Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Video Conference via Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu gwneud datganiad ar Srebrenica
cyn dechrau'r Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Bydd y Prif Weinidog a David
Melding hefyd yn cael eu galw i wneud datganiadau byr. Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn cyflwyno Laura Anne Jones fel Aelod
newydd o'r Bumed Senedd ac yn ei gwahodd i wneud anerchiad byr. Amser
dechrau ac egwyl Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y dylai'r Cyfarfod Llawn gychwyn am 11.00am ac y dylai'r egwyl
fod am tua 12.45pm, ar ôl Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg. Cytunodd y Rheolwyr
Busnes hefyd i'r Cyfarfod Llawn gychwyn yn gynharach am 10.00am yr wythnos
nesaf. Cwestiynau
Llefarwyr ar ddatganiadau Gweinidogol Ymgynghorodd
y Llywydd â Rheolwyr Busnes a nodi y bydd y trefniadau ar gyfer yr wythnos hon
yn aros fel yr oeddent cyn cyflwyno'r Cyfarfod Llawn rhithwir: 10 munud neu
1000 o eiriau (pa un bynnag sydd fwyaf) i Weinidogion wneud eu datganiad a hyd
at 5 munud yr un i lefarwyr grwpiau i ofyn un cyfres o gwestiynau. Bydd y
trefniadau ar gyfer Cwestiynau Llafar hefyd yn aros yr un fath ag yr oeddent
cyn cyflwyno'r Cyfarfod Llawn rhithwir: Bydd llefarwyr y Ceidwadwyr a Phlaid
Cymru yn cael eu galw i ofyn 3 chwestiwn heb rybudd i'r Gweinidog. Bydd
llefarwyr Plaid Brexit yn cael eu galw i ofyn 2 gwestiwn heb rybudd i 3
Gweinidog o’u dewis. Bydd yr holl gwestiynau hyn hyd at un funud yr un. Canllawiau
Cyfarfod Llawn hybrid Bydd yr
Ysgrifenyddiaeth yn dosbarthu canllawiau i'r Aelodau y prynhawn yma. Cafodd y
Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd o'r canlynol:
Aelodau Annibynnol: Roedd y Llywydd wedi derbyn ymatebion gan
Aelodau Annibynnol i'w llythyr yn egluro'r uchafswm presenoldeb oherwydd
ymbellau cymdeithasol yn y Siambr ac yn gofyn iddynt enwebu rhyngddynt un Aelod
i fod yn gorfforol bresennol bob wythnos. Mynegodd dau Aelod eu bod yn dymuno
bod yn gorfforol bresennol yn y ddau gyfarfod, ac y byddai'r ddau arall yn
bresennol yn rhithwir. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r Swyddfa
Gyflwyno gynnal balot ar gyfer unrhyw Aelodau Annibynnol sy'n dymuno bod yn
gorfforol bresennol, a chreu system gylchdro sy'n caniatáu i eraill fod yn
bresennol mewn sesiynau diweddarach. Bydd unrhyw ddargyfeiriad yn ystod y Cyfarfod
Llawn o'r uchafswm y cytunwyd arno ar niferoedd yn unol â rheoliadau COVID yn
cael ei drin fel mater o drefn. Cyfnod 3 Dywedodd y
Llywydd wrth yr Aelodau, oherwydd y rheolau ynghylch pleidleisio o bell, y
byddai egwyl o 5 munud ar ôl y ddwy ddadl yn ystod Cyfnod 3, cyn pleidleisio ar
y gwelliannau. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu cyfres o reoliadau coronafeirws at
yr agenda ar gyfer 15 Gorffennaf: Dydd
Mercher 15 Gorffennaf 2020 Cynnig i
drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (30
munud) ·
Rheoliadau
Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 ·
Rheoliadau
Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 Esboniodd y Trefnydd hefyd, yn dilyn cais yn
y Pwyllgor Busnes yr wythnos diwethaf, fod y llywodraeth wedi gohirio’r ddadl
ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Amaeth tan ar ôl yr haf. Cytunodd
y Pwyllgor Busnes ar derfyn amser adrodd diwygiedig, sef 24 Medi, ar gyfer y
pwyllgorau sy'n trafod y Memorandwm. |
|
Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 15 Gorffennaf 2020:
Dydd
Mercher 16 Medi 2020
Dydd
Mercher 23 Medi 2020 -
|
|
Deddfwriaeth |
|
Amserlen Ddiwygiedig ar gyfer y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ymgynghori â'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a
Chymunedau ar yr amserlen ddiwygiedig cyn gwneud penderfyniad, a gofyn am
ymateb erbyn yr wythnos nesaf. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr a chytuno ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil
Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gyda therfyn amser ar gyfer adrodd ar gyfer Cyfnod
1, sef 4 Rhagfyr 2020 ac ar gyfer Cyfnod 2, sef 5 Chwefror 2021. |
|
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-2022 |
|
Amserlen Cyllideb Llywodraeth Cymru 2021-22 Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'r
Pwyllgor Cyllid ynghylch yr amserlen arfaethedig. |
|
Pwyllgorau |
|
Amserlen y Pwyllgorau Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar y dyddiadau arfaethedig i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus gwrdd yn ystod y toriad. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes â dealltwriaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad o ran amseriad rheoliadau sy'n debygol o gael eu dwyn ymlaen yn
dilyn adolygiadau 3 wythnos Llywodraeth Cymru. Eglurodd y
Trefnydd, er bod llythyr y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
yn cyfeirio at yr adolygiad tair wythnos o gyfyngiadau yn unig, mae cyfres
ehangach o reoliadau COVID-19 na'r rhai sy'n ymwneud ag iechyd (ee addysg).
Dywedodd y Trefnydd y bydd angen i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad fod yn barod i adrodd ar y rheini hefyd. |
|
Y Cyfarfod Llawn |
|
Dyddiadau Toriadau Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y papur Cododd
Darren Millar y ffaith bod gwyliau ysgolion yn aml yn wahanol ar draws
Awdurdodau Lleol a bod rhai ysgolion wedi trefnu gwyliau hanner tymor o 2
wythnos ym mis Hydref i wneud iawn am agor yn ystod wythnos ychwanegol ym mis
Gorffennaf. Gofynnodd i'r Pwyllgor Busnes ystyried ymhellach yr oblygiadau
amserlennu toriad pythefnos ym mis Hydref oherwydd materion gofal plant i'r
Aelodau, yn enwedig o gofio ein bod wedi lleihau toriad y Pasg eleni. Bydd
yr Ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno nodyn ynghylch pa Awdurdodau Lleol sydd wedi
trefnu toriad o bythefnos ym mis Hydref ac yn egluro unrhyw effaith ar
ddeddfwriaeth pe bai'r toriad yn cael ei ymestyn. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Sefydlu ac aelodaeth arfaethedig Pwyllgor y Llywydd Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnig y Llywydd
y dylai Rheolau Sefydlog ganiatáu i naill ai'r Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd
gadeirio'r pwyllgor fel y gellid penodi'r Dirprwy Lywydd yn gadeirydd pe bai
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a'r Llywydd yn dod o'r un grŵp gwleidyddol.
Byddai hyn yn galluogi cadeirydd y Pwyllgor Cyllid i fod yn aelod ex officio,
yn cynrychioli’r pwyllgor yn unig, ac yn ychwanegol at un cynrychiolydd o bob
grŵp gwleidyddol. Cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno cynnig i
ddiwygio Rheolau Sefydlog i'w ystyried yr wythnos nesaf. |
|
Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) - Diwygio Rheolau Sefydlog Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar yr adroddiad, a nododd y byddai cynnig yn cael ei gyflwyno
i'w ystyried ar 15 Gorffennaf. |
|
Papur i’w nodi |
|
Llythyr gan Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y llythyr a chytunwyd i drafod y materion a godwyd maes o law. |
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog Rhoddodd y Dirprwy Lywydd y wybodaeth
ddiweddaraf i'r Rheolwyr Busnes am gyfarfod y pwyllgor ddydd Gwener diwethaf
lle cytunwyd i sefydlu is-bwyllgor ar 'adferiad COVID-19', i adrodd yn ôl i'r
Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. Mae eu trafodaethau cychwynnol wedi
bod ar gyfer pwyllgor o 5 Aelod, gydag aelodaeth symudol, ond y byddant yn
ystyried cydbwysedd pleidiol a ffactorau eraill yn nes ymlaen. Gan fod cylch gwaith arfaethedig yr
is-bwyllgor yn un cyffredinol, y portffolio y byddai'n craffu arno yn bennaf fyddai
gwaith y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd; fodd bynnag, wrth
inni symud allan o'r adferiad, efallai y bydd yr is-bwyllgor am ehangu ei gylch
gwaith. Dywedodd y Trefnydd, pe bai unrhyw bwyllgor yn dymuno edrych yn benodol
ar adferiad COVID-19 yng nghyd-destun portffolio penodol (hy iechyd), y
Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y portffolio hwnnw fyddai yn y sefyllfa orau i
ymgymryd ag unrhyw waith craffu manwl. Bydd Clerc y Pwyllgor yn gwneud cais am
slotiau pwyllgor yn yr hydref bob 3 wythnos, yn ychwanegol at y slotiau a
ddyrannwyd eisoes i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ar ddyddiau
Gwener cyn toriadau. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r
Gweinidog Pontio Ewropeaidd Nododd y Llywydd fod Llywodraeth Cymru mewn
trafodaethau gyda'r Swyddfa Gyflwyno ynghylch ei gyfrifoldeb fel cydlynydd
adferiad COVID-19. Bydd aelodau'n gallu gofyn cwestiynau i'r Cwnsler
Cyffredinol ar yr agwedd hon ar ei rôl, ond ar y ddealltwriaeth na fydd yn
gallu ateb cwestiynau polisi manwl sydd o fewn portffolio Gweinidogol penodol. Aelodau sy'n newid eu plaid wleidyddol ond
sy'n aros heb grŵp gwleidyddol Dywedodd y Llywydd y bu sawl newid yn ystod y
Cynulliad hwn o ran y mater hwn, lle mae'n rhaid iddi benderfynu sut i gyfeirio
at yr Aelodau hynny mewn cyhoeddiadau swyddogol. Mynegodd y Rheolwyr Busnes eu
cefnogaeth pe bai'r Llywydd yn penderfynu y gellir cyfeirio at Aelodau fel rhai
sy'n perthyn i unrhyw grŵp neu blaid benodol y maent yn ddymuno, ar yr
amod ei fod mewn trefn. Cyfarfod Llawn yn ystod tymor yr hydref Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y
bydd papur ar agenda'r wythnos nesaf ynghylch amserlennu'r Cyfarfod Llawn ar
gyfer tymor yr hydref. Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Rhoddodd y Trefnydd y wybodaeth ddiweddaraf
i'r Rheolwyr Busnes ar hynt y Bil Pysgodfeydd a'r Bil Rhestr Ardrethi
Annomestig. Mae'r Llywodraeth yn ystyried a ddylid gosod Memoranda yr wythnos
hon. |