Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Roedd holl
aelodau'r pwyllgor yn bresennol ar gyfer y cyfarfod cychwynnol am 8.30am. Pan
wnaeth y Pwyllgor Busnes ailymgynnull am 1pm, anfonodd Rhun ap Iorwerth a Neil
Hamilton eu hymddiheuriadau. Roedd Dai Lloyd yn bresennol fel dirprwy ar gyfer
Rhun ap Iorwerth. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Ni fydd Cyfnod Pleidleisio. Dydd Mercher ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y
Ddadl Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 7 Tachwedd 2018 - ·
Cydraddoldeb a Brexit - Canfyddiadau ar y cyd
gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor
Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (60 munud)
Dydd Mercher 14 Tachwedd 2018 - ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei
ymchwiliad i baratoadau ar gyfer disodli cyllid yr UE yng Nghymru (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
|
|
Pwyllgorau |
|
Dyrannu llefydd ar bwyllgorau a chadeiryddion rhwng grwpiau Cofnodion: Trafododd Rheolwyr Busnes
dyrannu cadeiryddion pwyllgorau, gan gynnwys cynnig posibl i ailddyrannu
cadeiryddiaeth y Pwyllgor Deisebau i'r Ceidwadwyr Cymreig ynghyd â newid yn y
drefn y gelwir ar Arweinyddion a Llefarwyr yn ystod cwestiynau fel eu bod bob
amser yn cael eu galw yn nhrefn maint y grŵp. Gwrthwynebodd Neil
Hamilton y cynnig ar y sail ei fod yn credu ei y byddai adlewyrchiad teg o
faint y grŵp yn golygu y byddai gan UKIP un gadeiryddiaeth pwyllgor. Nododd y Llywydd gan mai
hi sy'n gyfrifol am drefn y cwestiynau, mae angen amser arni i ystyried y
cynnig ac felly gofynnodd i'r Pwyllgor Busnes ailymgynnull am 1pm. Bydd Darren Millar a Rhun
ap Iorwerth yn trafod sut y dylid llenwi'r lle gwag ar y Pwyllgor Newid
Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y tu allan i'r pwyllgor. Cytunodd y Rheolwyr
Busnes y dylid adolygu'r Rheolau Sefydlog penodol sy'n gysylltiedig â'r mater
hwn erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. |
|
Gwnaeth Pwyllgor Busnes ailymgynnull am 1pm i drafod dyraniad cadeiryddion pwyllgorau a threfn cwestiynau'r gwrthbleidiau. Gwnaeth Pwyllgor Busnes
ailymgynnull am 1pm. Dywedodd y Llywydd fod angen mwy o amser arni i drafod
goblygiadau'r cynnig a wnaed ac y bydd yn gohirio pob penderfyniad sy'n ymwneud
â dyrannu cadeiryddion pwyllgorau tan y cyfarfod wythnos nesaf. Anogodd y
pwyllgor i barhau i drafod gyda'r bwriad o benderfynu ar gynnig a allai gael
mwy o gonsensws na'r cynnig y cytunwyd arno gan y mwyafrif y bore yma. Er ei
bod hi'n cydnabod mai disgresiwn y Llywydd yw mater trefn galw ar Arweinwyr a
Llefarwydd, dywedodd y Llywydd y byddai'n cael ei harwain gan farn mwyafrif y
Pwyllgor Busnes o ran y drefn y mae'n galw ar bobl yn ystod cwestiynau i'r Prif
Weinidog a chwestiynau i'r Gweinidogion. |