Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Video confrence via Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol ar
gyfer eu cyhoeddi, yn amodol ar un newid i'w gytuno y tu allan i'r pwyllgor. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dywedodd y
Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes fod yr holl ddatganiadau wedi'u hymestyn o 45
munud i 60 munud yr un. Adborth o
gyfarfod llawn yr wythnos diwethaf Cafodd y
Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y LLywydd fod angen i'r Aelodau fod yn
ddisgybledig wrth hysbysu swyddogion ynghylch pwy fydd yn bresennol yn y
Cyfarfod Llawn, ac o ran cyrraedd hanner awr cyn i'r cyfarfod ddechrau. O ystyried
bod y Cyfarfodydd Llawn yn ymestyn o ran hyd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i gael
seibiant technegol hanner ffordd drwy'r cyfarfod. Bydd hyn hefyd yn caniatáu
i'r dechnoleg gael ei hailosod hanner ffordd drwy'r cyfarfod. Pwynt o
Drefn - iaith anghwrtais Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd
ynghylch defnyddio iaith anghwrtais. Mae'r Gweinidog wedi ymateb i gadarnhau y
bydd yn annerch y Cynulliad ar y mater hwn ar y cyfle nesaf sydd ar gael. Bydd
y Llywydd yn codi'r pwynt o drefn ar ddechrau Cyfarfod Llawn dydd Mercher. Hyd y
cwestiynau Trafododd
y Rheolwyr Busnes hyd y cyfraniadau yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf, a
chytunwyd i osod terfynau amser ar gyfer cwestiynau ar ddatganiadau. Cytunwyd i
ganiatáu i lefarwyr ofyn dwy set o gwestiynau, yn yr un modd ag arweinwyr
pleidiau, ac i'r ddwy set ar gyfer arweinwyr plaid a llefarwyr gael eu cyfyngu
i 2 funud yr un. Caniateir un cyfraniad 3 munud i arweinydd a llefarwyr Plaid
Brexit. Cyfyngir yr holl gyfraniadau eraill i un funud yr un. Disgwylir i hyd
atebion y Gweinidogion fod yn gymesur â hyd y cwestiynau a gaiff eu gofyn. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Busnes ar y Memoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethi Annomestig (Rhestrau) 2020, y Bil Ardrethi
Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) 2020 a'r Bil Diogelwch Tân, yr oedd y Llywodraeth
wedi gobeithio eu gosod yr wythnos diwethaf. Nid ydynt wedi gallu gwneud hynny
gan fod yr un swyddogion yn gweithio ar yr ymateb i COVID-19, ond bydd y
Llywodraeth yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Busnes o ran cynnydd. Mae'r
llywodraeth hefyd yn ystyried a oes angen cydsyniad y Cynulliad ar y Bil
Cyllid, ond mae'r penderfyniad hwn hefyd wedi'i ohirio. Dywedodd y
Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes hefyd fod y Bil Rhestri Ardrethi Annomestig yn
debygol o symud yn gyflym drwy Senedd y DU, felly mae'n annhebygol y bydd chwe
wythnos ar gyfer craffu yn bosibl. Fodd bynnag, mae'r Cynulliad eisoes wedi
craffu ar Femorandwm ar y Bil blaenorol, a
ddisgynnodd ar addoedi, ac wedi cytuno arno. Pwynt o
drefn - Cwestiynau Llafar y Cynulliad Nododd y
Rheolwyr Busnes fod Pwynt o Drefn wedi'i godi ynghylch defnyddio Rheol Sefydlog
34.18. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r Llywydd barhau â'r arfer o
ddatgymhwyso gofynion Rheol Sefydlog 12.56. Ni fyddai unrhyw gwestiynau llafar
yn cael eu hamserlennu ond cytunodd y Pwyllgor i ailgyflwyno Cwestiynau Amserol
ar gyfer yr wythnos yn cychwyn 4 Mai. Gofynnodd y Llywydd i'r ysgrifenyddiaeth
ddarparu nodyn i'r Aelodau yn amlinellu'r meini prawf a fyddai'n cael eu
defnyddio i ddewis cwestiynau. Cytunodd y Pwyllgor i adolygu'r penderfyniadau
hyn yn rheolaidd. |
|
Pwyllgorau |
|
Amserlen y Pwyllgorau Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor Busnes yr amserlen ddrafft ar gyfer y pwyllgorau, a chytuno
arni. Nododd y Pwyllgor y byddai'n trafod amserlen dreigl ym mhob
cyfarfod, ac y rhagwelir eisoes y bydd newidiadau i rai slotiau ar gyfer
trydedd a phedwaredd wythnos yr amserlen. Cadarnhaodd y Pwyllgor hefyd mai'r
amser sydd ar gael o hyd ar gyfer cyfarfodydd grwpiau plaid yw 11.00 - 12.30 ar
ddydd Mawrth. |
|
Deddfwriaeth |
|
Amserlen ar gyfer y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyrau gan y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol a chytunwyd i atal trafodion Cyfnod 2 dros dro, gan gynnwys
peidio â chyflwyno gwelliannau. Dywedodd y Trefnydd fod y llywodraeth yn
gobeithio dod â chynnig am amserlen newydd i'r pwyllgor yn y dyfodol agos. |