Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion o'r cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 16 Mai 2018 -

·         Dadl ar Bolisi Urddas a Pharch y Cynulliad (30 munud)

Dydd Mercher 6 Mehefin 2018 -

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

 

3.4

Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau: dethol cynnig ar gyfer dadl

Cofnodion:

·         Detholodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl:

NNDM6720 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig am Fil cynllunio gwefru cerbydau trydan.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) gosod canllawiau cynllunio ar gyfer datblygiadau newydd, boed hwy yn adeiladau cyhoeddus neu yn dai;

b) sicrhau bod adeiladau newydd yn gorfod cynnwys pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan;

c) ei gwneud hi’n haws i bobl allu defnyddio cerbydau trydan er mwyn lleihau allyriadau carbon.

 

4.

Rheolau Sefydlog

4.1

Adolygu'r Rheolau Sefydlog

Cofnodion:

Cytunodd Rheolwyr Busnes i ganolbwyntio am y tro ar faterion Rheol Sefydlog sy'n codi ynghylch Brexit, gan ddychwelyd i adolygiad ehangach o'r Rheolau Sefydlog maes o law.

 

Hefyd, cytunodd Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn gofyn am ei farn ynghylch cyfansoddiad y pwyllgor hwnnw yng ngoleuni'r posibiliad y bydd ganddo rôl sifftio o ran offerynnau statudol yn ogystal â chraffu ar ddeddfwriaeth sylfaenol.

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Cais gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i ymestyn amser ei gyfarfod

Cofnodion:

Cytunodd Rheolwyr Busnes i'r cais.