Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion o'r cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Ychwanegodd y Llywodraeth ddatganiad at agenda Cyfarfod Llawn dydd Mawrth: Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Diogelu'r Hawl i Addysg Addas i bob Plentyn (45 munud)

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

Cododd Rhun ap Iorwerth y ffaith bod y Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Bwysau'r Gaeaf (45 munud) wedi cael ei ychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn ar gyfer dydd Mawrth 13 Chwefror.  Teimlai y dylai'r pwnc fod yn destun dadl yn hytrach na datganiad, er mwyn i wrthbleidiau allu cyflwyno gwelliannau.  Dywedodd Arweinydd y Tŷ y byddai'n rhoi'r adborth i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ond nododd iddi addo datganiad ar y mater yn ystod cwestiynau'r wythnos ddiwethaf ynghylch y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 28 Chwefror 2018

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

4.

Pwyllgorau

4.1

Cais am Ddadl Pwyllgor

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais ar gyfer Dadl ar y ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru, a gafodd 6,398 o lofnodion. 

 

5.

Y Pwyllgor Busnes

5.1

Cwestiynau Llafar y Cynulliad

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod y meysydd arfaethedig i'w diwygio gyda'u grwpiau.

 

O ran y cynnig am adolygiad ehangach o'r Rheolau Sefydlog, gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes barhau i drafod y tu allan i'r pwyllgor.

 

6.

Deddfwriaeth

6.1

Papur i'w nodi - Amserlen ddiwygiedig ar gyfer ystyried Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y papur.

 

Unrhyw fater arall

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y mater o ddefnyddio fformiwla d'Hondt ar gyfer aelodaeth pwyllgorau yn ogystal â datganiadau/dadleuon ar Raglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru mewn pythefnos fel materion Rheolau Sefydlog sydd angen eu datrys yn y tymor byr.

 

Soniodd Arweinydd y Tŷ wrth y Rheolwyr Busnes yn dilyn ad-drefnu'r Cabinet yn ddiweddar fod ambell fater o orgyffwrdd neu anghysondeb rhwng portffolios y Gweinidogion a chylch gwaith y Pwyllgorau, fel y dangoswyd wrth graffu ar y gyllideb. Gofynnodd y Llywydd i'r ysgrifenyddiaeth archwilio unrhyw feysydd amlwg y gellid eu halinio'n hawdd, cyn cynnal trafodaeth yn Fforwm y Cadeiryddion o bosibl ar 7 Chwefror.