Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem
olaf o fusnes. Dydd
Mercher Cynhelir y
Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 14 Mawrth 2018 - ·
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30
munud) ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg ar Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y
Deyrnas Unedig (60 munud) |
|
Pwyllgorau |
|
Diddymu Adran 29 o'r Ddeddf – Cyfansoddiad Pwyllgorau Cofnodion: Penderfynodd
y Rheolwyr Busnes y dylid trafod y materion hyn yn y papur ehangach ar y
Rheolau Sefydlog, ac roeddent yn fodlon ar adael y cyfeiriad at adran 29 yn
Rheolau Sefydlog 17.7 a 17.8 yn y tymor byr, er gwaethaf y ffaith bod adran 29
o'r Ddeddf wedi ei diddymu. Nododd y
Llywydd y byddai angen i'r Pwyllgor Busnes ddychwelyd i fater d'Hondt pe na bai
adolygiad eang o'r Rheolau Sefydlog yn cael ei gynnal. |
|
Y Cyfarfod Llawn |
|
Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru a Datganiad ar y Gyllideb Ddrafft Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r newid o ran y Gyllideb Ddrafft (ceir manylion yn Atodiad A
i'r papur). Ni allai'r Rheolwyr Busnes
gytuno ar unrhyw un o'r cynigion ar Raglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru,
ac felly mae gofynion y Rheolau Sefydlog
presennol ar gyfer dadl flynyddol yn parhau. |