Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Papur 1 – Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Ychwanegodd y Llywodraeth ddatganiad at agenda Cyfarfod Llawn dydd Mawrth:

-     Y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Dyfodol Cadw (30 munud)

 

·         Byddai pob pleidlais mewn perthynas â'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3.

 

·         Cadarnhaodd Gweinidog Busnes y Llywodraeth y byddai'r pleidleisio ar bob eitem arall o fusnes yn cael ei gynnal cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau.

 

·         Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai egwyl o 15 munud cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau.

 

Dydd Mercher

 

·         Byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Papur 2 – Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Papur 3 – Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 29 Tachwedd 2017 -

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddyd i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog (60 munud)

 

Dydd Mercher 6 Rhagfyr 2017 –

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Fynediad at Drafnidiaeth ar gyfer Pobl Anabl (60 munud) - wedi'i ohirio

·         Dadl ar y ddeiseb 'Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar' (60 munud)

Dydd Mercher 13 Rhagfyr 2017 –

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd (60 munud)

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

 

3.4

Papur 4 - Dadl Aelodau: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl

Cofnodion:

·         Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer dadl ar 29 Tachwedd:

NNDM6521

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y gall inswleiddio waliau ceudod, pan y caiff ei wneud yn gywir mewn eiddo addas, fod yn ffordd gost effeithiol o leihau biliau tanwydd, gan gyfrannu at leihau allyriadau carbon a thlodi tanwydd.

2. Yn credu, fodd bynnag, fod lleiafrif sylweddol o osodiadau yn parhau mewn eiddo anaddas ac eiddo nad yw'n cydymffurfio â safonau gwaith da, a bod ceisio cael iawn am hynny yn aml yn anodd a'r iawndal yn aml yn annigonol neu'n amhosibl ei gael.

3. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, Cavity Insulation Guarantee Agency ac eraill i ddarparu iawndal priodol ac iawndal ar gyfer gwaith a gaiff ei osod yn anghywir, ac i gryfhau'r prosesau ar gyfer diogelu defnyddwyr yn y dyfodol.

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnal y Ddadl Aelod Unigol nesaf ar 13 Rhagfyr.

 

4.

Y Cyfarfod Llawn

4.1

Papur 5 - Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 - cais am ddadl

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i neilltuo amser i gynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddyd i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, ddydd Mercher nesaf, 29 Tachwedd, yn ogystal â'r busnes arall a drefnwyd. 

 

Ymataliodd Julie James rhag pleidleisio, gan nad oedd wedi trafod y mater â'i grŵp, ond nid oedd yn dymuno rhwystro'r ddadl rhag cael ei threfnu. Fodd bynnag, dywedodd ei bod yn disgwyl y byddai'r llywodraeth yn cyflwyno gwelliannau i'r cynnig, i egluro rhai rhannau o'r cylch gorchwyl.

 

Datganodd Rhun ap Iorwerth ei farn y dylai'r Cynulliad ystyried penodi Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Cod y Gweinidogion, yn rhan o'i ystyriaeth o'r mater hwn.

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Papur 6 - Cais am Ddadl Pwyllgor

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais gan y Pwyllgor Deisebau i gynnal dadl ar y ddeiseb 'Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar', sydd wedi cael 8,791 o lofnodion.  Trefnir y ddadl ar gyfer 6 Rhagfyr yn lle'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus. Caiff y ddadl honno ei haildrefnu i'w chynnal yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Dywedodd Arweinydd y Tŷ y byddai gan y llywodraeth ragor o wybodaeth newydd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i'w rhannu pe byddai'r ddadl yn cael ei chynnal yn y flwyddyn newydd, ond ei bod yn fodlon cyd-fynd â barn y mwyafrif.

 

5.2

Papur 7 - Cais gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i gynnal ymweliadau â Senedd yr Alban a San Steffan

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i gael eu hesgusodi o'r Cyfarfodydd Llawn ar 29 Tachwedd 2017 a 6 Rhagfyr 2017, â'r disgwyliad y byddai'r chwipiau yn gwneud trefniadau i hwyluso hyn.

 

6.

Deddfwriaeth

6.1

Papur 8 - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).

Cofnodion:

Ar ôl cael cais gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfleu i'r Pwyllgor hwnnw ac i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y byddai'n well ganddynt ymestyn y dyddiad cau i 13 Rhagfyr 2017 er mwyn bod yn ddigon hyblyg i allu cynnal dadl yn gynnar yn y flwyddyn newydd pe byddai angen, a rhag i ddigwyddiadau achosi i'r adroddiadau fynd yn angof.  Cadarnhaodd y Llywodraeth y byddai'n cyflwyno rhagor o Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar welliannau newydd o sylwedd yn ôl yr angen.

 

7.

Amserlen y Cynulliad

7.1

Papur 9 - Dyddiadau'r toriadau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y dyddiadau a ganlyn ar gyfer toriad hanner tymor y Sulgwyn a thoriad yr haf yn 2018, a chytunwyd y dyddiadau a ganlyn dros dro ar gyfer hanner tymor mis Hydref a thoriad y Nadolig 2018.

 

Toriad

Dyddiadau

Hanner tymor y gwanwyn 2018

(1 wythnos)

 

Dydd Llun 19 Chwefror 2018 – dydd Sul 25 Chwefror 2018

 

Toriad y Pasg 2018

(3 wythnos)

 

Dydd Llun 26 Mawrth 2018 – dydd Sul 15 Ebrill 2018

Hanner tymor y Sulgwyn 2018 (1 wythnos)

 

Dydd Llun 28 Mai – dydd Sul 3 Mehefin 2018

Toriad yr Haf 2018 (8 wythnos)

 

Dydd Llun 23 Gorffennaf 2017 – dydd Sul 16 Medi 2018

*Hanner Tymor yr Hydref 2018

(1 wythnos)

 

Dydd Llun 29 Hydref 2018 – dydd Sul 4 Tachwedd 2018

* Toriad y Nadolig 2018

(3 wythnos)

 

Dydd Llun 17 Rhagfyr 2018 - dydd Sul 6 Ionawr 2019

* Dyddiadau dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes.

 

8.

Y Pwyllgor Busnes

8.1

Papur 10 - Cwestiynau Llafar y Cynulliad

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio'r eitem hon hyd gyfarfod yn y dyfodol.