Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem
olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 20 Mehefin 2018 - ·
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid:
Adroddiad ar y Tanwariant ym Mhenderfyniad y Bwrdd Taliadau (30 munud) Dydd Mercher 27 Mehefin 2018 - ·
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30
munud) ·
Dadl ar Ddeisebau P-04-472 Gwnewch y Nodyn
Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf a P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar
Gyfer Cloddio Glo Brig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Gadael yr Undeb Ewropeaidd |
|
Newidiadau posibl yn y Rheolau Sefydlog sy'n deillio o Fil yr UE (Ymadael) Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd mewn egwyddor mai'r Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ddylai fod yn bwyllgor sifftio. Fodd
bynnag, dywedodd Arweinydd y Tŷ yn glir bod ei chytundeb yn ddarostyngedig
i ddatrys maint y pwyllgor a chydbwysedd gwleidyddol mewn ffordd sy'n
bodloni. Cytunodd yr Ysgrifenyddiaeth i gyflwyno papur i gyfarfod yn y dyfodol ar yr
opsiynau ar gyfer nodi'r materion o ran maint a chydbwysedd gwleidyddol y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Cytunodd yr Ysgrifenyddiaeth hefyd i barhau i weithio gyda swyddogion
Llywodraeth Cymru i edrych ar y cylch gweithdrefnau is-ddeddfwriaeth yng
ngoleuni Bil yr UE (Ymadael) a datblygiadau eraill. |
|
Atodiad - Llythyr gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Newidiadau posibl i'r Rheolau Sefydlog, yn deillio o Fil yr UE (Ymadael) Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr. |
|
Unrhyw fater arall Cafodd y
Rheolwyr Busnes eu hysbysu gan y Llywydd fod Caroline Jones wedi ymddiswyddo
fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad. Gofynnodd y Llywydd i UKIP hysbysu'r Pwyllgor
Busnes o'i enwebiad ar gyfer Comisiynydd newydd. |