Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-771 Ailystyried cau Grant Byw'n Annibynnol Cymru a chefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn

 

·         Ystyried y ddeiseb ymhellach yng nghyd-destun y cyhoeddiad ar y gyllideb yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw; ac yn y cyfamser

 

·         Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu pryderon y deisebydd a gofyn:

 

o   a fydd hi'n cyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus a chofnodion y grŵp rhanddeiliaid fel gofynnodd y deisebydd;

o   p'un ai a wnaed Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac a ellir rhoi hwn i’r Pwyllgor a’r deisebydd; ac

am ei barn ynghylch a fydd y trefniadau trosiannol arfaethedig yn sicrhau y bydd amcanion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) wedi cael eu rhoi ar waith gan awdurdodau lleol cyn cau Grant Byw'n Annibynnol Cymru.

2.2

P-05-773 Peidiwch â Llenwi Safleoedd Tirlenwi!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebwyr am ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig cyn penderfynu pa gamau i’w cymryd mewn perthynas â’r ddeiseb yn y dyfodol. 

2.3

P-05-774 Ewch Heibio’n Llydan ac yn Araf (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gwnaeth David Rowlands ddatgan y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae ei ferch yn marchogaeth ceffylau.

 

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: 

 

·         Ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ofyn a fyddai’n ystyried a ellid rhoi cymorth ychwanegol i ymgyrch “Dead? Or Dead Slow” Cymdeithas Ceffylau Prydain; ac

·         Ysgrifennu at Gymdeithas Ceffylau Prydain i ofyn eu barn am y ddeiseb a’r camau y credir y gellid eu cymryd i gynyddu ymwybyddiaeth o’r angen i arafu wrth basio ceffylau a rhoi digon o le iddynt.

 

 

2.4

P-05-776 Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Celfyddydau Cymru i ofyn:

 

o   p’un ai fod unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau wedi cael eu cynnal yn ystod 2017 i gydnabod tri chan mlwyddiant geni William Williams;

o   os na, pa ystyriaeth roddwyd i nodi’r garreg filltir hon yn ystod y flwyddyn; ac 

o   am eu barn am y cynigion a wnaed gan y deisebydd.

 

2.5

P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn gofyn:  

 

·         iddi roi diweddariad i’r Pwyllgor ar ôl cwblhau’r arolwg, a manylion unrhyw gamau pellach mae’n bwriadu eu cymryd i ddiogelu stociau cyllyll môr; ac

a oes unrhyw gamau wedi’u cymryd i ymchwilio i honiadau fod cynaeafu cyllyll môr wedi parhau ers cau’r bysgodfa.

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i aros am ddiweddariad gan yr Ysgrifennydd Cabinet wedi iddi ystyried y materion a godwyd gan y ddeiseb hon a P-05-765 Cadw Canllawiau Presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol.

 

3.2

P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i aros am ddiweddariad gan yr Ysgrifennydd Cabinet wedi iddi ystyried y materion a godwyd gan y ddeiseb hon a P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol.

 

3.3

P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i:

 

  • Ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet i ofyn a oes unrhyw ystyriaeth yn cael ei rhoi i ymestyn y gwasanaethau a amlygwyd gan y deisebydd sef:

 

    • cynyddu capasiti gwasanaeth arbenigol anhwylderau bwyta CAMHS a sefydlwyd gan ddefnyddio cyllid blaenorol Llywodraeth Cymru i hyfforddi clinigwyr ledled Cymru;

o   atgynhyrchu’r tîm arbenigol rhanbarthol ar anhwylderau bwyta (tîm SPEED) sy’n gweithredu yng Ngogledd Cymru ac mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar hyn o bryd; ac  

 

·         Ystyried cymryd rhagor o dystiolaeth mewn perthynas â’r ddeiseb maes o law yn dibynnu ar yr ymateb a geir.

 

3.4

P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a’r deisebydd a chytunodd i aros am yr ymateb i lythyr pellach y Pwyllgor at yr Ysgrifennydd Cabinet mewn perthynas â P-04-408 cyn ystyried camau pellach ar y ddeiseb, gan gynnwys y posibilrwydd o wahodd yr Ysgrifennydd Cabinet i un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

3.5

P-04-648 Diwygio'r Cyfarwyddyd ar Olew a Nwy Anghonfensiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i aros am y diweddariad a gynigiwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet cyn diwedd tymor yr hydref, cyn ystyried unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb. 

3.6

P-04-683 Coed mewn Trefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd am yr ymateb hwnnw a holi beth arall, yn eu barn hwy, y gallai’r Pwyllgor ei wneud i symud y ddeiseb yn ei blaen. 

 

3.7

P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gwnaeth Janet Finch- Saunders ddatgan y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae’n berchen ar macaw.

 

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a’r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at RSPCA Cymru i gael eu barn am y materion a godwyd gan y deisebydd ac ar unrhyw gynnydd a wnaed trwy’u cyfarfodydd â Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r pwnc hwn.

 

 

3.8

P-05-753 Cryfhau’r Fframwaith Deddfwriaethol a Rheoleiddiol Ynghylch Cyfleusterau Prosesu Pren Gwastraff

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru i holi am eu hymateb i’r materion a godwyd mewn gohebiaeth flaenorol gan y deisebydd.

 

3.9

P-05-756 Diogelu cerddoriaeth fyw yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, yn dilyn dadl y y Cyfarfod Llawn a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, gan nodi’r ymateb cadarnhaol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru i’r ddeiseb.

 

3.10

P-05-759 Ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn adeg y Pasg 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru a’r deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Adnoddau Naturiol Cymru er mwyn rhannu sylwadau diweddaraf y deisebwyr a derbyn eu cynnig i ddiweddaru’r Pwyllgor erbyn dechrau mis Tachwedd ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â chomisiynnu astudiaeth ddichonoldeb i’r opsiynau ar gyfer Ffordd Goedwig Cwmcarn.

 

3.11

P-05-690 P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan-Y Fenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried sylwadau gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ofyn a allai roi eglurhad clir i’r deisebydd a’r Pwyllgor am yr hyn sy’n ymddangos yn newid safbwynt ers y Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn 2013-18 a’r ymrwymiadau a roddwyd gan ei ragflaenydd bod cynllun i ail-wynebu’r ffordd ar y gweill. 

 

3.12

P-05-726 Rhoi Rhyddhad Ardrethi i Awdurdodau Lleol ar gyfer Cyfleusterau Hamdden a Diwylliannol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ar y sail bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi ymateb i bryderon y deisebwyr, a’i bod hi’n anodd cymryd camau pellach yn sgil diffyg cysylltiad â’r deisebydd. 

 

3.13

P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiant Gosod ar Denantiaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i gau’r ddeiseb o gofio bwriad Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar y mater hwn a llongyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch.

 

4.1

P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y deisebydd ochr yn ochr â chynrychiolwyr deiseb P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig.

 

4.2

P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Grŵp Gweithredu United Valleys a deisebydd P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf.

(10.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

6.

Trafod y dystiolaeth o'r Sesiwn Flaenorol

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod tystiolaeth y sesiwn dystiolaeth flaenorol a nododd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn bresennol yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol i drafod y materion a godwyd gan y deisebwyr.