Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Paul Davies. Roedd Darren Millar yn bresennol yn ei le.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 26 Medi 2018 –

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru (60 munud)

·         Dadl ar Ddeiseb P-05-826 - Mae Sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg! (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) – gohiriwyd

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) – gohiriwyd

 

Dydd Mercher 10 Hydref 2018 –

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Meithrin Cydnerthedd: Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau (60 munud)

 

3.4

Cais am ddadl ar Ddeiseb

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais.

 

4.

Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20

4.1

Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch amserlen y Gyllideb

Cofnodion:

Amserlen Cyllideb Llywodraeth Cymru 2018-19

 

Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid, cytunodd Rheolwyr Busnes i gadarnhau'r amserlen fel y'i cynigiwyd gan Arweinydd y Tŷ. Fodd bynnag, os cyhoeddir gwybodaeth newydd ynghylch yr amserlen ar gyfer Cyllideb y DU, bydd y Rheolwyr Busnes yn adolygu'r amserlen ar yr adeg honno.

 

 

Cytunodd Rheolwyr Busnes ar yr amserlen a ganlyn ar gyfer trafod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru:

 

 

Dyddiad

 

Gosod cynigion amlinellol ar gyfer cyllideb y Llywodraeth

 

2 Hydref 2018

Gosod cynigion manwl ar gyfer cyllideb y Llywodraeth

23 Hydref 2018

Y dyddiad cau i'r Pwyllgor Cyllid gyflwyno adroddiad ar gynigion amlinellol cyllideb y Llywodraeth

 

27 Tachwedd 2018

Y dyddiad cau i'r pwyllgorau eraill gwblhau eu hystyriaeth o'r cynigion manwl ar gyfer y gyllideb

 

27 Tachwedd 2018

Cyflwyno cynnig y gyllideb flynyddol

 

18 Rhagfyr 2018

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn gofyn am gyfarfod y tu allan i'r slot arferol

Cofnodion:

Cytunodd Rheolwyr Busnes i gais gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol bod y pwyllgor yn cynnal cyfarfod y tu allan i'w slot arferol fore Llun 15 Hydref 2018 i glywed tystiolaeth gan y Gweinidog Gwladol dros bolisi masnach ar oblygiadau polisi masnach i Gymru.

 

5.2

Llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gofyn am gyfarfod y tu allan i'r slot arferol

Cofnodion:

Cytunodd Rheolwyr Busnes i gais gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg bod y pwyllgor yn cynnal cyfarfod y tu allan i'w slot arferol brynhawn dydd Mawrth 15 Tachwedd i gynnal cyfarfod cydamserol â'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

5.3

Effaith Aelod yn ymddiswyddo ac yn gadael grŵp gwleidyddol

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod yr opsiynau â'u grwpiau a dychwelyd at y mater wythnos nesaf.  

 

Unrhyw fater arall

Newid aelodaeth pwyllgorau

 

Nododd Rheolwyr Busnes y byddai'r newidiadau i aelodaeth Ceidwadwyr Cymru a UKIP o'r pwyllgorau perthnasol yn cael eu hychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw.

 

Helen Mary Jones

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'n croesawu'r Aelod Cynulliad newydd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn heddiw.