Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y ddwy Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 18 Ebrill 2018

 

·         Cynnig i grwpio'r ddwy eitem a ganlyn i'w trafod ond gan bleidleisio ar wahân (60 munud):

-     Cynnig i gymeradwyo Polisi Urddas a Pharch y Cynulliad

-     Cynnig i gymeradwyo diwygiadau i God Ymddygiad yr Aelodau.

·          Dadl Plaid Cymru  -   gohiriwyd tan 25 Ebrill

 

Dydd Mercher 25 Ebrill 2018

 

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)  - gohiriwyd o 18 Ebrill

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

Cofnodion:

·         Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil Cyllid Gofal Plant (Cymru) at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w ystyried yng Nghyfnod 1.

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ymgynghori ar ddyddiadau cau Cyfnod 1 a Chyfnod 2.

 

5.

Amserlen y Cynulliad

5.1

Dyddiadau Toriadau

Cofnodion:

Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i'r Ysgrifenyddiaeth gadarnhau a oedd y dyddiadau hanner tymor a gynigiwyd ar gyfer hydref 2018 a gwanwyn 2019 yn unol â gwyliau ysgol ledled Cymru, neu a oedd y dyddiadau'n amrywio mewn gwahanol rannau o'r wlad. Bydd y Pwyllgor Busnes yn ystyried y mater eto yr wythnos nesaf, pan fydd y wybodaeth honno ar gael.

 

6.

Trefniadau cyflwyno

6.1

Trefniadau cyflwyno adeg toriad y Pasg, Gŵyl Fai, a hanner tymor y Llungwyn 2018

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y trefniadau cyflwyno adeg toriad y Pasg, Gŵyl Fai, a hanner tymor y Llungwyn 2018

 

Unrhyw fater arall

Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar yr Egwyddorion Cyffredinol a phenderfyniad ariannol y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd yr wythnos hon, bydd Cyfnod 2 yn digwydd mewn Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan ddydd Mawrth nesaf.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y bydd Pwyllgor y Cynulliad Cyfan yn dechrau am 13:00 ac y bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau 15 munud ar ôl iddo orffen.

 

O dan yr amserlen y cytunwyd arni gan y Cynulliad, bydd Cyfnod 3 y Bil yn cael ei gynnal ddydd Mercher 21 Mawrth. Cytunodd y Rheolwyr Busnes iddo gael ei drafod fel yr eitem olaf o fusnes, er mwyn caniatáu’r cyfnod hwyaf posibl ar gyfer cyflwyno gwelliannau ar ôl cwblhau Cyfnod 2 a pharatoi papurau ac ati.