Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Trefnydd y bydd yn ateb cwestiynau yn lle'r Prif Weinidog.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Dirprwy Lywydd y bydd sesiwn fer o Bwyllgor y Cynulliad Cyfan yn syth ar ôl y cyfnod pleidleisio ddydd Mawrth. Mae hyn er mwyn ystyried cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau cyn ystyried Cyfnod 2 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).

 

Gofynnodd iddynt annog Aelodau i aros yn y Siambr trwy gydol y cyfarfod hwnnw - os oes llai nag 20 Aelod yn bresennol yna fydd cworwm yn y cyfarfod.

 

Dydd Mercher

 

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i'r Rheolwyr Busnes am y newid canlynol i Fusnes y Llywodraeth am y 3 wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 15 Hydref 2019

 

Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cefnogi Awdurdodau Tai Lleol i sicrhau opsiynau tai tymor hir yn y Sector Rhentu Preifat (45 munud) - Gohiriwyd tan 5 Tachwedd

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod Neil McEvoy wedi gofyn i NNDM7127 gael ei ystyried eto gan y Pwyllgor Busnes.

 

Cadarnhaodd pob Rheolwr Busnes nad oedd eu safbwyntiau wedi newid ers yr wythnos diwethaf, a chytunwyd na fyddent yn ystyried yr un cynnig eto, oni bai bod newid sylweddol mewn amgylchiadau. Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes roi gwybod iddi pe bai eu barn neu eu hamgylchiadau yn newid mewn ffordd a allai arwain y Pwyllgor i wneud penderfyniad gwahanol.

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 9 Hydref 2019 -

 

·         Dadl Fer Jack Sargeant (Alyn a Glannau Dyfrdwy) (30 munud) - wedi'i ohirio tan 16 Hydref

 

Dydd Mercher 16 Hydref 2019 -

 

·         Dadl Fer Jack Sargeant (Alyn a Glannau Dyfrdwy) (30 munud) - wedi'i ohirio o 9 Hydref

 

Dydd Mercher 23 Hydref 2019 -

 

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cyllido Ysgolion yng Nghymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

 

4.

Rheolau Sefydlog

4.1

Adolygu Rheolau Sefydlog

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytuno ar feysydd Rheolau Sefydlog i'w hadolygu. Cytunwyd i drafod unrhyw feysydd pellach i'w hadolygu gyda'u grwpiau a dychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf os bydd angen.

 

 

Unrhyw Fater Arall

Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes am eu henwebiadau ar gyfer aelodau Pwyllgor Diwygio'r Cynulliad. Cytunodd Rhun ap Iorwerth a Rebecca Evans i gadarnhau dewisiadau eu grwpiau cyn gynted â phosibl, a dywedodd Caroline Jones wrth y Rheolwyr Busnes y byddai Plaid Brexit yn enwebu David Rowlands.