Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes na chafwyd unrhyw gwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol heddiw, yn
rhinwedd ei swydd fel swyddog cyfreithiol. Nododd y
Rheolwyr Busnes y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a
Deddfwriaeth Ychwanegol yn egluro'r rhesymau dros beidio â chyflwyno cynnig ar
gyfer y ddadl ar adroddiad y pwyllgor ar Fframweithiau Polisi Cyffredin: craffu
ar waith y Cynulliad, a drefnwyd ar gyfer y dydd Mercher hwn. Mynegodd y
Rheolwyr Busnes eu siom na chawsant eu hysbysu mewn pryd i drefnu busnes arall
yn lle dadl y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Nid oeddent
am weld hyn yn dod yn arferiad ar gyfer y pwyllgorau. Cafodd y
Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd y bydd y siaradwr cyntaf o bob
grŵp gwrthblaid yn cael deng munud yn ystod y ddadl ar Gyllideb Ddrafft
2020-21, a bydd gan y siaradwyr dilynol bum munud. Dydd
Mawrth ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem
olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Mewn
ymateb i ymholiadau gan Reolwyr Busnes, cytunodd y Trefnydd i ddarparu nodyn yn
nodi cyfrifoldebau priodol y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (o ran ei
gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) a Gweinidogion eraill ar ôl gadael yr UE,
yn enwedig y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, mewn perthynas â masnach
ryngwladol a thrafodaethau ar y berthynas â'r UE yn y dyfodol. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 4 Mawrth 2020 – ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol
a Deddfwriaeth Ychwanegol: Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru (60
munud) ·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60
munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Dadl Aelod: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ddethol y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 12 Chwefror: NNDM7263
Rhun ap Iorwerth Cyd-gyflwynwyr: Angela Burns Janet Finch-Saunders Llyr Gruffydd Siân Gwenllian Neil Hamilton Mike Hedges Vikki Howells Mark Isherwood Delyth Jewell Helen Mary Jones Dai Lloyd Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi
bod mwy a mwy o wasanaethau ar gael ar-lein yn unig. 2. Yn
cydnabod nad oes gan bawb fynediad i'r rhyngrwyd. 3. Yn
cydnabod nad yw pawb yn teimlo'n gyfforddus yn defnyddio'r rhyngrwyd. 4. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i: a) sicrhau
bod dewisiadau all-lein ar gael o ran gwasanaethau cyhoeddus ar-lein, megis
gyda'r system adnewyddu tocynnau bws; a b) trafod
gyda banciau, busnesau a sefydliadau eraill i sicrhau nad yw cwsmeriaid yn cael
eu hynysu os mai dim ond gwasanaethau ar-lein a gynigir. Cefnogir
gan: Huw
Irranca-Davies Suzy
Davies |
|
Pwyllgorau |
|
Craffu ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft Cofnodion: Trafododd
y Rheolwyr Busnes y llythyr gan Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a
Materion Gwledig a nodi nad oedd gan ofynion statudol mewn perthynas â materion
polisi ddarpariaethau Gorchymyn Sefydlog cyfatebol fel rheol. Dywdeodd y
Trefnydd fod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn fodlon cydymffurfio â phob
un o dri argymhelliad y pwyllgor, heb fod angen iddynt gael eu nodi yn y
Rheolau Sefydlog: ·
Bydd y Gweinidog yn gosod adroddiad
ymgynghori i'r fframwaith drafft yn nodi'r materion a godwyd yn ystod yr
ymgynghoriad ac yn cynnwys ymateb i argymhellion a chasgliadau'r Pwyllgor Newid
Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig; amserlen o newidiadau y mae'r
Gweinidog yn bwriadu eu gwneud ar ôl ystyried ymatebion yr ymgynghoriad ac
argymhellion y pwyllgor, ac arfarniad cynaliadwyedd integredig wedi'i
ddiweddaru. ·
Bydd y Gweinidog yn ysgrifennu at gadeiryddion
pob pwyllgor unwaith y bydd y fframwaith drafft wedi'i osod. ·
Mae'r Gweinidog yn croesawu dadl yn y
cyfarfod llawn ar y fframwaith drafft ac yn credu ei fod yn unol â'r dull a
ragwelir gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Bydd y ddadl yn cael ei chynnal
yn ystod cyfnod ystyried 60 diwrnod y Cynulliad fel y gall y llywodraeth
ystyried penderfyniad y Cynulliad ac argymhellion y pwyllgor(au) mewn modd
amserol. Nododd y
Trefnydd y byddai'n cadarnhau'r ymateb hwn yn ysgrifenedig i'r Pwyllgor Busnes,
fel y gall ymateb i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn
unol â'r amgylchiadau hynny. Cytunodd y
Pwyllgor fod hwn yn ymateb priodol a fyddai'n galluogi ysbryd argymhelliad y
Pwyllgor Newid Ninsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i gael ei gymhwyso. |
|
Papur i'w nodi - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y llythyr. |
|
Papur i'w nodi – Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y llythyr ac y byddai'r Llywydd yn ysgrifennu at y Bwrdd
Taliadau yn ei hysbysu o fwriad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a
Chyfathrebu. Cefnogodd y Pwyllgor Busnes yr egwyddor o ddarparu lwfansau
ychwanegol i Aelodau a etholir yn gadeiryddion dros dro am gyfnod estynedig. |
|
Deddfwriaeth |
|
Papur i'w nodi - llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y llythyr. |
|
Unrhyw Fater Arall Busnes y Cynulliad yng
ngogledd Cymru Dywedodd y Llywydd wrth y
Rheolwyr Busnes fod y Comisiwn, yr wythnos diwethaf, wedi cytuno mewn egwyddor i
ymrwymo adnoddau i gynnal wythnos o fusnes y Cynulliad yng ngogledd Cymru cyn
yr haf. Mae staff y Comisiwn a'r Llywodraeth eisoes wedi dechrau edrych ar bosibiliadau.
Bydd angen i'r Pwyllgor Busnes wneud penderfyniadau yn y dyfodol agos ar drefn
busnes, gan gynnwys amserlennu'r Cyfarfod Llawn a phwyllgorau - y bwriad yw
cywasgu busnes wythnos yn dri diwrnod rhwng dydd Llun a dydd Mercher - a bydd
papur yn dilyn maes o law. Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r
Cyfansoddiad yn bwriadu cymryd tystiolaeth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ei
ymchwiliad i'r Newid yng Nghyfansoddiad Cymru ddydd Llun 9 Mawrth, ac yr hoffai
ddechrau'r cyfarfod yn gynharach (am 11am) . Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gwrdd y
tu allan i'w slot ar yr amserlen ddydd Llun 9 Mawrth, gan nodi mai grŵp
Plaid Cymru ddylai ddatrys y gwrthdaro yn aelodaeth Dai Lloyd â'r Pwyllgor ar
Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad drwy anfon dirprwy. |