Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Estynnodd y Llywydd groeso i Julie James, y Gweinidog â chyfrifoldeb dros
fusnes y Llywodraeth, a mynegodd ei diolch ar ran y Pwyllgor Busnes i Jane Hutt
am ei chyfraniad enfawr dros nifer o flynyddoedd fel Rheolwr Busnes ac
Arweinydd y Tŷ. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Byddai'r
Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Dydd Mercher ·
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i
gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher
15 Tachwedd 2017 - ·
Cynnig i
gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19 (30 munud) Dydd Mercher
29 Tachwedd 2017 - ·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd
i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud) |
|
Y Cyfarfod Llawn |
|
Adolygiad o'r diwygiadau i'r Cyfarfod Llawn Cofnodion: Adolygiad o'r diwygiadau i'r Cyfarfod Llawn Trafododd y Rheolwyr Busnes sut y mae diwygiadau diweddar i drafodion
Cyfarfodydd Llawn yn gweithredu, a chytunodd i adolygu eu gweithrediad fel a
ganlyn: ·
Ailenwi
'Dadleuon gan Aelodau Unigol' yn 'Dadleuon gan Aelodau'; ·
Cynigion
Deddfwriaethol Aelodau - roedd Rheolwyr Busnes yn fodlon ar y cyfan ar y modd y
mae Cynigion Deddfwriaethol Aelodau yn gweithredu, ond gofynnodd Julie James
i'r Rheolwyr Busnes barhau i gadw golwg arnynt a dychwelyd at y mater yn y
flwyddyn newydd; ·
Rhaglen
Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru - Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i'r
Ysgrifenyddiaeth ddod â chynigion gerbron sy'n caniatáu ar gyfer digwyddiad yn
dilyn patrwm penodedig, gan barchu'r angen am bleidlais, ac sydd hefyd yn
caniatáu i Aelodau'r meinciau cefn allu gwneud cyfraniad sylweddol; ·
Datganiad ar y
Gyllideb Ddrafft - cyflwynir Rheolau Sefydlog Drafft i wneud y fformat a gafodd
ei dreialu yn un parhaol. |
|
Amserlen y Cynulliad |
|
Papur i'w nodi - Amserlen Cwestiynau Llafar y Cynulliad Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes y papur. |
|
Unrhyw fater arall Cadeirydd y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Nododd y Pwyllgor fod Huw
Irranca-Davies wedi ymddiswyddo fel cadeirydd y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Penderfyniad mwyafrif y Rheolwyr Busnes oedd y
dylai cadeiryddiaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol barhau
i gael ei dyrannu i'r Grŵp Llafur. Gwrthwynebodd Paul Davies y
penderfyniad, gan nodi'r anghydbwysedd parhaus yn y modd y mae'r Cadeiryddion
wedi'u dyrannu ymhlith grwpiau'r pleidiau.
Gwahoddir enwebiadau ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, gyda
balot yn digwydd rhwng 2 a 5pm os oes angen. Byddai'r canlyniad yn cael ei
gyhoeddi cyn y cyfnod pleidleisio. Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd y
dylai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ddychwelyd i fod yn
bwyllgor o bedwar Aelod wedi i Dafydd Elis-Thomas ymddiswyddo o'r pwyllgor. Trefn y seddi
yn y Siambr Bydd cynllun seddi diwygiedig yn
cael ei ddosbarthu cyn y Cyfarfod Llawn heddiw. |
|
Ailgynullwyd y Pwyllgor Busnes am 2.30pm i ystyried trefniadau busnes y dyfodol agos iawn yn dilyn marwolaeth sydyn Carl Sargeant AC Cyfarfod Llawn heddiw - roedd y Llywydd eisoes wedi cyhoeddi bod Cyfarfod Llawn heddiw wedi'i
ganslo. Cyfarfod Llawn yfory - cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid canslo'r Cyfarfod Llawn yfory hefyd. Pwyllgorau yr wythnos hon - cytunodd y Rheolwyr Busnes mai
Cadeiryddion sy'n gyfrifol am eu pwyllgorau, ond y byddai'r Pwyllgor Busnes yn
eu cynghori i beidio â chwrdd yr wythnos hon. Nododd y Rheolwyr Busnes fod rhai
cadeiryddion eisoes wedi nodi y byddent yn canslo eu cyfarfodydd. Y Swyddfa Gyflwyno - cytunodd y Rheolwyr Busnes y bydd y Swyddfa Gyflwyno yn parhau ar agor
at ddibenion cyflwyno a gosod busnes ar gyfer yr wythnos nesaf. Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf - cytunodd y
Rheolwyr Busnes y bydd busnes yn ailddechrau'r wythnos nesaf. Bydd
Cwestiynau Llafar y Cynulliad a drefnwyd ar gyfer heddiw ac yfory yn cael eu
gofyn yng Nghyfarfodydd Llawn yr wythnos nesaf, ac amserlen Cwestiynau Llafar y
Cynulliad yn cael ei diwygio yn unol â hynny. Dywedodd Arweinydd y Tŷ wrth
y Pwyllgor y byddai'r llywodraeth yn dymuno symud ei busnes o'r wythnos hon i'r
nesaf, gan gadw rhai eitemau hanfodol o fusnes a drefnwyd ar gyfer yr wythnos
nesaf. Byddai dadl Cyfnod 3 ar y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol yn
cael ei gohirio. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i fabwysiadu agwedd debyg tuag at
fusnes y Cynulliad, a gofynnodd i'r Ysgrifenyddiaeth ddosbarthu agenda
ddiwygiedig i'w chadarnhau. Aildrefnu busnes - byddai'r Pwyllgor yn ystyried aildrefnu busnes dros y tymor canolig yn
ei gyfarfod ddydd Mawrth.
</AI12><TRAILER_SECTION></TRAILER_SECTION><LAYOUT_SECTION> |