Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Anfonodd y Llywydd ei hymddiheuriadau a chadeiriodd y Dirprwy Lywydd y cyfarfod yn ei lle. Anfonodd Caroline Jones ei hymddiheuriadau hefyd, ac roedd David Rowlands yn bresennol fel ei dirprwy.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i'r Rheolwyr Busnes am y newid canlynol i Fusnes y Llywodraeth ar gyfer y 3 wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 21 Ionawr 2020 -

 

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar  Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) (90 munud)

 

Dydd Mercher 22 Ionawr 2020 -

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 28 Ionawr 2020 -

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cefnogi Canol ein Trefi (45 munud)

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 22 Ionawr 2020

 

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud) 
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

Dydd Mercher 29 Ionawr 2020

 

  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)  
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud)

 

Dydd Mercher 5 Chwefror 2020 -

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Fframweithiau polisi cyffredin: craffu ar waith y Cynulliad (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i bennu dyddiad cau, sef dydd Iau 23 Ionawr, i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Cyllid adrodd yn ôl ar Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Cais i newid amserlen y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i adolygu slot cyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad o fewn Amserlen y Pwyllgor fel y gall gwrdd yn wythnosol ar fore Mawrth.

 

 

 

6.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor fod y llywodraeth yn bwriadu gosod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) heddiw, a bod yr amserlen seneddol yn ei gwneud yn ofynnol i'r cynnig gael ei drefnu ar gyfer yr wythnos nesaf. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r memorandwm at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig gyda dyddiad cau o ddydd Mawrth 21 Ionawr ar gyfer adrodd yn ôl.