Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Lywydd. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes fod datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion
Gwledig ar Ffermio Cynaliadwy a'n Tir wedi cael ei ychwanegu at fusnes Dydd Mawrth. Dydd
Mawrth ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem
olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Dywedodd y
Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y caiff y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iachach - Blwyddyn Yn Ddiweddarach ei gyhoeddi
fel datganiad ysgrifenedig. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 17 Gorffennaf 2019 - ·
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion
Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Blaenoriaethau Brexit (30 munud) Dydd
Mercher 25 Medi 2019 - ·
Dadl ar Adroddiad
y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Hawliau Pleidleisio i
Garcharorion (60 munud) ·
Dadl ar adroddiad
y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Cefnogi a Hybu'r Gymraeg (60
munud) ·
Amser a neilltuwyd
i Blaid Brexit (60 munud) |
|
Llythyr at y Llywydd gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Cofnodion: Trafododd
y Rheolwyr Busnes y llythyr a nododd fod yna bellach ddatganiad gan y
llywodraeth ar Brexit wedi'i drefnu ar gyfer 16 Gorffennaf. Cytunwyd i drefnu
datganiad y Cadeirydd ar 17 Gorffennaf, yn amodol ar gadarnhad gan y Pwyllgor
ei fod yn dal yn awyddus i fwrw ymlaen, yng ngoleuni'r datganiad a ychwanegwyd
yn ddiweddar gan y llywodraeth. |
|
Cyllideb Llywodraeth Cymru 2020-21 |
|
Amserlen Cyllideb Llywodraeth Cymru 2020-21 Cofnodion: Amserlen
Cyllideb Llywodraeth Cymru 2020-21 Dywedodd y
Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid i'w
hysbysu am yr amserlen gyllidebol arfaethedig, ac y bydd yn awr yn ysgrifennu
at bob Pwyllgor arall. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid, yn unol â'r Rheolau Sefydlog,
a dychwelyd at y mater yn eu cyfarfod cyntaf ym mis Medi. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Ymgynghoriad ar Filiau Cydgrynhoi Cofnodion: Ystyriodd
y Rheolwyr Busnes y Rheol Sefydlog ddrafft a chytunwyd i ddychwelyd ati yn yr
hydref, ar ôl trafod gyda'u grwpiau. Cytunwyd hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i ymgynghori ar y cynigion. |
|
Papur i'w nodi - Gohebiaeth at y Llywydd |
|
Llythyr at y Llywydd gan y Prif Weinidog Cofnodion: Trafododd
y Rheolwyr Busnes y llythyr a chytunwyd i aros am ymatebion gan y Pwyllgor
Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol
a Deddfwriaethol cyn ystyried ymhellach. |