Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion o'r cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Ychwanegodd y Llywodraeth ddatganiad newydd at agenda Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth: Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cyfarfod Cydbwyllgor y Gweinidogion (Trafodaethau’r UE), 22 Chwefror 2018 (45 munud). Gohiriwyd y Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Diweddaraf am Ymchwiliad y DU i Waed Heintiedig tan 13 Mawrth.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Gohiriwyd y Ddadl Fer tan 14 Mawrth. Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Dosbarthodd y Llywodraeth amserlen ddiwygiedig i Reolwyr Busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf.  Cafodd yr ychwanegiadau a ganlyn eu nodi yn y Datganiad a chyhoeddiad busnes yn y modd arferol:

 

Dydd Mawrth 6 Mawrth 2018

 

·         Cynnig i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):

-     Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 i drin Bil a gaiff ei alw’n y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) fel Bil Brys y Llywodraeth.

-     Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil a gaiff ei alw’n y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 7 Mawrth 2018 -

·         Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Urddas a Pharch yn y Cynulliad (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Craffu ar Reoliadau a wnaed o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) – gohiriwyd tan 14 Mawrth

 

Dydd Mercher 14 Mawrth 2018 –

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)– gohiriwyd tan 29 Mawrth

·         Dadl Fer – Vikki Howells (Cwm Cynon) (30 munud)  wedi'i gohirio o 28 Chwefror

 

Dydd Mercher 21 Mawrth 2018 –

·         Dadl:  Egwyddorion Cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) (60 munud)

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

 

3.4

Dadl Aelodau: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl

Cofnodion:

·         Dewisodd Rheolwyr Busnes gynnig i'w drafod ar 7 Mawrth:

NNDM6666

Mark Isherwood

Adam Price

Dai Lloyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, yn darparu trafnidiaeth ar gyfer pobl sy'n wynebu rhwystrau rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a phreifat, yn cefnogi pobl i fyw'n annibynnol a chael mynediad i wasanaethau hanfodol, gan hefyd liniaru materion yn ymwneud ag unigrwydd ac arwahanrwydd.

2. Yn nodi'r pryder am ymghynghoriad presennol Adran Drafnidiaeth y DU ar drwyddedau trafnidiaeth cymunedol (adran 19/22) ac effaith bosibl hyn ar wasanaethau yng Nghymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio mewn partneriaeth â'r sector trafnidiaeth gymunedol a chyrff cyhoeddus i sicrhau bod y sector yn gallu parhau yn ei rôl unigryw gan ddarparu dewisiadau trafnidiaeth pwrpasol ar gyfer pobl sy'n agored i niwed, er mwyn sicrhau mynediad i wasanaethau tra bod y broses ymgynghori yn mynd rhagddi;

b) datblygu cynlluniau wrth gefn i liniaru unrhyw effaith ar ddarpariaeth trafnidiaeth drwy wasanaethau bws mini a gyflenwir drwy drwyddedau adran 19 a 22;

c) cyhoeddi strategaeth glir sy'n cydnabod yr agwedd drawsbynciol ar ddarparu trafnidiaeth gymunedol ar draws adrannau Llywodraeth Cymru wrth gyflawni nodau strategol Llywodraeth Cymru;

d) darparu sefydlogrwydd sydd ei fawr angen ar gyfer y sector drwy symud tuag at gytundebau ariannu tair blynedd i alluogi sefydliadau i ddatblygu a bwrw ymlaen â chynlluniau, i sicrhau mwy o gynaliadwyedd a dull mwy strategol o ddarparu gwasanaethau; ac

e) sicrhau ymgysylltiiad â phartneriaid perthnasol a rhanddeiliaid ledled Cymru i lywio ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad, ac i sicrhau dealltwriaeth yn y sector o safbwynt Llywodraeth Cymru.

Ymgynghoriad Adran Drafnidiaeth y DU ar drwyddedau trafnidiaeth cymunedol (Saesneg yn unig)

 

·         Cytunodd Rheolwyr Busnes i gynnal y Ddadl Aelodau nesaf ar 21 Mawrth, a dewisiwyd y cynnig a ganlyn:

NNDM6665

Jenny Rathbone

Jane Hutt

Bethan Jenkins

Dai Lloyd

David Melding

Julie Morgan

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. yn gresynu at y ffaith:

a) bod polisïau cyfiawnder troseddol ar gyfer Cymru a Lloegr wedi methu ag atal y cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu carcharu;

b) nad yw amodau'r carchardai lle y mae gormod o garcharorion o Gymru yn cael eu cadw yn ffafriol i adsefydlu, fel yr amlygwyd gan adroddiadau arolygu diweddar ar CEM Abertawe a CEM Lerpwl;

c) bod 47 y cant o garcharorion yn aildroseddu o fewn blwyddyn;

d) nad yw'r rhan fwyaf o argymhellion adroddiad Corston o 2007 am drin troseddwyr sy'n fenywod wedi'u gweithredu eto, gan anwybyddu'r dystiolaeth bod carcharu menywod ar gyfer troseddau cymharol ddibwys yn amharu ar fywydau eu plant mewn ffordd sylweddol, costus ac na ellir ei chyfiawnhau.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i:

a) treialu modelau amgen o gosbi troseddwyr di-drais o Gymru yng Nghymru er mwyn osgoi amharu ar y teulu, tai a chysylltiadau cyflogaeth sy'n elfennau hanfodol i adsefydlu llwyddiannus;

b) hyrwyddo gwaith cydgysylltiedig gwell rhwng gwasanaethau iechyd, tai a chyfiawnder troseddol i frwydro yn erbyn y cynnydd mewn digartrefedd a salwch meddwl ymysg pobl sy'n gadael carchar;

c) datblygu polisi cosbi Cymreig penodol ar sail y dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio;

3. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol yn y pen draw, ynghyd â'r adnoddau i adsefydlu troseddwyr mewn modd ataliol ac adferol, gan roi terfyn ar y drws troi rhwng y carchar ac ail-droseddu.

Adroddiad y Swyddfa Gartref - Adroddiad Corston (Saesneg yn unig)

 

Women in Prison - The Corston Report 10 Years On (Saesneg yn unig)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Masnach

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad o 27 Chwefror i 16 Mawrth.

 

5.

Rheolau Sefydlog

5.1

Adran 116C – Pŵer i ychwanegu trethi datganoledig newydd

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur, gan gytuno i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch yr opsiynau arfaethedig, gan egluro eu bod yn gofyn eu barn ar y weithdrefn ar gyfer datganoli trethi ac nid y trethi eu hunain.  Nododd Arweinydd y Tŷ y byddai'r Llywodraeth yn fodlon ag opsiwn B neu opsiwn C, ond nid yw'n credu y byddai opsiwn A yn ymarferol.

 

6.

Bil yr UE (Ymadael)

6.1

Craffu ar reoliadau sy'n deillio o Fil yr UE (Ymadael)

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y papur.

 

6.2

Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd – y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Busnes

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y papur.