Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Anfonodd
Arweinydd y Tŷ ei hymddiheuriadau oherwydd salwch. |
|
Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y ddau gyfarfod blaenorol ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Busnes yr
wythnos hon Bydd y Llywodraeth yn cadarnhau cyn gynted â
phosibl pwy fydd yn cyflawni dyletswyddau Arweinydd y Tŷ yn y Cyfarfod
Llawn. Dydd
Mawrth ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem
olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Gofynnodd
y Rheolwyr Busnes am wybodaeth am y gyfran o adroddiadau gan bwyllgorau y
neilltuwyd amser i’w trafod yn y Cyfarfod Llawn, a chytunwyd y dylid trefnu o
leiaf un ddadl gan wrthblaid bob wythnos o hyn ymlaen. Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 28 Tachwedd 2018 - ·
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi,
Seilwaith a Sgiliau: Gwerthu Cymru i’r Byd (60 munud)
|
|
Deddfwriaeth |
|
Cyfnod 3 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i geisio ail-drefnu rhywfaint o fusnes y Cynulliad o ddydd
Mercher 5 Rhagfyr i ddydd Mawrth 27 Tachwedd fel y gallai'r Llywodraeth
drefnu'r ddadl Cyfnod 3, a gofynnwyd i'r Llywodraeth esbonio pam na ellid dwyn
y ddadl ynghylch yr M4 ymlaen o 4 Rhagfyr er mwyn creu lle ar gyfer y ddadl
Cyfnod 3. |
|
Pwyllgorau |
|
Dyrannu lleoedd a chadeiryddion pwyllgorau rhwng grwpiau Cofnodion: Dywedodd
Darren Millar na fyddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn derbyn y cynnig i
gadeiryddiaeth y Pwyllgor Deisebau gael ei hailddyrannu i'r Ceidwadwyr Cymreig
oni fydd materion eraill yn cael eu datrys yn gyntaf. Cadarnhaodd Rhun ap
Iorwerth a Darren Millar nad oedd y cyfarfod rhwng y ddau arweinydd wedi arwain
at unrhyw gytundeb newydd. Ar sail hynny, penderfynodd y Rheolwyr Busnes beidio
â threfnu cynnig i ail-ddyrannu cadeiryddiaeth y Pwyllgor Deisebau, a bydd y
dyraniad presennol o Gadeiryddion i grwpiau'r pleidiau yn aros fel y mae am y
tro. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at drafod y lle gwag ar y Pwyllgor Newid Hinsawdd,
Amgylchedd a Materion Gwledig yng nghyfarfod yr wythnos nesaf. |
|
Unrhyw fater arall Aelodaeth
Pwyllgorau Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y dylid ychwanegu cynnig i ethol Llyr Gruffydd fel aelod o
Bwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i agenda'r Cyfarfod Llawn yfory. Cynnig y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad Rhoddodd y
Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes y bydd cynnig a gyflwynwyd gan y Pwyllgor
Safonau Ymddygiad i benodi Douglas Bain yn Gomisiynydd Safonau Dros Dro yn cael
ei ychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw. Biliau
Aelodau Atgoffodd
y Llywydd y Rheolwyr Busnes y bydd y bleidlais ar gyfer Biliau Aelod yn cael ei
chynnal ddydd Mercher nesaf ac mai'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno Bil oedd y
dydd Iau cyn hynny. Gofynnodd iddynt atgoffa eu haelodau o'r cyfle i gynnig Bil
ar gyfer y bleidlais ac i gael gwared ar unrhyw gynigion a allai fod yn
amherthnasol bellach. |