Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion o’r cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

Ychwanegodd y Llywodraeth ddau ddatganiad i agenda dydd Mawrth ar gyfer y Cyfarfod Llawn: Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Polisi Masnach - Materion Cymru (45 munud) a Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Canmlwyddiant y Bleidlais i Fenywod (45 munud).

 

Nododd Rhun ap Iorwerth fod y Llywodraeth wedi trefnu pum datganiad yr wythnos hon ond dim un ddadl, yn cynnwys Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol 2016/17, a fu’n ddadl bob tro o’r blaen.

·         Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.

Dydd Mercher

Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y byddai’r fformat ar gyfer Cynnig Comisiwn y Cynulliad: Ymgynghoriad ar Ddiwygio’r Cynulliad fel a ganlyn:

·         Y Llywydd yn agor a chloi (cyfanswm o 8 munud)

·         Siaradwyr eraill (5 munud)

·         Dim gwelliannau nac ymateb gan y Llywodraeth

 

·         Byddai’r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

Gofynnodd Rhun ap Iorwerth am gefndir y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau sy’n Addas i’r Dyfodol - Papur Gwyn ar 27 Chwefror, ac a allai fod yn ddadl yn lle datganiad.  Dywedodd Arweinydd y Tŷ fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn am ddatganiad.

 

Dywedodd Julie James wrth y Rheolwyr Busnes mai hi fyddai’n ateb y cwestiynau i’r Prif Weinidog ar 27 Chwefror, gan y byddai’r Prif Weinidog i ffwrdd ar fusnes yn ymwneud â dydd Gŵyl Dewi.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 28 Chwefror 2018 -

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

4.

Y Pwyllgor Busnes

4.1

Cwestiynau Llafar y Cynulliad

Cofnodion:

Ni chytunodd y Rheolwyr Busnes ar unrhyw feysydd diwygio ar gyfer cyflwyno. Cytunodd y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd i addasu eu blaenoriaethau wrth gadeirio fel:

·         na fyddent yn galw cynifer o gwestiynau atodol ac, o’r herwydd, byddant yn galw mwy o’r cwestiynau a gyflwynwyd;

·         bydd llai o flaenoriaeth o ran galw Arweinwyr/Llefarydd y Pleidiau ar gwestiynau eraill; a

·         bydd disgwyl i Arweinwyr/Llefarwyr y Pleidiau a Gweinidogion fod yn fwy cryno.

Roedd gan y Rheolwyr Busnes safbwyntiau gwahanol ynghylch pa flaenoriaethu y dylid i roi i gynnal adolygiad ehangach o’r Rheolau Sefydlog, felly gofynnodd y Llywydd i’r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno papur cwmpasu ar sut y byddai adolygiad llawn yn edrych a’r adnoddau fyddai ynghlwm wrth hynny.