Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Roedd Russell George yn bresennol fel eilydd yn lle Darren Millar.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar am ei llythyr at y Llywydd ddydd Gwener ynghylch y rheoliadau Rhentu Cartref, sy'n cael eu dirymu (yn dod i rym heddiw,10 Rhagfyr 2019) ac yn cael eu disodli gan gyfres newydd o reoliadau gyda dyddiad dod i rym o 28 Chwefror 2020. 

 

Mae'r rheoliadau gwreiddiol hyn yn destun cynnig i ddirymu a gyflwynwyd gan David Melding, ac a drefnwyd i'w trafod ddydd Mercher. Dywedodd Russell George wrth y Rheolwyr Busnes fod David Melding bellach yn bwriadu tynnu'r cynnig yn ôl.  

 

Dydd Mawrth

 

·         Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.

  

Dydd Mercher

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.  

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: 

 

Dydd Mercher 8 Ionawr 2020 -  

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Budd-daliadau yng Nghymru: Opsiynau ar gyfer cyflawni'n well (60 munud)- gohiriwyd

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

Dydd Mercher 15 Ionawr 2020 -  

 

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

Dydd Mercher 22 Ionawr 2020 -  

 

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Ar iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa'r heddlu (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit - goblygiadau i Gymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud) 

 

 

3.4

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

4.

Pwyllgorau

4.1

Aelodaeth, cadeiryddion a chydbwysedd gwleidyddol pwyllgorau, gan gynnwys d'Hondt

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd i ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd at y mater yn eu cyfarfod ar 22 Ionawr 2020. 

 

 

5.

Rheolau Sefydlog

5.1

Papur i'w nodi - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Biliau Cydgrynhoi

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr.