Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan y Dirprwy Lywydd. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Busnes yr
wythnos hon O ran
cynnig y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer dadl ddydd Mercher ar ‘adroddiad
ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol’, darllenodd Arweinydd y Tŷ y datganiad
a ganlyn: Rydym yn ceisio datrys mater cyfansoddiadol
ynghylch cwmpas y pŵer a nodir yn adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Cymru
2006. Mae hwn yn darparu i'r Cynulliad y
pŵer i orfodi tystion a thystiolaeth mewn perthynas â gwahanol faterion
sy'n berthnasol i swyddogaethau Gweinidogion Cymru. O ystyried y safbwyntiau
gwahanol a fabwysiadwyd gan Gomisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru, rhaid i'r
Prif Weinidog weithredu i egluro'r gyfraith yn y maes hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu cynnig y
Blaid Geidwadol am y rhesymau canlynol: (a) Yn gyntaf, oherwydd bod y cynnig y tu hwnt
i gwmpas pwerau'r Cynulliad o dan adran 37 ac, yn yr un modd, ultra vires
fyddai unrhyw hysbysiad dilynol o dan adran 38.
Mae hyn oherwydd nad yw adran 37 ond yn cwmpasu materion sy'n berthnasol
i arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru, yn wahanol i swyddogaethau sy'n
arferadwy gan y Prif Weinidog yn unig.
Mae mwyafrif helaeth o'r swyddogaethau sy'n berthnasol i'r ffordd y mae
Llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru yn gweithredu yn arferadwy gan y Prif
Weinidog a chan Weinidogion Cymru ar y cyd. Fodd bynnag, comisiynwyd yr
adroddiad ar y datgelu a'i gynnal yn unol â swyddogaethau sy'n arferadwy gan y
Prif Weinidog yn unig. (b) Yn ail, mae'r cynnig yn codi amheuaeth ynghylch cynnal busnes y
Cynulliad yn briodol. Mae'n arfer hir
sefydlog gan bob Llywodraeth yn y DU beidio â datguddio adroddiadau ymchwiliad
i achosion o ddatgelu, a hynny oherwydd y risg o wneud niwed i ymddygiad a
chyfrinachedd ymchwiliadau yn y dyfodol.
Fel yr eglurwyd yn llythyr yr Ysgrifennydd Parhaol dyddiedig 16 Mawrth
2018, mae fframwaith safonol ar gyfer ymchwiliadau i achosion o ddatgelu. Y perygl yw y byddai darparu manylion penodol
am y fframwaith yn tanseilio effeithiolrwydd ymchwiliadau yn y dyfodol. Hefyd, mae risg glir na fyddai unigolion yn
barod i gynnig gwybodaeth o'u gwirfodd na chydweithio gydag ymchwiliadau yn y
dyfodol pe bai'n rhaid rhannu adroddiadau ar achosion o ddatgelu â'r Cynulliad. (c) O ystyried yr ymchwiliadau cyfredol sy'n
ymdrin â gwybodaeth sensitif a chyfrinachol, mae'n hanfodol ein bod yn ceisio
sicrhau eglurder ynghylch cwmpas y ddarpariaeth hon ar hyn o bryd. Ni fyddai'n briodol i'r cynnig uchod fynd
rhagddo cyn i'r cwestiwn cyfreithiol a chyfansoddiadol pwysig hwn gael ei
ddatrys. Dywedodd y
Llywydd i'r llythyr ddod i'w llaw neithiwr, ei bod yn gofyn cyngor, ac y bydd
yn ymateb maes o law. Efallai y bydd angen i'r Pwyllgor Busnes ailymgynnull
rywbryd. Dywedodd y Llywydd wrth y
Rheolwyr Busnes nad oedd modd iddi rannu'r llythyr â hwy am ei fod wedi'i
nodi'n 'gyfrinachol'. Dywedodd
Paul Davies ei fod o'r farn bod cynnig y Ceidwadwyr ar "Adroddiad
Ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol" mewn trefn, yn seiliedig ar y cyngor
cyfreithiol a gafodd y grŵp a oedd, yn ei farn ef, yn gywir. Dydd
Mawrth ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr
eitem olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y
Ddadl Fer. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 25 Ebrill 2018 – ·
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) -
penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â gweithdrefnau
is-ddeddfwriaeth (30 munud)
Dydd Mercher 2 Mai 2018 - ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Dadl Fer - Rhianon Passmore (Islwyn) (30
munud) - gohiriwyd o 21 Mawrth ·
Dydd Mercher 9 Mai 2018 - ·
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi,
Seilwaith a Sgiliau: Prentisiaethau yng Nghymru (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60
munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Cyfarfod Llawn |
|
Cais i amserlennu Cynnig Heb Ddyddiad Trafod ar gyfer dadl Cofnodion: Cytunodd
Rheolwyr Busnes i beidio ag amserlennu'r cynnig ar gyfer dadl, gan eu bod o'r
farn iddo gael ei ddisodli gan gynnig y Ceidwadwyr Cymru a drefnwyd ar gyfer
dydd Mercher. Nododd Arweinydd y Tŷ
fod gan Lywodraeth Cymru yr un anawsterau â'r cynnig hwn â'r rhai a nodwyd
ganddi ynghylch cynnig y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer dydd Mercher. |
|
Deddfwriaeth |
|
Llythyr gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Bil Deddfwriaeth (Cymru) Drafft Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y llythyr. |
|
Llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) Cofnodion: Cadarnhaodd
y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad, mewn egwyddor, ar 13 Mawrth i gyfeirio'r Bil
Cyllido Gofal Plant (Cymru) at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer
ei ystyried yng Nghyfnod 1, a chytunwyd mai'r dyddiad terfyn i'r Pwyllgor
adrodd ar y Bil yng Nghyfnod 1 fyddai 6 Gorffennaf 2018, a'r dyddiad terfyn ar
gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2 fyddai 12 Hydref 2018. |
|
Atodiad i bapur 6, papur Llywodraeth: Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Llythyrau gan y Pwyllgor Cyllid a chan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor o dan Adran 116C Cofnodion: Dywedodd
Arweinydd y Tŷ nad oedd y Llywodraeth am gael Rheol Sefydlog annibynnol ac
y dylid cynnwys y darpariaethau yn Rheol Sefydlog 27. Dywedodd Paul Davies ei fod yn credu y byddai
Gorchymyn Sefydlog annibynnol yn briodol, fel yr argymhellwyd gan y
pwyllgorau. Cadarnhaodd
yr Ysgrifenyddiaeth y byddant yn dod â phapur i gyfarfod yn y dyfodol yn
cynnwys y ddwy opsiwn. |
|
Llythyr gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor o dan Adran 116C |
|
Atodiad i bapurau 8 a 9, papur ar Ddiwygio Rheolau Sefydlog o dan Adran 116C |
|
Pwyllgorau |
|
Cais gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i ymestyn amser ei gyfarfod Cofnodion: |