Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

Dydd Mercher

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i aildrefnu'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Meithrin Cydnerthedd: Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau', ar gyfer y cyfnod ar ôl hanner tymor

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 17 Hydref 2018 –

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Creu'r Diwylliant Cywir (60 munud) - gohiriwyd i 21 Tachwedd

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

Dydd Mercher 24 Hydref 2018 –

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

Dydd Mercher 7 Tachwedd 2018 –

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Amaethyddiaeth

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i'w ystyried, a chytunodd y Rheolwyr Busnes ar ddyddiad cau o 14 Rhagfyr ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar y mater.

 

5.

Pwyllgorau

5.5

Cais am ddadl ar Ddeiseb

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu'r ddadl dan sylw, ond nododd y Rheolwyr y ffaith bod nifer o geisiadau am ddadleuon yn y Cyfarfod Llawn wedi dod i law yn ddiweddar mewn perthynas â deisebau sydd wedi cyrraedd y trothwy o 5,000 o lofnodion ond nad ydynt wedi bod yn destun adroddiad neu ymchwiliad gan y Pwyllgor Deisebau.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor fod penderfyniadau pellach ar y gweill mewn perthynas â newidiadau i'w phenderfyniad ynghylch sut y caiff llofnodion eu casglu.

 

 

5.1

Cais gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i gynnal ymweliad oddi ar y safle

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y cais, gan benderfynu y byddai'n well ganddynt i Aelodau'r Pwyllgor ddal trên yn hwyrach oni bai bod angen i'r Pwyllgor fod yn Llundain at ddibenion busnes ar amser penodol y noson honno.

 

5.2

Dyrannu lleoedd ar bwyllgorau a chadeiryddion rhwng grwpiau

Cofnodion:

Gohiriwyd y drafodaeth gan y Rheolwyr Busnes tan y cyfarfod wythnos nesaf.