Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Cytunodd y Rheolwyr
Busnes i gyflwyno cynnig i atal Rheolau Sefydlog, i'w gynnwys ar ôl y Datganiad
a Chyhoeddiad Busnes, i symud y Ddadl Fer o ddydd Mercher i'r eitem olaf o
fusnes ddydd Mawrth. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y câi’r Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl
Fer ddydd Mercher. Dydd Mercher ·
Trafododd y Rheolwyr
Busnes sut i osgoi cael cyfarfodydd sy'n rhy hir ar ddydd Mercher yn y dyfodol
drwy drefnu un awr yn llai o amser i'r gwrthbleidiau pan fo eitemau fel
Datganiadau Pwyllgor neu gynigion deddfwriaethol gan Aelodau wedi’u trefnu, er
mwyn ystyried Cwestiynau Amserol a fydd bellach yn eitem reolaidd bob dydd
Mercher. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y câi’r Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr
eitem olaf o fusnes. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais gan Vikki Howells i gyfnewid ei slot ar
gyfer dadl fer ar 7 Mehefin â slot Mike Hedges ar 21 Mehefin; diwygiwyd y Datganiad
a Chyhoeddiad Busnes yn unol â hynny. Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i
gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
·
Dadl yn ceisio cytundeb
y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod – y Bil Awtistiaeth (Cymru) (Paul
Davies) (60 munud) ·
Dadl gan Aelodau Unigol
o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) ·
Dadl ar adroddiad
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Y Darlun Mawr: Safbwyntiau
cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru (60 munud) |
|
Dadl Aelod Unigol: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Dewisodd y Pwyllgor Busnes ddau gynnig i'w trafod – un ar 24 Mai, a'r llall
ar 14 Mehefin. Dydd Mercher 24 Mai: NNDM6311 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) Hefin David (Caerffili) Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn llongyfarch staff GIG Cymru am drin a gwella'r nifer uchaf erioed o
gleifion â Hepatitis C. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei hymrwymiad i ddyddiad dileu
Hepatitis C Sefydliad Iechyd y Byd o 2030. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried canllawiau gweithredu newydd er
mwyn cefnogi'r GIG i weithio tuag at ddileu Hepatitis C yng Nghymru. Dydd Mercher 14 Mehefin: NNDM6283 Huw Irranca–Davies (Ogwr) Jeremy Miles (Castell-nedd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r £217 miliwn o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd
diwethaf ac ymrwymiad pellach o £104 miliwn dros y pedair blynedd nesaf i wella
effeithlonrwydd ynni yn y cartref a mynd i'r afael â thlodi tanwydd. 2. Yn nodi ymhellach bod angen i effeithlonrwydd ynni yn y cartref gael ei
wella'n sylweddol os yw Cymru am gyrraedd ei nod o ran datgarboneiddio a
lleihau tlodi tanwydd. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried amrywiaeth ehangach o ddulliau
buddsoddi ar gyfer effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys cyllid arloesol, gwneud
defnydd da o bensiynau'r sector cyhoeddus, a defnyddio cyllid y sector preifat. 4. Yn nodi'r cynnig i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru ac yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod anghenion seilwaith ynni hirdymor Cymru
a chyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd ynni yn cael eu cynnwys o fewn ei gylch
gwaith. 5. Yn credu y byddai buddsoddiad o'r fath yn rhoi hwb enfawr i ymdrechion i
fynd i'r afael â thlodi tanwydd mewn rhai o'n cartrefi hynaf, gan ddarparu
cartrefi cynnes a chlyd, gwella iechyd a llesiant pawb ac yn arbennig y mwyaf
agored i niwed. 6. Yn credu ymhellach y byddai hyn yn helpu i fynd i'r afael â newid
hinsawdd, lleihau'r allyriadau carbon drwy effeithlonrwydd ynni, lleihau'r
defnydd o ynni a lleihau nifer y gorsafoedd pŵer newydd sydd angen inni eu
hadeiladu. 7. Yn cydnabod y potensial ar gyfer twf economaidd, gan greu miloedd o
swyddi ym mhob cymuned ym mhob rhan o Gymru. |