Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Ymddiheurodd Arweinydd y Tŷ, a daeth Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gyllid yn ei lle. Ymddiheurodd Paul Davies, a daeth Andrew RT Davies yn ei
le. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Dydd Mercher
|
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar
gyfer y tair wythnos nesaf. Nododd Rheolwyr Busnes fod newid i'r amserlen OAQ ar
gyfer mis Mawrth 2018; bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth bellach yn ateb cwestiynau ar 7 Mawrth, ac Ysgrifennydd y Cabinet
dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 14 Mawrth. Mae hyn oherwydd y bydd Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth dramor yn ystod y slot a ddyrannwyd
iddo. Mae'r amserlen ar-lein wedi'i
diwygio yn unol â hynny. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 7 Chwefror 2018
Dydd Mercher 14 Chwefror 2018 – ·
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon i unigrwydd ac unigedd (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) |
|
Dadleuon Aelodau: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl Cofnodion: ·
Y Rheolwyr Busnes i
ddewis cynnig ar gyfer dadl ar 31 Ionawr: NNDM6626 Mick
Antoniw Sian
Gwenllian David
Melding David
Rees Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod
contractau preswyl lesddaliad yn parhau i gynrychioli cyfran sylweddol o eiddo
a adeiladir o'r newydd yng Nghymru; a a) bod contractau
preswyl lesddaliad yn aml yn cael eu cynnig ar delerau anfanteisiol, gan arwain
at niwed i berchennog y cartref; a b) mai ychydig o
amddiffyniad sydd gan berchnogion cartrefi lesddaliad rhag ffioedd afresymol ac
oedi afresymol wrth brynu, gwerthu neu wella eu heiddo. 2. Yn nodi gwaharddiad
arfaethedig Llywodraeth y DU ar werthu eiddo lesddaliad a adeiladir o'r newydd
yn Lloegr. 3. Yn credu y dylai
Llywodraeth Cymru gymryd camau i ddiogelu perchnogion cartrefi yn y dyfodol
drwy ddiddymu contractau preswyl lesddaliad yng Nghymru.
NNDM6635 Dai Lloyd Mike Hedges David Melding Nick Ramsay Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi nifer y ffyrdd yng Nghymru sydd heb
eu mabwysiadu, ac felly nad ydynt yn cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol
perthnasol. 2. Yn nodi bod nifer o ddatblygwyr heb
adeiladu ffyrdd ar ystadau newydd i safonau mabwysiadwy. 3. Yn cydnabod bod gwendidau yn y broses o brynu
tai, ac nid yw bob amser yn sicrhau bod gan brynwyr symiau dargadw ariannol
digonol yn eu lle i ddod â'r ffyrdd hyn at safon mabwysiadwy'r awdurdod lleol. 4. Yn cydnabod bod y prynwyr tai hynny yn aml
yn wynebu gorfod buddsoddi symiau sylweddol o arian er mwyn dod â ffyrdd at
safon mabwysiadwy'r awdurdod lleol. 5. Yn nodi bod nifer o'r ffyrdd hyn yn parhau
i fod heb eu mabwysiadu ac mewn cyflwr gwael, am nifer o flynyddoedd, weithiau
yn fytholbarhaus. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu
tasglu, i gynnwys awdurdodau lleol, y proffesiwn cyfreithiol, datblygwyr a
rhanddeiliaid allweddol eraill, gyda golwg ar ddatblygu gwelliannau i'r broses
o brynu tai a mabwysiadu ffyrdd. 7.
Yn ceisio datblygu rhaglen Cymru gyfan i sicrhau gostyngiad yn nifer y ffyrdd sydd
heb eu mabwysiadu yng Nghymru. |
|
Deddfwriaeth |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes gais y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am estyniad i ddyddiad cau adrodd Cyfnod
1 hyd at 9 Mawrth 2018 ac estyniad, o ganlyniad, i ddyddiad cau Cyfnod 2. Yn
lle hynny, cynigiodd Llywodraeth Cymru estyniad hyd at 2 Mawrth , ar y sail,
fel arall, y gellid ond cynnal dadl Cyfnod 1 (y mae'n rhaid ei gwblhau cyn y
Prif Ddiwrnod Penodedig) yn ystod wythnos olaf y tymor, a oedd yn lefel risg
annerbyniol yn eu barn nhw. Cytunodd
y Rheolwyr Busnes i ofyn i'r Pwyllgor ystyried cynnig y Llywodraeth. Petai'r
Pwyllgor yn cytuno, byddai'r Pwyllgor Busnes yn cadarnhau'r estyniad y tu allan
i'r Pwyllgor; pe na fyddai'r Pwyllgor yn cytuno, byddai'r Pwyllgor Busnes yn
edrych ar y mater eto yn y cyfarfod nesaf. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes â'r cais i gyfeirio pob
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y dyfodol at y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i'w hystyried, yn ogystal ag unrhyw bwyllgor
perthnasol arall. |