Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd Gareth Bennett i'r cyfarfod fel Rheolwr Busnes newydd
grŵp UKIP. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Hysbysodd y
Llywydd y Rheolwyr Busnes am y ceisiadau a gafwyd ar gyfer Cwestiwn Brys a Dadl
Frys ynghylch effaith y cytundeb a wnaed rhwng Llywodraeth y DU a'r DUP ar
fformiwla Barnett. ·
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes. Dydd Mercher ·
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: ·
Penderfynodd y
Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o
fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Cyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar Adroddiad
Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 (60 munud) ·
Cynnig o dan
Reol Sefydlog 10.5 i ymestyn penodiad Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru
(5 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd
i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud) |
|
Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - Dethol Cynnig i'w drafod Cofnodion: ·
Dewisodd y
Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer y ddadl ar 5 Gorffennaf: NNDM6349 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig am fil i gefnogi gofalwyr ifanc yng Nghymru. 2. Diben y bil hwn fyddai: a) darparu canllawiau statudol i ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru
ar gyfer darparu cefnogaeth a hyblygrwydd priodol i ofalwyr ifanc ymgymryd â'u
cyfrifoldebau gofal yn ystod oriau ysgol ac ar ôl oriau ysgol; b) darparu canllawiau i ysgolion i weithio gyda gofalwyr ifanc er mwyn
darparu llwybrau hyblyg i sicrhau eu bod yn parhau mewn addysg; c) caniatáu i ofalwyr ifanc gasglu presgripsiynau ar ran y rhai sydd yn eu
gofal, a hynny gyda Cherdyn Gofalwr Ifanc neu ddull arall; a d) sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn
gweithio gyda'r sefydliadau priodol i gyflwyno gwasanaeth lliniarol a
chefnogaeth i ofalwyr ifanc ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. ·
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i drefnu'r ddadl nesaf ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod yn
nhymor yr hydref, wedi iddynt adolygu'r drefn berthnasol. |
|
Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) Cofnodion: Yn dilyn cais gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, sy'n bwriadu cyflwyno Bil
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) fel Bil Pwyllgor, cytunodd y Rheolwyr
Busnes i ohirio'r cam o wneud penderfyniad mewn egwyddor ynghylch pa bwyllgor y
dylid cyfeirio'r Bil ato at ddibenion gwaith craffu, a hynny er mwyn gallu
ystyried y Bil yng nghyd-destun rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth, a
gyhoeddwyd heddiw. |
|
Effaith Deddf Cymru 2017 ar Reolau Sefydlog y Cynulliad: Uwch-fwyafrifoedd Cofnodion: Gwnaeth y Rheolwyr Busnes: ·
nodi'r
gofynion statudol newydd sydd wedi'u cynnwys yn Adran 111A a 111B o Ddeddf
Llywodraeth Cymru a'r ffaith bod angen newid y Rheolau Sefydlog i'w hadlewyrchu
(paragraffau 8-14); ·
nodi'r cyngor
cyfreithiol a ddarparwyd mewn nodyn atodol, sef Atodiad B, ynghylch y
goblygiadau ar gyfer y Cyfnod Ailystyried a'r dull a fabwysiadwyd yn yr Alban,
lle mae Deddf yr Alban 2016 wedi cyflwyno darpariaethau sydd yn union yr un
fath; ·
cytuno i
ymgynghori â'u grwpiau ar y materion hyn a dychwelyd atynt i gael penderfyniad
mewn cyfarfod yn y dyfodol. |