Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer
ddydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes
amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i
gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 15 Mawrth
2017 –
Dydd Mercher 22 Mawrth
2017 –
Dydd Mercher 29 Mawrth
2017 –
|
|
Deddfwriaeth |
|
Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - Ymateb gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cofnodion: Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad, mewn egwyddor, ar 14
Chwefror i gyfeirio Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)
at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar gyfer ei ystyried
yng Nghyfnod 1, a chytunwyd mai'r dyddiad terfyn i'r Pwyllgor adrodd ar y Bil
yng Nghyfnod 1 fyddai 7 Gorffennaf 2017, a'r dyddiad terfyn ar gyfer cwblhau
trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2 fyddai 13 Hydref 2017. |
|
Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar gyfer Bil yr Economi Ddigidol Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y llywodraeth ynghylch Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â Bil yr Economi Ddigidol. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau er mwyn iddo
graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno
adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Llun 13 Mawrth er
mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn
ddydd Mawrth 14 Mawrth 2017. |
|
Pwyllgorau |
|
Papur gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Cais am gyfarfod ychwanegol Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar gais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn
gofyn am gyfarfod ychwanegol fore Mawrth 28 Mawrth 2017 er mwyn i'r Pwyllgor
allu craffu ar gyfrifon blynyddol 2015-16 Cyfoeth Naturiol Cymru. |
|
Unrhyw fater arall Gwnaeth y Llywydd atgoffa'r Rheolwyr Busnes fod disgwyl i Aelodau sydd wedi
gwneud cais i siarad ar eitemau busnes gyrraedd cyn dechrau'r eitem honno os
ydynt yn dymuno cael eu galw. Cyfrifoldeb yr Aelodau yw sicrhau eu bod yn
ymwybodol os yw busnes yn rhedeg o flaen amser. |