Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem
olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes faterion amrywiol
yn ymwneud â'r trefniadau busnes yn sgil y ffaith y disgwylir Prif Weinidog
newydd yn ystod wythnos olaf tymor yr hydref. Bydd y Datganiad a Chyhoeddiad
Busnes yn cynnwys amserlen ddiwygiedig ar gyfer Cwestiynau Llafar y Cynulliad
(OAQs) yn ystod pythefnos olaf y tymor. Trafododd y Rheolwyr Busnes ddymuniad
Llywodraeth Cymru i sicrhau pleidlais ystyrlon ar y cytundeb Brexit y disgwylir
iddo ddod i'r amlwg yn dilyn yr uwchgynhadledd Ewropeaidd y penwythnos hwn, a
hynny cyn i'r cytundeb gael ei drafod gan Senedd y DU. Mae'n bosibl y bydd
hynny'n golygu cynnal Cyfarfod Llawn ychwanegol drwy alw'r Cynulliad yn ôl
ddydd Iau 29 Tachwedd. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn asesu beth fyddai effaith y
cam hwn ar fusnes y pwyllgorau, a chytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod y mater
gyda'u grwpiau ac i rannu eu sylwadau y tu allan i'r pwyllgor. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y dylai'r Ddadl Aelodau nesaf gael ei threfnu ar gyfer 12
Rhagfyr. Fodd bynnag, er mwyn cadw'r opsiwn o ohirio'r ddadl honno yn sgil
pwysau busnes arall, cytunodd y Rheolwyr Busnes na ddylid ailagor y broses
gyflwyno. Bydd cynnig yn cael ei ddewis o'r rhestr gyfredol, yn unol â'r hyn a
drafodwyd gan y Rheolwyr Busnes yng nghyfarfod yr wythnos diwethaf. Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 12 Rhagfyr 2018 - ·
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30
munud) ·
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
(60 munud)
|
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Iechyd, Gofal
Cymdeithasol a Chwaraeon a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
i'w ystyried, a chytunodd ar ddyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad, sef 22
Ionawr 2019. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Newid Hinsawdd,
Amgylchedd a Materion Gwledig, y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i'w ystyried,
a chytunodd y dylid dychwelyd yr wythnos nesaf i'r mater o bennu dyddiad cau ar
gyfer cyflwyno adroddiad, a hynny er mwyn ymchwilio ymhellach i'r amserlen
Seneddol. |
|
Unrhyw fater arall Cadarnhaodd
Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig eu bod wedi dod i gytundeb ynglŷn â
lleoedd ar bwyllgorau. Bydd Plaid Cymru yn enwebu Helen Mary Jones fel aelod
o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a bydd y Blaid yn
gadael un o'i seddi ar y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
er mwyn gwneud lle i aelod ychwanegol o'r Ceidwadwyr Cymreig. Mae Adam
Price wedi ymddiswyddo o Gomisiwn y Cynulliad, a bydd Plaid Cymru yn enwebu
Siân Gwenllian yn ei le. Yn dilyn
cais gan Aelod annibynnol, cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyhoeddi agenda'r
Pwyllgor Busnes ar gyfer ei gyfarfodydd preifat o hyn ymlaen. |