Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 323KB) Gweld fel HTML (174KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-763 Diweddaru’r cyngor a roddir ynghylch strôc – B.E.F.A.S.T. – a helpu i achub bywydau a bywoliaethau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         ysgrifennu at y Gymdeithas Strôc i ofyn am eu barn am y ddeiseb; a

·         rhoi cyfle i'r deisebydd wneud sylw ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet ac unrhyw ymateb a geir gan y Gymdeithas Strôc.

 

 

2.2

P-05-766 Dylid Gwneud Opsiwn Fegan yn Orfodol Mewn Ffreuturiau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, ac i roi cyfle i'r deisebydd wneud sylw arno cyn trafod y ddeiseb drachefn yn nhymor yr hydref.

 

 

 

 

2.3

P-05-767 Cefnffordd yr A487 trwy Dre Taliesin: angen brys am fesurau effeithiol i arafu traffig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:

·         yn gofyn am ragor o fanylion am amseriad yr adolygiad o fesurau diogelwch posibl ar gyfer yr A487 ac yn gofyn iddo hysbysu'r Pwyllgor am y canlyniad maes o law; ac

·         yn gofyn a fydd ei swyddogion yn cwrdd â'r grŵp gweithredu.

 

 

2.4

P-05-768 Galwad i ddychwelyd darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • nodi'r ffaith i ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet ddod i law yn union cyn yr oedd y papurau i fod i gael eu cyhoeddi, a rhoi cyfle arall i'r deisebydd gwneud sylw ar yr ymateb ac unrhyw ymateb a geir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; ac
  • ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn:

o   pa asesiad y mae wedi ei wneud o effaith y newidiadau i wasanaethau Obstetreg, Pediatreg a'r Uned Gofal Arbennig Babanod yn yr ardal ers iddynt gael eu canoli yn Ysbyty Glangwili;

o   am ragor o wybodaeth am sut y mae cyfraddau marwolaethau amenedigol diweddar yn cymharu â'r cyfraddau a welwyd o dan y cyfluniad blaenorol o wasanaethau; ac

o    a oes unrhyw ddata ar gael am amseroedd trosglwyddo cleifion i Ysbyty Glangwili o'u cymharu ag amseroedd trosglwyddo i ysbytai eraill o dan y trefniadau blaenorol.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         ysgrifennu'n ôl at y Llywydd fel Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad:

 

o   yn nodi pryder y Pwyllgor ynghylch yr arafwch o ran cynyddu'r trafodion yn y Cynulliad sydd ar gael gyda chyfieithiad ar y pryd yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu gydag is-deitlau, yn enwedig yn yr amser ers cyflwyno'r ddeiseb yn 2014;

o   yn gofyn i'r Comisiwn edrych ar yr opsiynau o ran datblygu rhaglen ar gyfer darparu gwasanaeth BSL a/neu is-deitlo ar gyfer cwestiynau yn y Cynulliad a thrafodion eraill o fewn amser priodol.

·         Hysbysu'r deisebydd am benderfyniad y Pwyllgor.

 

 

3.2

P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn gofyn iddo am wybodaeth fwy manwl am:

o   sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella darpariaeth gwasanaethau i atal anhwylderau bwyta ymysg plant a phobl ifanc;

o   nifer y plant a phobl ifanc sy'n dioddef o anhwylderau bwyta a gallu'r gwasanaethau presennol i ymdrin â'r galw; ac

  • ar ôl i ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet ddod i law, ystyried a ddylid gwneud gwaith pellach ynglŷn â'r ddeiseb neu ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn.

 

 

3.3

P-05-749 Adfer Gwasanaeth Deintyddol Symudol Corwen

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail bod cynlluniau i gael uned ddeintyddol symudol newydd ac ar y sail bod y deisebwyr yn fodlon ar y canlyniad.

 

 

3.4

P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried faint o ohebiaeth fanwl a gafwyd gan bob parti yn ystod y tair blynedd diwethaf, cytunodd i baratoi crynodeb o drafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb, yn cynnwys ei fyfyrdodau a'i gasgliadau, a'i rannu hwnnw â Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r deisebydd yn gynnar yn nhymor yr Hydref.

 

 

3.5

P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a chytunodd i awgrymu bod Cymdeithas Genedlaethol y Plant Byddar yn cysylltu ag ysgrifennydd dyddiadur y Gweinidog yn uniongyrchol i drefnu cyfarfod a gofyn iddynt adrodd yn ôl i'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod hwnnw.

 

 

3.6

P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd ar y wybodaeth a ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, a nododd eu bod yn am ystyried y mater ymhellach ar ôl i ymateb y deisebwr ddod i law.

 

 

3.7

P-05-722 Diogelu Anghenion Addysgol Arbennig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn iddi a hoffai dderbyn cynnig y Prif Weithredwr i gyfarfod â'i swyddogion yn lleol.

 

 

3.8

P-04-683 Coed mewn Trefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a fydd yn ystyried cynyddu brigdwf coed yn nhrefi a dinasoedd Cymru fel blaenoriaeth ar gyfer proses y Datganiad Ardal y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyfrannu ato; a
  • thynnu sylw'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig at y ddeiseb gan ei fod yn gwneud gwaith ar y mater ar hyn o bryd.

 

 

3.9

P-05-747 Cynnal Profion TB ar Wartheg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail ei bod yn ymddangos bod y ddeiseb wedi cyrraedd ei nod. 

 

 

 

3.10

P-05-753 Cryfhau'r Fframwaith Deddfwriaethol a Rheoleiddiol Ynghylch Cyfleusterau Prosesu Pren Gwastraff

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn gofyn am ei barn am sylwadau diweddaraf y deisebydd cyn penderfynu ar sut i fwrw ymlaen a'r ddeiseb.

 

 

3.11

P-05-759 Ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn adeg y Pasg 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd David Rowlands y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi mynd o’r blaen i gyfarfodydd yr ymgyrch i ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn a nododd ei gefnogaeth i'r ymdrechion i ail-agor y Ffordd.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn am ragor o fanylion ynghylch amserlen yr astudiaeth o ddichonoldeb masnachol a rheolaeth y Ffordd ac i ofyn am eu barn am sylwadau'r deisebydd yn ymwneud â chyllid ar gyfer cyfleusterau eraill ar gyfer defnyddwyr beiciau mynydd.

 

 

3.12

P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i:

 

  • aros am sylwadau pellach y deisebydd ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet; ac
  • ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn gofyn iddi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar ôl iddi benderfynu ar ddull Llywodraeth Cymru o ran y ffordd y trinnir trwyddedau presennol a pholisi yn y dyfodol.

 

 

3.13

P-05-692 Adeiladu Cofeb Mamieithoedd Rhyngwladol ym Mae Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.

 

3.14

P-05-737 Achubwch ein Bws

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.

 

3.15

P-05-716 Cludiant am ddim ar drenau i ddisgyblion ysgol gyda Threnau Arriva Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.

 

 

3.16

Deiseb P-04-688 Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.

 

 

3.17

P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan–Y Fenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.

 

3.18

P-05-740 Deiseb i Warchod Ein Stryd Fawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.

 

 

3.19

P-05-726 Rhoi Rhyddhad Ardrethi i Awdurdodau Lleol ar gyfer Cyfleusterau Hamdden a Diwylliannol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.

 

 

3.20

P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.

 

3.21

P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.

 

 

3.22

P-05-711 Sicrhau bod Anghenion Pobl Anabl am Addasiadau i Dai yn cael eu Diwallu’n Ddigonol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.

 

 

4.

Papur i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur.

 

 

(9.45 - 10.30)

5.

Sesiwn Dystiolaeth - P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Beth Baldwin, Deisebwr

 

Sara Moran, Diabetes UK Cymru

 

Libby Dowling, Diabetes UK

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Diolchodd Cadeirydd ac Aelodau'r Pwyllgor i Beth Baldwin, gan ganmol ei dewrder wrth gyflwyno'r ddeiseb a chan gynnig eu cydymdeimlad diffuant iddi ar golli ei mab, Peter.

 

Atebodd Beth Baldwin, Sara Moran a Libby Dowling gwestiynau gan y Pwyllgor.

 

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

7.

Trafod y sesiwn dystiolaeth: P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i:

 

  • wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i roi tystiolaeth lafar mewn cyfarfod yn gynnar yn nhymor yr hydref; ac
  • ysgrifennu at y Byrddau Iechyd Lleol ac at gyrff proffesiynol yn gofyn am fwy o wybodaeth fanwl, yn enwedig ynghylch diagnosis a gofal mewn lleoliadau gofal sylfaenol.