwerthusiad o hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer peidio â mynychu ysgolion yn rheolaidd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac am ddiweddariad pellach ar yr adolygiad ehangach o'r polisi presenoldeb, fel y cytunwyd yn flaenorol.

 

 

3.12

P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd Aelodau ymatebion i adroddiad cryno'r Pwyllgor ar ei drafodaeth o'r ddeiseb hyd yma a chytunodd i gau'r ddeiseb, yn sgil ei gasgliad ei bod hi'n well mynd i'r afael â materion heb eu datrys drwy'r prosesau craffu lleol sy'n mynd rhagddynt.  Wrth wneud hynny, roedd Aelodau yn dymuno diolch i'r deisebydd am ei amser a'i ddiwydrwydd drwy gydol ystyriaeth y Pwyllgor o'r mater hwn.

 

3.13

P-05-754 Diffyg cymorth i blant ag anableddau mewn argyfwng

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i ofyn eu bod yn cwrdd â'r deisebydd i drafod ei phryderon ynghylch y cymorth sydd ar gael ac opsiynau gofal posibl yn y dyfodol, gyda'r bwriad o gau'r ddeiseb unwaith y bydd y cyfarfod wedi digwydd.

 

 

3.14

P-05-761 Mynnu cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Autism Spectrum Connections Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro a'r deisebydd, a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil y wybodaeth a ddaeth i law ac oherwydd nad yw'r Pwyllgor Deisebau mewn sefyllfa i argymell y dylai sefydliadau penodol gael cyllid gan Lywodraeth Cymru neu eraill.

Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau am ddiolch i'r deisebydd am godi mater mor bwysig drwy'r broses ddeisebau.

 

 

3.15

P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ynghyd â'r sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

 

·         ofyn am dystiolaeth ysgrifenedig ynghylch cau Grant Byw'n Annibynnol Cymru gan sefydliadau sy'n cefnogi pobl anabl;

·         gwahodd y deisebydd a'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant i roi tystiolaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

3.16

P-05-731 Gwerthu Tir a Lonydd Mynediad yn Abercwmboi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

·         ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn i'r Llywodraeth ymgynghori ag unrhyw breswylwyr fydd yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol os yw'n cynnig gwerthu'r tir;

·         cadw llygad ar ddatblygiadau.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 5 a 6

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

5.

Trafod Adroddiad Drafft - Deisebau P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn Ddeddf a P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

Dogfennau ategol:

5.1

P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Cofnodion:

Derbyniwyd yr adroddiad gyda rhai newidiadau ychwanegol.

 

 

5.2

P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

Cofnodion:

Derbyniwyd yr adroddiad gyda rhai newidiadau ychwanegol.

 

 

6.

Crynodeb o Dystiolaeth - P-05-736 Gwneud Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn Fwy Hygyrch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor grynodeb o'r dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ofyn am ragor o wybodaeth gan sefydliadau iechyd meddwl trydydd sector ynghylch y materion a nodwyd yn y ddeiseb a'r dystiolaeth a ddaeth i law hyd yma.