Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion o'r cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem
olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 7 Chwefror 2018 ·
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30
munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y
Deyrnas Unedig (60 munud) |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Adran 116C - Pŵer i ychwanegu trethi datganoledig newydd Cofnodion: Cytunodd
y Rheolwyr Busnes i ohirio trafodaethau ar y papur tra bod Llywodraeth Cymru yn
parhau â'i thrafodaethau gyda Thrysorlys y DU.
Cytunodd Arweinydd y Tŷ y byddai Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod
digon o amser i ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol cyn dod i benderfyniad ar y weithdrefn. |
|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad - ymateb gan y Grŵp Llafur Cofnodion: Trafododd
y Rheolwyr Busnes y papur a gofynnwyd i'r Ysgrifenyddiaeth lunio nodyn o
drafodaethau a meysydd posibl i gytuno arnynt erbyn yr wythnos nesaf. Cytunodd
y Rheolwyr Busnes i drafod adolygiad ehangach gyda'u grwpiau. |
|
Papur i'w nodi - Cwestiynau Llafar y Cynulliad Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y papur, yng nghyd-destun trafodaethau ar eitem 5.1. |
|
Unrhyw fater arall Mandy Jones Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y byddai Mandy Jones yn cael cynnig lle ar y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a bod cynnig i'r perwyl hwnnw yn cael ei
ychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher. |