Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Anfonodd Rhun ap Iorwerth ei ymddiheuriadau; Roedd Dai Lloyd yn bresennol fel dirprwy.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 20 Mehefin 2018 -

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)

·         Dadl gan Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru)

Cofnodion:

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru) at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1.

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i ymgynghori ar amserlen ar gyfer Cyfnod 1 a Chyfnod 2.

·         Dywedodd Arweinydd y Tŷ y byddai angen parhau i adolygu amseru Cyfnod 3, yn sgil canlyniadau Cyfnodau 1 a 2, gan eu bod yn digwydd bob ochr i doriad y Nadolig.

 

5.

Gadael yr Undeb Ewropeaidd

5.1

Y diweddaraf ar y camau craffu ar adael yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y Pwyllgor Busnes

Cofnodion:

Nododd Rheolwyr Busnes y papur, ac y byddai'n rhaid i unrhyw newidiadau i'r Rheolau Sefydlog ddigwydd ar ôl i ddarpariaethau perthnasol yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ddod i rym. Dywedodd Arweinydd y Tŷ fod y Llywodraeth wedi derbyn y dylai statws argymhellion pwyllgor sifftio'r Cynulliad fod yn gyson ag argymhellion pwyllgorau San Steffan.