Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Derbyniodd
y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cwestiynodd Paul Davies nifer y datganiadau ysgrifenedig diweddar. Roedd yn credu y dylai'r datganiad ynghylch
yr 'Adolygiad Cyflenwad Tai Fforddiadwy', a gyhoeddwyd fel datganiad
ysgrifenedig ddoe, fod wedi bod yn ddatganiad llafar. Cytunodd Arweinydd y Tŷ i edrych ar y
mater ymhellach. Dydd Mawrth ·
Byddai pob
pleidlais mewn perthynas â'r Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol
Cofrestredig (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3. ·
Cadarnhaodd
Arweinydd y Tŷ y byddai'r pleidleisio ar bob eitem arall o fusnes yn cael
ei gynnal cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau. ·
Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai egwyl o 10 munud cyn i drafodion Cyfnod
3 ddechrau. Dydd Mercher ·
Byddai'r
Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen
busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. Tynnodd Arweinydd y
Tŷ sylw'r Rheolwyr Busnes at y ffaith y bydd hi'n ateb y Cwestiynau i'r
Prif Weinidog ar 1 Mai oherwydd y bydd y Prif Weinidog dramor. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i
gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 2
Mai 2018 – ·
Dadl ar Adroddiad
y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 01-18 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9 (15
munud)
Dydd Mercher 9
Mai 2018 - ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
Dydd Mercher
16 Mai 2018 – ·
Cwestiynau i
Gomisiwn y Cynulliad (30 munud) ·
Dadl ar Gynnig
Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) ·
Dadl Aelodau o
dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Dadl Aelodau: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl Cofnodion: ·
Dewisodd
Rheolwyr Busnes y cynnig canlynol ar gyfer dadl ar 2 Mai 2018 NNDM6695 Jane Hutt Jenny Rathbone Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1. Yn nodi gwaith ymchwil gan Plan International UK ar dlodi misglwyf a
stigma, sy'n amcangyfrif bod un ym mhob 10 o ferched yn y DU wedi methu â
fforddio cynhyrchion misglwyf. 2. Yn croesawu'r camau y mae sefydliadau yng Nghymru yn eu cymryd, gan
gynnwys Periods in Poverty, Wings Cymru, The Red Box Project, Ymddiriedolaeth
Trussell ac eraill, i fynd i'r afael â mater hwn. 3. Yn nodi'r adroddiad terfynol gan weithgor craffu cyngor Rhondda Cynon
Taf a sefydlwyd i ddelio â darparu cynhyrchion misglwyf am ddim mewn ysgolion. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ystyried ymchwil presennol a newydd ar effaith bosibl tlodi misglwyf a
stigma ar ddysgu; b) ystyried galwadau i wella addysg ar y pwnc a chynnig cynhyrchion
misglwyf am ddim mewn sefydliadau addysg; ac c) nodi ffyrdd i sicrhau bod cynhyrchion misglwyf ar gael i fanciau bwyd
Cymru. Plan International UK - 1 in 10
girls have been unable to afford sanitary wear (Saesneg yn unig) Cyngor Rhondda Cynon Taf -
Adroddiad terfynol gan y gweithgor craffu sy’n ymdrin â darparu cynhyrchion
misglwyf am ddim mewn ysgolion (Saesneg yn unig) Cefnogir gan: John Griffiths Julie Morgan Jack Sargeant Dawn Bowden Siân Gwenllian Jayne Bryant Vikki Howells Simon Thomas Mike Hedges Mick Antoniw David Rees Leanne Wood ·
Cytunodd
Rheolwyr Busnes i gynnal y Ddadl Aelodau nesaf ar 16 Mai 2018, a dewiswyd y
cynnig a ganlyn: NNDM6682 Hefin David Rhun ap
Iorwerth Dawn Bowden Angela Burns Mark Isherwood Mandy Jones Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn croesawu adroddiad diweddar
gan Bowel Cancer UK a Beating Bowel Cancer sy'n tynnu sylw at ddiagnosis cynnar
a'i uchelgais o wella cyfraddau goroesi pobl y mae canser y coluddyn yn
effeithio arnynt. 2. Yn cydnabod cyfraniad dewr
cleifion canser y coluddyn yng Nghymru o ran codi ymwybyddiaeth o'r clefyd a
gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ran gwella canlyniadau yn sgil galw
cynyddol am ddiagnosis, o fewn cyfyngiadau'r gwasanaeth presennol. 3. Yn cydnabod mai
canser y coluddyn yw'r canser sy'n lladd yr ail nifer fwyaf o bobl yng Nghymru
ac yn cydnabod yr effaith a gaiff diagnosis cynnar ar gyfraddau goroesi a
phwysigrwydd annog y cyhoedd i fanteisio ar gyfleoedd i sgrinio eu coluddion
gan fod y niferoedd sy'n cael eu sgrinio wedi gostwng 1 y cant yn y 12 mis
diwethaf. 4. Yn croesawu cyflwyno prawf
imiwnogemegol ysgarthion (FIT) symlach a mwy cywir fel rhan o'r rhaglen profi'r
coluddyn a'r potensial i wella cyfraddau goroesi canser y coluddyn. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ddarparu rhaglen sgrinio canser y coluddyn y gall gyrraedd ei photensial llawn
ymdrin â materion o amgylch: a) y trothwy arfaethedig ar gyfer
prawf imiwnogemegol ysgarthion i'w gyflwyno yn 2019; b) heriau sy'n bodoli o fewn
gwasanaethau endosgopi a phatholeg i sicrhau y gellir cyflwyno prawf
imiwnogemegol ysgarthion yn y ffordd orau bosibl; c) angen i leihau'r oedran sgrinio
cymwys o 60 i 50. Spotlight on Bowel Cancer in Wales
- Early Diagnosis Saves Lives (Saesneg yn unig) Cefnogir gan Neil Hamilton |
|
Pwyllgorau |
|
Cais gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i ymweld â San Steffan Cofnodion: Cytunodd Rheolwyr Busnes â'r cais. |
|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Coladu canllawiau a gyhoeddir gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17 Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'n ddefnyddiol crynhoi a chyhoeddi'r
canllawiau. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno papur sy'n adolygu ac yn diweddaru'r
holl ganllawiau cyfredol ac yn drafftio canllawiau newydd yn ôl yr angen. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Adolygu'r Rheolau Sefydlog Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau, yn arbennig er mwyn
ystyried a ddylid adolygu cyfansoddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol yn sgil cyflwyno'r offeryn statudol mewn perthynas â
Brexit. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y
dylid ystyried hyn cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch adolygu'r Rheolau
Sefydlog. |