Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion o'r cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Rhoddodd Arweinydd y Tŷ wybod i'r Rheolwyr Busnes nad oedd y Prif Weinidog yn gallu bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn heddiw oherwydd mater personol, ac felly y byddai hi'n ateb Cwestiynau'r Prif Weinidog yn ei le.

 

Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i symud y ddadl ar Gynnig Deddfwriaethol Aelod o 29 Mawrth i 5 Ebrill fel y gall y Rheolwyr Busnes ddewis cynnig unwaith y bydd canlyniad y bleidlais ar gyfer Biliau Aelodau (a fydd yn digwydd ar 28 Mawrth), yn hysbys.

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 22 Mawrth 2017 -

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y goblygiadau i Gymru o adael yr Undeb Ewropeaidd (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud) - symudwyd i 29 Mawrth

 

Dydd Mercher 29 Mawrth 2017 -

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) - symudwyd i 5 Ebrill
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) - symudwyd i 5 Ebrill


Dydd Mercher 5 Ebrill 2017 –

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar Benodiadau Gweinidogol: Gwrandawiadau Cyn Penodi gan Bwyllgorau'r Cynulliad (30 munud)
  • Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

3.4

Dadl Aelod Unigol: Dewis Cynnig

Cofnodion:

Dewisodd y Pwyllgor Busnes ddau gynnig i'w trafod: y cyntaf ar 22 Mawrth, yr ail ar 5 Ebrill.

 

Dydd Mercher 22 Mawrth 2017 -

 

·         NNDM6259
Jeremy Miles (Castell-nedd)
Lee Waters (Llanelli)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod Cymru yn elwa ar arfordir hir a'r ail gyrhaeddiad llanw uchaf yn y byd.

 

2. Yn nodi ymhellach fod gweithgarwch economaidd yn gysylltiedig â'r môr eisoes yn werth tua £2.1 biliwn yng Nghymru, ac yn cynnal degau o filoedd o swyddi.

 

3. Yn credu y bydd ymrwymiad strategol i'r economi las yn galluogi Cymru i droi ein moroedd yn un o'n hasedion economaidd mwyaf.

 

4. Yn credu ymhellach y gall Cymru fod yn arweinydd ym maes ynni adnewyddadwy morol, twristiaeth a chwaraeon, pysgota, bwyd a dyframaethu, a gweithgynhyrchu a pheirianneg morol.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cynllun Morol uchelgeisiol i gefnogi datblygiad cynaliadwy yr economi las, a'i gwneud yn elfen ganolog o'i strategaeth economaidd newydd.

 

Dydd Mercher 5 Ebrill 2017 –

 

  • NNDM6260
    Lee Waters (Llanelli)
    Jeremy Miles (Castell-nedd)
    Hefin David (Caerffili)
    Vikki Howells (Cwm Cynon)
    David Melding (Canol De Cymru)

    Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:


1. Yn nodi bod yr hyn a elwir yn 'bedwerydd chwyldro diwydiannol' yn cynnig heriau a chyfleoedd i economi Cymru.


2. Yn nodi bod risg i tua 700,000 o swyddi yng Nghymru dros y ddau ddegawd nesaf o ganlyniad i awtomatiaeth.


3. Yn credu bod gan Gymru arbenigedd eisoes sy'n rhoi mantais gystadleuol mewn diwydiannau twf sy'n dod i'r amlwg.


4. Yn cydnabod bod angen inni, er mwyn manteisio ar y diwydiannau newydd hyn, ganolbwyntio ar ddulliau cyflym, hyblyg sy'n addasu'n rhwydd i amgylchiadau sydd wedi newid.


5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar Strategaeth Arloesi Cymru gyda'r bwriad o sicrhau ei bod yn adlewyrchu maint a chwmpas yr amhariad rydym yn ei wynebu, ac yn ymrwymo i adolygiad strategol o gyfleoedd mewn sectorau newydd twf uchel, lle mae gan Gymru'r potensial i sicrhau ei bod yn dominyddu'r farchnad yn gynnar fel rhan o'i gwaith ar ddatblygu strategaeth economaidd newydd.

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Carchardai a Llysoedd:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Carchardai a Llysoedd.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at bedwar pwyllgor er mwyn iddynt graffu arno; y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon; y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgorau gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Iau 4 Mai er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 9 Mai 2017.

 

5.

Defnyddio amser yn y Cyfarfod Llawn

5.1

Cwestiynau Amserol

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes gynigion diwygiedig ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Amserol a diwygio'r meini prawf ar gyfer Cwestiynau Brys.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y cynigion yn y papur ac i'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno adroddiad drafft i'r Pwyllgor Busnes gytuno arno a'i roi gerbron y Cynulliad. Cytunwyd na fyddai unrhyw ddyraniad amser ar gyfer Cwestiynau Amserol yn cael ei gynnwys yn y Rheolau Sefydlog fel bod gan y Rheolwyr Busnes hyblygrwydd i newid yr amseru os oes angen yn nes ymlaen.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i adolygu'r drefn newydd yn nhymor yr hydref, gan gynnwys faint o amser a ddyrennir a phryd y cawsant eu trefnu.

 

Unrhyw fater arall

Gofynnodd Paul Davies am eglurhad ar sefyllfa Neil McEvoy o fewn grŵp Plaid Cymru a pha effaith y byddai hyn yn ei chael ar feintiau grwpiau'r wrthblaid, gan gynnwys dyrannu lleoedd pwyllgor. Dywedodd y Llywydd y byddai'n gwerthfawrogi pe gallai'r sefyllfa gael ei gwneud yn eglur cyn gynted â phosibl.