Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Bydd y
Cyfarfod Llawn yn dechrau pan ddaw Pwyllgor y Cynulliad Cyfan i ben. Bydd
Pwyllgor y Cynulliad Cyfan yn dechrau am 13.00. Bydd seibiant o 15 munud
ar ôl i Bwyllgor y Cynulliad Cyfan ddod i ben. ·
Mae'r
Llywodraeth wedi ychwanegu dau ddatganiad at agenda'r Cyfarfod Llawn -
Datganiad gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus:
Llywodraeth Leol (45 munud) -
Datganiad gan
y Cwnsler Cyffredinol: Ymgynghoriad ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru) Drafft (30
munud) ·
O ran yr
agenda ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, gofynnodd Rhun ap Iorwerth a fyddai'n
bosibl gohirio'r eitem ar Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018, yn sgil y
ffaith bod y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi mynegi'r farn
bod angen mwy o waith craffu ar y rheoliadau. Dywedodd Arweinydd y
Tŷ y byddai'n trafod y mater gyda'r Gweinidog perthnasol y tu allan i'r
pwyllgor. ·
Bydd y Cyfnod
Pleidleisio yn cael ei gynnal fel eitem 6. Bydd yr eitem hon yn cael ei chynnal
cyn diwedd y cyfarfod, gan fod dau ddatganiad ar ôl y Cyfnod Pleidleisio nad
ydynt yn destun pleidlais. Dydd
Mercher ·
Mae'r Rheolwyr
Busnes wedi gohirio dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig tan 18 Ebrill, yn
sgil yr amser a gaiff ei neilltuo ar gyfer y Ddadl Cyfnod 3. ·
Bydd egwyl o
15 munud cyn dechrau trafodion Cyfnod 3. ·
Bydd y Cyfnod
Pleidleisio ar gyfer busnes y Cynulliad yn cael ei gynnal fel eitem 8, cyn y
Ddadl Cyfnod 3. Bydd gweithgarwch pleidleisio yn digwydd drwy gydol y Ddadl
Cyfnod 3, a bydd pleidlais gofnodedig ar gyfer Cyfnod 4 yn cael ei chynnal ar
ddiwedd y cyfarfod. ·
Mae dadl fer
Rhianon Passmore wedi cael ei gohirio. Mae'r dyddiad pan gaiff y ddadl honno ei
chynnal i'w gadarnhau. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i
gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 18 Ebrill 2018 –
·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)– gohiriwyd ers 21 Mawrth Dydd Mercher 2 Mai 2018 - ·
Datganiad gan
Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Caffael Cyhoeddus (30 munud) ·
Dadl gan Aelod
o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd
i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud) |
|
Amserlen y Cynulliad |
|
Dyddiadau Toriadau Cofnodion: Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor mis
Hydref a thoriad y Nadolig 2018, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer
hanner tymor y gwanwyn a thoriad yr haf 2018. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Adolygiad o'r Rheolau Sefydlog Cofnodion: Cytunodd Gweinidog Busnes y Llywodraeth i gyflwyno papur ar y materion y
mae'n ystyried eu bod yn flaenoriaethau ar gyfer yr adolygiad. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno papur ynghylch casglu a chyhoeddi
canllawiau a ddarparwyd i'r Aelodau gan y Llywydd. |