Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
yn gwneud datganiad ar rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ddydd Mawrth (45
munud) Byddai'r
Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer
ddydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y
Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd
Mercher 17 Mai 2017 -
Dydd
Mercher 24 Mai 2017 –
|
|
Dadl Aelod Unigol: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer dadl ar 10
Mai. Dydd Mercher 10 Mai 2017 - NNDM6288 Mike Hedges (Dwyrain
Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod plismona
yn fater sydd wedi'i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. 2. Yn galw am ddatganoli
plismona i Gymru. 3. Yn credu ei bod yn
well cydgysylltu materion plismona arbenigol, fel polisïau gwrth-frawychiaeth,
ar lefel y DU. Cytunodd y Rheolwyr
Busnes i gynnwys y Ddadl Aelod Unigol nesaf ar yr amserlen ar gyfer 24 Mai. |
|
Deddfwriaeth |
|
Papur i'w nodi – Amserlen ddiwygiedig ar gyfer y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysgiadol (Cymru) Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes amserlen ddiwygiedig y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r
Tribiwnlys Addysgiadol ar ôl cytuno y tu allan i'r Pwyllgor i ymestyn y terfyn
amser ar gyfer cyflwyno'r adroddiad ar Gyfnod 1 o 12 Mai i 24 Mai, a'r dyddiad
ar gyfer cwblhau Cyfnod 2 o 14 Gorffennaf i 21 Gorffennaf. Cytunodd y Pwyllgor
hefyd i gais gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gynnal
cyfarfod ychwanegol brynhawn Llun 8 Mai i ystyried y dystiolaeth a gafwyd yn
ystod Cyfnod 1, a'r adroddiad drafft. |
|
Papur i'w nodi – Llythyr gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ynghylch y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Carchardai a Llysoedd Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon a oedd yn nodi na fydd yn adrodd ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol
ynghylch y Bil Carchardai a Llysoedd am fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg wedi ystyried y Bil ac yn llunio adroddiad ar gymalau 4-6: yr Ombwdsmon
Carchardai a Phrofiannaeth; ymchwiliadau i farwolaethau mewn cartrefi diogel i
blant. Nododd Jane Hutt na fyddai'r Bil hwn yn mynd ymlaen ymhellach yn San
Steffan gan fod y Senedd ar fin cael ei diddymu. |
|
Unrhyw fater arall Yn dilyn
penderfyniad Mark Reckless i adael grŵp UKIP, rhoddodd y Llywydd wybod i'r
Rheolwyr Busnes y bydd papur ar sut y bydd hyn yn effeithio ar y Pwyllgorau yn
cael ei ddosbarthu cyn cyfarfod yr wythnos nesaf, pan fydd angen i'r Rheolwyr
Busnes ystyried sut i lenwi'r swyddi gwag. |