Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 14 Mawrth 2018 –

·         Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 20 mewn perthynas â'r Datganiad am Gynigion y Gyllideb Ddrafft (5 munud)

·         Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B mewn perthynas â'r Gofyniad am Asesiadau Effaith ar Gyfiawnder (adran 110A o'r Ddeddf)  (5 munud)

·         Enwebiad o dan Reol Sefydlog 10.5 ar gyfer penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru (5 munud)

·         Dadl Fer – Vikki Howells (Cwm Cynon) (30 munud) – wedi'i gohirio o 28 Chwefror

Dydd Mercher 18 Ebrill 2018 –

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)

·         Adroddiad gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit? (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

3.4

Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau: dewis cynnig i'w drafod

Cofnodion:

·         Dewisodd Rheolwyr Busnes gynnig i'w drafod ar 14 Mawrth

NNDM6681 Hefin David (Caerffili)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnig ar gyfer Bil ar reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau.

2. Diben y Bil hwn fyddai:

a) rhoi hawliau sy'n cyfateb i hawliau lesddeiliaid i rydd-ddeiliaid sy'n talu'r ffioedd ar gyfer gwaith cynnal a chadw mewn mannau cymunedol a chyfleusterau ar ystâd breifat neu ddefnydd cymysg a fydd yn eu galluogi i herio rhesymoldeb taliadau gwasanaeth;

b) sicrhau, pan mae rhydd-ddeiliad yn talu tâl rhent, nad yw'r perchennog sy'n codi rhent yn gallu cymryd meddiant neu roi prydles ar yr eiddo os nad yw tâl rhent yn cael ei dalu am gyfnod byr o amser; ac

c) rhoi hawliau i rydd-ddeiliaid yng Nghymru sy'n cyfateb i hawliau rhydd-ddeliaid yn Lloegr o ganlyniad i newidiadau i reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau a gynlluniwyd gan Lywodraeth y DU.

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu'r ddadl nesaf ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod ar ôl toriad y Pasg.

 

4.

Rheolau Sefydlog

4.1

Cynigion i ddiwygio Rheol Sefydlog 20: Datganiadau ynghylch y Gyllideb Ddrafft

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes yn ffurfiol ar y newidiadau i Reol Sefydlog 20, sydd wedi'u nodi yn Atodiad A i'r papur.  Mae cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog wedi'i gynnwys ar yr Agenda ar gyfer y Cyfarfod Llawn a gynhelir ddydd Mercher 14 Mawrth.

 

4.2

Cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B: Asesiadau Effaith ar Gyfiawnder

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes yn ffurfiol ar y newidiadau i Reolau Sefydlog 26, 26A a 26B, sydd wedi'u nodi yn Atodiad A i'r papur.  Mae cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog wedi'i gynnwys yn yr Agenda ar gyfer y Cyfarfod Llawn a gynhelir ddydd Mercher 14 Mawrth. Bydd y cynnig hwnnw'n gwahodd y Cynulliad i gymeradwyo bod y cynigion yn dod i rym ar 1 Ebrill 2018.

 

4.3

Adolygiad o'r Rheolau Sefydlog

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur cwmpasu, a chytunwyd y byddent yn ymgynghori â'u grwpiau cyn dychwelyd i'r mater hwn ymhen pythefnos.