Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth
Dydd
Mercher
Cwestiynau'r Llefarwyr i'r Cwnsler
Cyffredinol Wedi trafod â'r Rheolwyr Busnes, penderfynodd
y Llywydd y dylid cael slot amser Cwestiynau'r Llefarwyr yn ystod Cwestiynau
Llafar y Cynulliad i holi'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit. Cododd Rheolwyr Busnes y posibilrwydd o gael
sesiynau Cwestiynau Llafar ar wahân ar gyfer rôl y Cwnsler Cyffredinol a rôl
Gweinidog Brexit fel ei gilydd, a nodwyd y byddai'n ddefnyddiol cael nodyn
pellach gan Lywodraeth Cymru yn esbonio rôl a statws y Cwnsler Cyffredinol a
rôl a statws Gweinidog Brexit. Hefyd, cododd y Rheolwyr Busnes y mater o ran
sut y gallent ofyn cwestiynau llafar i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip. Nododd y Trefnydd y bydd dogfen yn cynnwys
Cyfrifoldebau Gweinidogion yn cael ei hanfon heddiw, ond dywedodd na fyddai'n
nodi sut y câi'r rhaniad ei wneud yng nghyfrifoldebau Gweinidogion a'u
Dirprwyon. Gofynnodd Rheolwyr Busnes i Lywodraeth Cymru ystyried ymhellach y
gwahaniaeth cyfrifoldebau rhyngddynt mewn sesiynau Cwestiynau Llafar, yn
enwedig ar gyfer cwestiynau'r llefarwyr. Nododd y Rheolwyr Busnes eu tybiaeth y
dylid cyfeirio holl gwestiynau'r llefarwyr at y Gweinidog perthnasol yn y
cyfamser. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Dyddiadau ar gyfer dadleuon ar Gynigion
Deddfwriaethol Aelodau Cytunodd y Rheolwyr Busnes mai'r ddau
ddyddiad nesaf ar gyfer dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau fydd 30
Ionawr a 3 Ebrill, yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Busnes y tymor diwethaf i
gyhoeddi'r ddau ddyddiad ar gyfer unrhyw dymor yn gynnar er mwyn rhoi cymaint o
amser â phosibl i Aelodau gyflwyno cynnig. Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn
busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr
amserlen: Dydd Mercher 23 Ionawr 2019 –
Dydd Mercher 6 Chwefror 2019 –
|
|
Dadl Aelod - Trafod cynigion i'w trafod Cofnodion:
NNDM6919 Bethan Sayed Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod cyn-weithwyr Allied Steel and
Wire dal heb gael gwerth llawn eu pensiynau, er gwaethaf cytundeb iawndal a
gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU a bron 14 mlynedd ar ôl newid
yng nghyfraith y DU. 2. Yn nodi o dan cytundeb iawndal a gytunwyd
yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU, addawyd yr un driniaeth i weithwyr â
gweithwyr a deiliaid cynllun pensiwn o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r
cynllun cymorth ariannol. 3. Yn nodi yn sgil newidiadau yn y gyfraith
ers 2004, o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol fod gan
weithwyr yr hawl i gael eu talu hyd at 90 y cant o werth eu cyfraniad pensiwn.
Fodd bynnag, nid yw cyfraniadau a dalwyd cyn 1997 wedi'u diogelu rhag
chwyddiant. 4. Yn gresynu at y caledi ariannol y mae hyn
wedi'i achosi i gyn-weithwyr ASW yng Nghymru. 5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i anrhydeddu
ysbryd yr ymrwymiadau a wnaeth Llywodraeth flaenorol y DU i weithwyr ASW yng
Nghymru. Cefnogwyr: Andrew RT
Davies Mike
Hedges Helen Mary
Jones Leanne Wood
|
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) y Bil Pysgodfeydd Cofnodion: Cytunodd
Rheolwyr Busnes y dylid cyfeirio'r memorandwm atodol hwn at y pwyllgorau sydd
eisoes yn ystyried y memorandwm cyntaf (NHAMG, MADY a MCD), gyda'r un dyddiad
cau, sef 12 Chwefror. |
|
Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) Cofnodion: Cadeiriodd y Dirprwy Lywydd yr eitem hon, gan
mai'r Llywydd yw'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil. Yn dilyn y ddau ymateb a gafwyd gan y Pwyllgor
MCD a'r Pwyllgor NHAMG, cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r
Bil at y Pwyllgor MCD ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1, ond cytunodd i ddychwelyd
maes o law i'r amserlen a gynigiwyd yn sgil y sylwadau yn llythyr y Pwyllgor
MCD ynghylch cael ymestyn yr amserlen ar gyfer Craffu Cyfnod 1. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i drefnu'r ddadl |
|
Unrhyw fater arall Presenoldeb
Gweinidogion yn y Siambr Atgoffodd
y Llywydd y Trefnydd fod angen i Weinidogion fod yn y Siambr ar amser ar gyfer
eu heitemau, yn dilyn achlysuron lle bo rhaid galw ar Weinidogion i ddod i'r
Siambr ar ôl i eitem ddechrau, ac ar ôl i'r Gweinidog Iechyd gyrraedd yn hwyr
ar gyfer ei ddadl ei hun yr wythnos diwethaf. Newid
aelodaeth Pwyllgorau Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau gan eu
hychwanegu at yr agenda yfory, yn dilyn ceisiadau gan y Grŵp Llafur a
Grŵp y Ceidwadwyr. Mae
newidiadau'r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnwys ethol aelod newydd i'r Pwyllgor
CLlCh, yn lle un o Aelodau Plaid Cymru, fel y cytunwyd gan y Pwyllgor Busnes y
tymor diwethaf. Casglu
Canllawiau Hysbysodd
y Llywydd y Rheolwyr Busnes y bydd papur ar Gasglu Canllawiau ar agenda'r
cyfarfod wythnos nesaf, ac meddai y gallai'r Rheolwyr Busnes fod am drafod hyn
â'u grwpiau ymlaen llaw. |